Ceisiadau a wneir o dan Ddeddf 2004
Ceisiadau sy’n ymwneud â hysbysiadau gwella
6.—(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 10(1) o Atodlen 1 i Ddeddf 2004 (apêl yn erbyn hysbysiad gwella) ac eithrio cais y cyfeirir ato ym mharagraff 2.
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a)copi o’r hysbysiad gwella (gan gynnwys unrhyw atodlen iddo);
(b)y datganiad o resymau; ac
(c)os sail y cais, neu un o’i seiliau, yw mai un o’r ffyrdd o weithredu a grybwyllir ym mharagraff 12(2) o Atodlen 1 i Ddeddf 2004 yw’r ffordd orau o weithredu mewn perthynas â’r perygl, datganiad yn nodi beth yw’r ffordd honno o weithredu, ynghyd â rhesymau’r ceisydd dros ystyried mai honno yw’r ffordd orau.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw’r ATLl.
7.—(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 10 o Atodlen 1 i Ddeddf 2004 sydd ar y sail a nodir ym mharagraff 11(1) o’r Atodlen honno (sail apêl yn ymwneud â phersonau eraill), neu sy’n cynnwys y sail honno.
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a)copi o’r hysbysiad gwella (gan gynnwys unrhyw atodlen iddo);
(b)y datganiad o resymau;
(c)os un o’r seiliau ar gyfer y cais yw mai ffordd arall o weithredu a grybwyllir ym mharagraff 12(2) o Atodlen 1 i Ddeddf 2004 yw’r ffordd orau o weithredu mewn perthynas â’r perygl, datganiad yn nodi beth yw’r ffordd honno o weithredu, ynghyd â rhesymau’r ceisydd dros ystyried mai honno yw’r ffordd orau;
(d)enw a chyfeiriad unrhyw berson a ddylai, fel un o berchnogion y fangre, ym marn y ceisydd, weithredu fel sy’n ofynnol o dan yr hysbysiad gwella neu dalu’r cyfan neu ran o gostau’r gweithredu hwnnw (“y perchennog arall”);
(e)prawf bod copi o’r cais wedi ei gyflwyno i’r perchennog arall; ac
(f)datganiad yn cynnwys y manylion a ganlyn—
(i)natur buddiant y perchennog arall yn y fangre;
(ii)y rheswm pam y mae’r ceisydd yn ystyried y dylai’r perchennog arall weithredu fel sydd dan sylw, neu dalu’r cyfan neu ran o gost gweithredu felly; a
(iii)os sail y cais yw y dylai’r perchennog arall dalu’r cyfan neu ran o gost y gweithredu, amcangyfrif o gost y gweithredu a’r gyfran o’r gost honno y mae’r ceisydd yn ystyried y dylai’r perchennog arall ei thalu.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw’r ATLl.
8.—(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 13(1) o Atodlen 1 i Ddeddf 2004 (apêl yn erbyn penderfyniad ATLl i amrywio neu wrthod amrywio neu ddirymu hysbysiad gwella).
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a)copi o’r hysbysiad gwella (gan gynnwys unrhyw atodlen iddo);
(b)y datganiad o resymau; ac
(c)copi o benderfyniad yr ATLl i amrywio neu wrthod amrywio neu ddirymu (gan gynnwys unrhyw ddogfennau a ddyroddwyd gan yr ATLl mewn cysylltiad â’i hysbysiad o benderfyniad).
(3) Yr ymatebydd penodedig yw’r ATLl.
9.—(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan—
(a)paragraff 11(1) o Atodlen 3 i Ddeddf 2004 (apêl yn erbyn hawliad gan yr ATLl am adennill y treuliau yr aeth yr ATLl iddynt wrth weithredu pan fo hysbysiad gwella wedi ei gyflwyno); a
(b)y paragraff hwnnw fel y’i cymhwysir gydag addasiadau gan adran 42 o Ddeddf 2004 (apêl yn erbyn hawliad gan yr ATLl am adennill y treuliau yr aed iddynt wrth gymryd camau adferol brys).
