Print Options
PrintThe Whole
Instrument
PrintThe Whole
Part
PrintThis
Section
only
Statws
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Enwi a dehongli
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cymwysterau Cymru 2015 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaethau Trosiannol ac Arbed) 2015.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
mae i “cymhwyster perthnasol” yr un ystyr ag a roddir i “relevant qualification” yn adran 30 o Ddeddf 1997() fel y mae’r adran honno mewn grym yn union cyn 21 Medi 2015;
ystyr “Deddf 1997” (“the 1997 Act”) yw Deddf Addysg 1997();
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Cymwysterau Cymru 2015;
ystyr “y Gronfa Ddata” (“the Database”) yw’r gronfa ddata a gyhoeddir ar-lein() o’r enw “y Gronfa Ddata Cymwysterau Cymeradwy yng Nghymru” ac a elwir hefyd yn “DAQW”.
Yn ôl i’r brig