Chwilio Deddfwriaeth

Gorchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân (Cymru) (Diwygio) 2014

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau AgorExpand opening options

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Enwi, cychwyn a dehongli

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân (Cymru) (Diwygio) 2014.

(2Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 31 Rhagfyr 2014, ond, yn ddarostyngedig i baragraffau (3) i (5), mae’n cael effaith o 1 Gorffennaf 2013 ymlaen(1).

(3Mae paragraff 12(c) o’r Atodlen i’r Gorchymyn hwn, a chymaint o erthygl 2 ag sy’n ymwneud â’r ddarpariaeth honno, yn cael effaith o 25 Medi 2009 ymlaen.

(4Mae darpariaethau canlynol yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn, a chymaint o erthygl 2 ag sy’n ymwneud â’r darpariaethau hynny, yn cael effaith o 11 Ebrill 2011 ymlaen—

(a)paragraff 2(f)(ii),(iii) a (iv); a

(b)paragraff 2(g) (sy’n mewnosod rheol B5C (budd pensiwn ychwanegol)), i’r graddau y mae’n ymwneud â’r budd pensiwn ychwanegol o dan baragraff (3) o reol B5C, a’r diffiniadau o “beginning date” a “following relevant tax year” ym mharagraff (6) o reol B5C.

(5Mae darpariaethau canlynol yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn, a chymaint o erthygl 2 ag sy’n ymwneud â’r darpariaethau hynny, yn cael effaith o 1 Ebrill 2014—

(a)paragraff 15(f), (k) ac (l); a

(b)paragraff 20(b).

(6Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “awdurdod tân ac achub perthnasol” (“relevant fire and rescue authority”) mewn perthynas â pherson sydd â hawlogaeth i gael pensiwn neu berson y mae pensiwn yn daladwy iddo, yw—

(a)

yr awdurdod tân ac achub a fu’n cyflogi’r person hwnnw felly, ddiwethaf; neu

(b)

os peidiodd cyflogaeth y person hwnnw cyn 1 Hydref 2004, yr awdurdod tân ac achub a etifeddodd rwymedigaethau’r awdurdod tân a fu’n cyflogi’r person hwnnw ddiwethaf;

ystyr “y Cynllun” (“the Scheme”) yw Cynllun Pensiwn y Dynion Tân (Cymru) fel y’i pennir yn Atodlen 2 i Orchymyn 1992; ac

ystyr “Gorchymyn 1992” (“the 1992 Order”) yw Gorchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân 1992(2).

(1)

Rhoddir pŵer i roi effaith yn ôl-weithredol gan adran 12(1) o Ddeddf Blwydd-daliadau 1972 (p. 11).

Yn ôl i’r brig

Options/Help