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a)copi o’r hysbysiad gwella neu (yn ôl y digwydd) yr hysbysiad o weithredu adferol brys (gan gynnwys unrhyw atodlen iddo);
(b)yr hysbysiad o’r datganiad o resymau;
(c)copi o’r hysbysiad a gyflwynwyd gan yr ATLl o dan baragraff 4 o Atodlen 3 i Ddeddf 2004 (hysbysiad ynghylch bwriad ATLl i fynd i fangre i gymryd camau gweithredu penodedig heb gytundeb);
(d)copi o hawliad yr ATLl am dreuliau; ac
(e)pan wneir y cais ar y sail a grybwyllir ym mharagraff 11(4) o’r Atodlen honno, manylion y cynnydd y dibynnir ar iddo gael ei wneud tuag at gydymffurfio â’r hysbysiad.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw’r ATLl.
Ceisiadau sy’n ymwneud â gorchmynion gwahardd
10.—(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 22(9) o Ddeddf 2004 (apêl yn erbyn gwrthodiad gan ATLl i gymeradwyo defnydd penodol o dan adran 22(4) o Ddeddf 2004).
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a)copi o’r gorchymyn gwahardd (gan gynnwys unrhyw atodlen iddo);
(b)y datganiad o resymau; ac
(c)hysbysiad o benderfyniad yr ATLl i wrthod cymeradwyo defnydd penodol o’r cyfan neu ran o’r fangre.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw’r ATLl.
11.—(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 34(2) o Ddeddf 2004 (cais gan lesydd neu lesddeiliad am orchymyn yn terfynu neu’n amrywio les pan fo gorchymyn gwahardd wedi dod yn weithredol).
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a)copi o’r gorchymyn gwahardd (gan gynnwys unrhyw atodlen iddo);
(b)y datganiad o resymau;
(c)copi o’r les berthnasol; a
(d)datganiad o enw a chyfeiriad unrhyw barti arall i’r les ac enw a chyfeiriad unrhyw barti i les isradd.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw’r parti arall i’r les.
12.—(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 7(1) o Atodlen 2 i Ddeddf 2004 (apêl yn erbyn gorchymyn gwahardd).
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a)copi o’r gorchymyn gwahardd (gan gynnwys unrhyw atodlen iddo);
(b)y datganiad o resymau; ac
(c)os un o seiliau’r cais yw mai un o’r ffyrdd o weithredu a grybwyllir ym mharagraff 8(2) o Atodlen 2 i Ddeddf 2004 yw’r ffordd orau o weithredu mewn perthynas â’r perygl, datganiad yn nodi beth yw’r ffordd honno o weithredu ynghyd â rhesymau’r ceisydd dros ystyried mai honno yw’r ffordd orau.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw’r ATLl.
13.—(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 9 o Atodlen 2 i Ddeddf 2004 (apêl yn erbyn penderfyniad ATLl i amrywio neu wrthod amrywio neu ddirymu gorchymyn gwahardd).
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a)copi o’r gorchymyn gwahardd (gan gynnwys unrhyw atodlen iddo);
(b)y datganiad o resymau; ac
(c)copi o benderfyniad yr ATLl i amrywio neu wrthod amrywio neu ddirymu (gan gynnwys unrhyw ddogfennau a ddyroddwyd gan yr ATLl mewn cysylltiad â’i hysbysiad o benderfyniad).
(3) Yr ymatebydd penodedig yw’r ATLl.
Ceisiadau sy’n ymwneud â gweithredu adferol brys
14.—(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 45(1) o Ddeddf 2004 (apêl gan berson y cyflwynwyd hysbysiad iddo o dan adran 41 o Ddeddf 2004 yn erbyn penderfyniad ATLl i gymryd camau gweithredu adferol brys).
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a)copi o’r hysbysiad o weithredu adferol brys (gan gynnwys unrhyw atodlen iddo); a
(b)y datganiad o resymau.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw’r ATLl.
15.—(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 45(2) o Ddeddf 2004 (apêl gan berson perthnasol yn erbyn gorchymyn gwahardd brys).
