Print Options
PrintThe Whole
Instrument
PrintThe Whole
Part
PrintThis
Section
only
Statws
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Cwynion
12.—(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys pan fo cwyn wedi ei gwneud, cyn 21 Medi 2015, i Weinidogion Cymru mewn perthynas â mater a ddisgrifir ym mharagraff (2) ac nad yw Gweinidogion Cymru wedi cwblhau’r gwaith o’i hystyried.
(2) Y materion yw fel a ganlyn—
(a)dyfarnu neu ddilysu ffurf ar gymhwyster gan berson sydd wedi ei gydnabod mewn cysylltiad â hi o dan adran 30(1)(e) o Ddeddf 1997;
(b)unrhyw weithgareddau eraill gan berson sydd wedi ei gydnabod o dan adran 30(1)(e) o Ddeddf 1997 sy’n berthnasol i’r gydnabyddiaeth honno.
(3) O 21 Medi 2015 ymlaen, mae’r gŵyn i gael ei thrin at ddibenion adran 48 o’r Ddeddf fel cwyn a wneir i Gymwysterau Cymru.
Yn ôl i’r brig