Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) (Diwygio) 2014

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau AgorExpand opening options

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005 (“y Prif Reoliadau”), sy’n gwneud darpariaeth ynghylch yr arfer gan asiantaethau mabwysiadu (sef, awdurdodau lleol a chymdeithasau mabwysiadu cofrestredig) o’u swyddogaethau mewn perthynas â mabwysiadu o dan Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002. Deuant i rym ar 1 Ebrill 2014.

Mae’r Prif Reoliadau yn ei gwneud yn ofynnol bod rhaid i asiantaeth fabwysiadu, wrth ystyried mabwysiadu ar gyfer plentyn, atgyfeirio’r achos at banel mabwysiadu a fydd wedyn yn gorfod gwneud argymhelliad i’r asiantaeth ynghylch a ddylid lleoli’r plentyn ar gyfer ei fabwysiadu.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r Prif Reoliadau er mwyn rhoi mwy o hyblygrwydd i asiantaethau mabwysiadu wrth iddynt ffurfio panel mabwysiadu, pa un ai ar eu pennau eu hunain neu ar y cyd ag asiantaethau mabwysiadu eraill.

Mae rheoliad 2 yn rhoi’r rheoliadau a ganlyn yn lle rheoliadau 3 i 9 o’r Prif Reoliadau:

Mae rheoliad 3 yn ei gwneud yn ofynnol i asiantaethau mabwysiadu gynnal rhestr o bersonau y maent yn ystyried eu bod yn addas i fod yn aelodau o banel mabwysiadu (“y rhestr ganolog”), yn gwneud darpariaeth ynghylch cynnwys personau ar y rhestr ac yn darparu i ddwy neu ragor o asiantaethau mabwysiadu gynnal rhestr ar y cyd.

Mae rheoliad 4 yn gwneud darpariaeth ynghylch ffurfio paneli mabwysiadu, gan gynnwys darpariaeth i ddwy neu ragor o asiantaethau mabwysiadu ffurfio panel mabwysiadu ar y cyd.

Mae rheoliad 5 yn darparu nad yw rheoliad 7 yn gymwys i asiantaeth fabwysiadu nad yw ond yn gweithredu er mwyn rhoi personau mewn cysylltiad ag asiantaethau mabwysiadu eraill.

Mae rheoliad 6 yn gwneud darpariaeth ynghylch pryd y mae panel mabwysiadu yn gallu gwneud cworwm.

Mae rheoliad 7 yn gosod dyletswydd ar asiantaethau mabwysiadu i lunio a gweithredu polisi a chyfarwyddiadau gweithdrefnol ysgrifenedig sy’n llywodraethu sut yr arferir swyddogaethau’r asiantaeth a’r panel mabwysiadu.

Mae rheoliad 8 yn gwneud darpariaeth ynghylch penodi gweithiwr cymdeithasol sydd â’r cymwysterau a’r profiad addas yn gynghorydd asiantaeth a phenodi cynghorydd meddygol i’r panel.

Mae rheoliad 9 yn gwneud darpariaeth ynghylch y cyngor sydd i’w roi i baneli mabwysiadu mewn mabwysiadau ag elfen dramor iddynt.

Mae rheoliad 3 o’r Rheoliadau diwygio hyn yn gwneud darpariaethau trosiannol ynghylch achosion a atgyfeirir at banel mabwysiadu cyn 1 Ebrill 2014 ond nad ydynt wedi eu hystyried gan banel mabwysiadu erbyn y dyddiad hwnnw.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

Yn ôl i’r brig

Options/Help