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a)copi o’r hysbysiad o orchymyn gwahardd brys a wnaed o dan adran 43 o Ddeddf 2004 (gan gynnwys unrhyw atodlen iddo); a
(b)y datganiad o resymau.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw’r ATLl.
16.—(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan—
(a)paragraff 14 o Atodlen 3 i Ddeddf 2004 (cais gan ATLl am orchymyn i adennill treuliau a llog oddi wrth berson sy’n elwa o weithredu heb gytundeb); a
(b)y paragraff hwnnw fel y’i cymhwysir gydag addasiadau gan adran 42 o Ddeddf 2004 (adennill treuliau am weithredu adferol brys).
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a)copi o’r hysbysiad gwella neu, yn ôl y digwydd, yr hysbysiad o weithredu adferol brys (gan gynnwys unrhyw atodlen iddo);
(b)y datganiad o resymau;
(c)copi o’r hawliad am dreuliau a gyflwynwyd o dan baragraff 9 o’r Atodlen honno;
(d)copi o unrhyw hysbysiad a gyflwynwyd o dan baragraff 12 o’r Atodlen honno; ac
(e)prawf bod yr hysbysiad wedi ei gyflwyno i’r person o dan sylw fel y crybwyllir ym mharagraff 14(2) o’r Atodlen honno.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw’r person y mae’r ATLl yn ceisio adennill treuliau a llog oddi wrtho.
Ceisiadau sy’n ymwneud â thrwyddedu HMO
17.—(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 62(7) o Ddeddf 2004 (apêl yn erbyn gwrthodiad gan ATLl i gyflwyno hysbysiad esemptio dros dro).
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a)copi o’r hysbysiad i’r ATLl o dan adran 62(1) o Ddeddf 2004; a
(b)copi o’r hysbysiad o benderfyniad yr ATLl o dan adran 62(6) o Ddeddf 2004.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw’r ATLl.
18.—(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 73(5) o Ddeddf 2004 (cais gan ATLl neu feddiannydd am orchymyn ad-dalu rhent).
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a)pan wneir y cais gan yr ATLl—
(i)copi o’r hysbysiad o’r bwriad i ddwyn achos o dan adran 73(7) o Ddeddf 2004;
(ii)copi o unrhyw sylwadau a gafwyd mewn cysylltiad â’r hysbysiad;
(iii)naill ai—
(aa)datganiad yn cynnwys y manylion y dibynnir arnynt ar gyfer gwneud yr honiad bod trosedd o dan adran 72(1) o Ddeddf 2004 wedi ei chyflawni; neu
(bb)pan fo’r ATLl yn dibynnu ar ddarpariaethau adran 74 o Ddeddf 2004, prawf bod y person priodol wedi ei euogfarnu o drosedd o dan adran 72(1) o Ddeddf 2004; a
(iv)dogfen sy’n dangos y budd-dal tai neu’r credyd cynhwysol a dalwyd gan yr ATLl mewn cysylltiad â meddiant o’r fangre yn ystod y cyfnod pryd yr honnir i drosedd o’r fath gael ei chyflawni;
(b)pan wneir y cais gan feddiannydd—
(i)tystiolaeth bod y person priodol wedi ei euogfarnu o drosedd o dan adran 72(1) o Ddeddf 2004 neu y’i gwnaed yn ofynnol drwy orchymyn ad-dalu rhent ei fod yn gwneud taliad mewn cysylltiad â budd-dal tai neu gredyd cynhwysol; a
(ii)tystiolaeth bod y meddiannydd wedi talu taliadau cyfnodol mewn cysylltiad â meddiant o’r fangre yn ystod y cyfnod pryd yr honnir bod trosedd o’r fath yn cael ei chyflawni.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw’r person priodol.
19.—(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 255(9) o Ddeddf 2004 (apêl yn erbyn penderfyniad ATLl i gyflwyno datganiad HMO).
(2) Y ddogfen benodedig yw copi o’r datganiad HMO.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw’r ATLl.
20.—(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 256(4) o Ddeddf 2004 (apêl yn erbyn penderfyniad ATLl i wrthod dirymu datganiad HMO).
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a)copi o’r datganiad HMO; a
(b)copi o hysbysiad yr ATLl o’i benderfyniad i beidio â dirymu’r datganiad HMO.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw’r ATLl.
21.—(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 31(1) o Atodlen 5 i Ddeddf 2004 (apêl yn erbyn penderfyniad ATLl i ganiatáu, neu wrthod caniatáu, trwydded o dan Ran 2 o Ddeddf 2004, neu yn erbyn unrhyw un o delerau’r drwydded).
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a)pan fo’r cais yn ymwneud â chaniatáu trwydded neu â thelerau trwydded—
(i)copi o hysbysiadau’r ATLl o dan baragraffau 1 a 7 o Atodlen 5 i Ddeddf 2004, ac o unrhyw hysbysiad o dan baragraff 3 o’r Atodlen honno; a
(ii)copi o’r drwydded; a
(b)pan fo’r cais yn ymwneud â gwrthodiad i ganiatáu trwydded, copi o hysbysiadau’r ATLl o dan baragraffau 5 ac 8 o’r Atodlen honno.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw’r ATLl.
22.—(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 32(1) o Atodlen 5 i Ddeddf 2004 (apêl gan ddeiliad trwydded neu unrhyw berson perthnasol yn erbyn penderfyniad gan ATLl ynglŷn ag amrywio neu ddirymu trwydded).
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a)pan fo’r cais yn ymwneud â phenderfyniad i amrywio trwydded, copi o hysbysiadau’r ATLl o dan baragraffau 14 ac 16 o Atodlen 5 i Ddeddf 2004;
(b)pan fo’r cais yn ymwneud â gwrthodiad i amrywio trwydded, copi o hysbysiadau’r ATLl o dan baragraffau 19 ac 21 o’r Atodlen honno;
(c)pan fo’r cais yn ymwneud â phenderfyniad i ddirymu trwydded, copi o hysbysiadau’r ATLl o dan baragraffau 22 a 24 o’r Atodlen honno;
(d)pan fo’r cais yn ymwneud â gwrthodiad i ddirymu trwydded, copi o hysbysiadau’r ATLl o dan baragraffau 26 ac 28 o’r Atodlen honno; ac
(e)ym mhob achos, copi o’r drwydded.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw’r ATLl.
Ceisiadau sy’n ymwneud â thrwyddedu llety preswyl arall yn ddetholus
23.—(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 86(7) o Ddeddf 2004 (apêl yn erbyn gwrthodiad gan yr ATLl i gyflwyno hysbysiad esemptio dros dro).
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a)copi o’r hysbysiad i’r ATLl o dan adran 86(1) o Ddeddf 2004; a
(b)copi o’r hysbysiad o benderfyniad yr ATLl o dan adran 86(6) o Ddeddf 2004.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw’r ATLl.
24.—(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 96(5) o Ddeddf 2004 (cais gan ATLl neu feddiannydd am orchymyn ad-dalu rhent).
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a)pan wneir y cais gan yr ATLl—
(i)copi o’r hysbysiad o’r bwriad i ddwyn achos o dan adran 96(7) o Ddeddf 2004;
(ii)copi o unrhyw sylwadau a gafwyd mewn cysylltiad â’r hysbysiad;
(iii)naill ai—
(aa)datganiad yn cynnwys y manylion y dibynnir arnynt ar gyfer gwneud yr honiad bod trosedd o dan adran 95(1) o Ddeddf 2004 wedi ei chyflawni; neu
(bb)pan fo’r ATLl yn dibynnu ar ddarpariaethau adran 97 o Ddeddf 2004, prawf bod y person priodol wedi ei euogfarnu o drosedd o dan adran 95(1) o Ddeddf 2004; a
(iv)dogfen sy’n dangos y budd-dal tai neu’r credyd cynhwysol a dalwyd gan yr ATLl mewn cysylltiad â meddiant o’r fangre yn ystod y cyfnod pryd yr honnir i drosedd o’r fath gael ei chyflawni;
(b)pan wneir y cais gan feddiannydd—
(i)tystiolaeth bod y person priodol wedi ei euogfarnu o drosedd o dan adran 95(1) o Ddeddf 2004 neu y’i gwnaed yn ofynnol drwy orchymyn ad-dalu rhent ei fod yn gwneud taliad mewn cysylltiad â budd-dal tai neu gredyd cynhwysol; a
(ii)tystiolaeth bod y meddiannydd wedi talu taliadau cyfnodol mewn cysylltiad â meddiant o’r fangre yn ystod y cyfnod pryd yr honnir bod trosedd o’r fath yn cael ei chyflawni.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw’r person priodol.
25.—(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 31 o Atodlen 5 i Ddeddf 2004 (apêl yn erbyn penderfyniad gan ATLl i ganiatáu, neu wrthod caniatáu, trwydded o dan Ran 3, neu sy’n ymwneud â thelerau trwydded).
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a)pan fo’r cais yn ymwneud â chaniatáu trwydded neu â thelerau trwydded—
(i)copi o hysbysiadau’r ATLl o dan baragraffau 1 a 7 o Atodlen 5 i Ddeddf 2004, ac o unrhyw hysbysiad o dan baragraff 3 o’r Atodlen honno; a
(ii)copi o’r drwydded; a
(b)pan fo’r cais yn ymwneud â gwrthodiad i ganiatáu trwydded, copi o hysbysiadau’r ATLl o dan baragraffau 5 ac 8 o’r Atodlen honno.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw’r ATLl.
26.—(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 32(1) o dan Atodlen 5 i Ddeddf 2004 (apêl gan ddeiliad trwydded neu berson perthnasol yn erbyn penderfyniad gan ATLl sy’n ymwneud ag amrywio neu ddirymu trwydded).
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a)pan fo’r cais yn ymwneud â phenderfyniad i amrywio trwydded, copi o hysbysiadau’r ATLl o dan baragraffau 14 ac 16 o Atodlen 5 i Ddeddf 2004;
(b)pan fo’r cais yn ymwneud â gwrthodiad i amrywio trwydded, copi o hysbysiadau’r ATLl o dan baragraffau 19 ac 21 o’r Atodlen honno;
(c)pan fo’r cais yn ymwneud â phenderfyniad i ddirymu trwydded, copi o hysbysiadau’r ATLl o dan baragraffau 22 a 24 o’r Atodlen honno;
(d)pan fo’r cais yn ymwneud â gwrthodiad i ddirymu trwydded, copi o hysbysiadau’r ATLl o dan baragraffau 26 ac 28 o’r Atodlen honno; ac
(e)ym mhob achos, copi o’r drwydded.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw’r ATLl.
Ceisiadau sy’n ymwneud â gorchmynion rheoli interim a therfynol
27.—(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 102(4) o Ddeddf 2004 (cais gan ATLl am awdurdod i wneud gorchymyn rheoli interim).
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a)copi o’r gorchymyn drafft;
(b)datganiad o’r materion sy’n berthnasol i ystyriaeth y tribiwnlys o—
(i)pa un a yw’r amod iechyd a diogelwch yn adran 104 o Ddeddf 2004 wedi ei fodloni; a
(ii)i ba raddau y cydymffurfiwyd ag unrhyw god ymarfer cymwys a gymeradwywyd o dan adran 233 o Ddeddf 2004; a
(iii)pan fo’r ATLl yn gofyn am ymdrin â’r cais fel mater brys o dan reoliad 10, datganiad sy’n rhoi manylion digonol i alluogi’r tribiwnlys i ffurfio barn ynglŷn ag a yw’n ymddangos bod yr amgylchiadau eithriadol a grybwyllir ym mharagraff (3) o’r rheoliad hwnnw yn bodoli.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw person perthnasol yn ôl y diffiniad o “relevant person” ym mharagraffau 8(4) a 35 o Atodlen 6 i Ddeddf 2004.
28.—(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 102(7) o Ddeddf 2004 (cais gan ATLl am awdurdod i wneud gorchymyn rheoli interim mewn cysylltiad â thŷ y mae adran 103 o Ddeddf 2004 yn gymwys iddo).
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a)copi o’r gorchymyn drafft;
(b)datganiad o’r materion sy’n berthnasol i ystyriaeth y tribiwnlys ynglŷn ag a yw’r amodau yn adran 103(3) a (4) o Ddeddf 2004 wedi eu bodloni; ac
(c)pan fo’r ATLl yn gofyn am ymdrin â’r cais fel mater brys o dan reoliad 10, datganiad sy’n rhoi manylion digonol i alluogi’r tribiwnlys i ffurfio barn ynglŷn ag a yw’n ymddangos bod yr amgylchiadau eithriadol a grybwyllir ym mharagraff (3) o’r rheoliad hwnnw yn bodoli.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw person perthnasol yn ôl y diffiniad o “relevant person” ym mharagraffau 8(4) a 35 o Atodlen 6 i Ddeddf 2004.
29.—(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 105(10) o Ddeddf 2004 (cais gan ATLl am orchymyn bod gorchymyn rheoli interim yn parhau mewn grym hyd nes penderfynir apêl).
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a)copi o’r gorchymyn rheoli interim; a
(b)copi o’r hysbysiad o apêl o dan baragraff 24 o Atodlen 6 i Ddeddf 2004 yn erbyn gwneud gorchymyn rheoli terfynol.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw’r ceisydd sydd wedi gwneud yr apêl berthnasol.
30.—(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 110(7) o Ddeddf 2004 (cais gan landlord perthnasol am orchymyn mewn perthynas â threfniadau ariannol tra bo gorchymyn rheoli interim mewn grym).
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a)copi o’r gorchymyn rheoli interim; a
(b)copi o’r cyfrifon a gadwyd gan yr ATLl yn unol ag adran 110(6) o Ddeddf 2004.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw’r ATLl.
31.—(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 114(7) o Ddeddf 2004 (cais gan ATLl am orchymyn bod gorchymyn rheoli terfynol sy’n bodoli eisoes i barhau mewn grym hyd nes penderfynir apêl yn erbyn gorchymyn rheoli terfynol newydd).
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a)copi o’r gorchymyn rheoli terfynol sy’n bodoli eisoes;
(b)copi o’r gorchymyn rheoli terfynol newydd a wnaed i ddisodli’r gorchymyn sy’n bodoli eisoes; ac
(c)copi o’r hysbysiad o apêl o dan baragraff 24 o Atodlen 6 i Ddeddf 2004 yn erbyn gwneud y gorchymyn rheoli terfynol newydd.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw’r ceisydd sydd wedi gwneud yr apêl berthnasol.
32.—(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 120(1) o Ddeddf 2004 (cais gan berson yr effeithir arno am orchymyn bod yr ATLl yn rheoli yn unol â’r cynllun rheoli yn y gorchymyn rheoli terfynol).
(2) Y ddogfen benodedig yw copi o’r gorchymyn rheoli terfynol sy’n cynnwys y cynllun rheoli y cyfeirir ato yn y cais.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw’r ATLl.
33.—(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 126(4) o Ddeddf 2004 (cais am addasu hawliau ac atebolrwyddau mewn perthynas â dodrefn a freinir yn yr ATLl tra bo gorchymyn rheoli mewn grym).
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a)copi o’r gorchymyn rheoli perthnasol; a
(b)datganiad sy’n rhoi manylion am briod hawliau ac atebolrwyddau (gan gynnwys perchnogaeth) pob un o’r personau sydd â buddiant yn y dodrefn.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw’r person arall sydd â buddiant yn y dodrefn.
34.—(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 130(9) o Ddeddf 2004 (cais i benderfynu pwy yw “y landlord perthnasol” (“the relevant landlord”) at ddibenion adran 130 o Ddeddf 2004 pan ddaw’r gorchymyn rheoli i ben).
(2) Y ddogfen benodedig yw copi o’r gorchymyn rheoli.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw’r landlord perthnasol arall.
35.—(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 24 o Atodlen 6 i Ddeddf 2004 (apêl yn erbyn gwneud gorchymyn rheoli, neu yn erbyn telerau’r gorchymyn neu’r cynllun rheoli cysylltiedig).
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a)copi o’r gorchymyn rheoli (gan gynnwys y cynllun rheoli);
(b)copi o’r hysbysiad a gyflwynwyd gan yr ATLl o dan baragraff 7(2)(b) o Atodlen 6 i Ddeddf 2004;
(c)pan fo’r cais yn ymwneud â thelerau’r gorchymyn rheoli, datganiad sy’n pennu pob un o’r telerau a wrthwynebir, ynghyd â’r rhesymau dros y gwrthwynebiad; a
(d)pan wneir y cais ar y sail a bennir ym mharagraff 24(3) o Atodlen 6 i Ddeddf 2004, datganiad o’r materion yn adran 110(5) o Ddeddf 2004 (sy’n ymwneud â thalu rhenti dros ben, etc.) sy’n berthnasol i’r sail honno.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw’r ATLl.
36.—(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 28 o Atodlen 6 i Ddeddf 2004 (apêl yn erbyn penderfyniad ATLl i amrywio neu ddirymu gorchymyn rheoli, neu wrthod amrywio neu ddirymu gorchymyn rheoli).
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a)pan fo’r cais yn ymwneud â phenderfyniad i amrywio gorchymyn rheoli, copi o hysbysiadau’r ATLl o dan baragraffau 9 ac 11 o Atodlen 6 i Ddeddf 2004;
(b)pan fo’r cais yn ymwneud â gwrthodiad i amrywio gorchymyn rheoli, copi o hysbysiadau’r ATLl o dan baragraffau 14 ac 16 o’r Atodlen honno;
(c)pan fo’r cais yn ymwneud â phenderfyniad i ddirymu gorchymyn rheoli, copi o hysbysiadau’r ATLl o dan baragraffau 17 a 19 o’r Atodlen honno;
(d)pan fo’r cais yn ymwneud â gwrthodiad i ddirymu gorchymyn rheoli, copi o hysbysiadau’r ATLl o dan baragraffau 20 a 22 o’r Atodlen honno; ac
(e)ym mhob achos—
(i)copi o’r gorchymyn rheoli; a
(ii)copi o’r hysbysiad a gyflwynwyd gan yr ATLl o dan baragraff 7(2)(b) o’r Atodlen honno.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw’r ATLl.
37.—(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 32(2) o Atodlen 6 i Ddeddf 2004 (apêl gan drydydd parti yn erbyn penderfyniad gan ATLl o dan adran 128 o Ddeddf 2004 ynglŷn â’r digollediad sy’n daladwy i drydydd partïon).
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a)copi o’r gorchymyn rheoli (gan gynnwys y cynllun rheoli);
(b)copi o hysbysiad yr ATLl i’r trydydd parti, o benderfyniad yr ATLl yn unol ag adran 128(2) o Ddeddf 2004; ac
(c)datganiad sy’n rhoi manylion llawn o’r canlynol—
(i)yr hawliau yr honnir yr ymyrrwyd â hwy o ganlyniad i’r gorchymyn rheoli; a
(ii)swm y digollediad a hawlir mewn cysylltiad â’r ymyrraeth honno.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw’r ATLl.
Ceisiadau mewn perthynas â gorchmynion rheoli anheddau gwag
38.—(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 133(1) o Ddeddf 2004 (cais gan ATLl am awdurdodiad i wneud GRhAG interim).
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a)copi o’r GRhAG interim drafft;
(b)datganiad o dystiolaeth—
(i)mewn cysylltiad â’r materion y mae’n rhaid bodloni’r tribiwnlys yn eu cylch o dan adran 134(2) o Ddeddf 2004;
(ii)ynglŷn ag ystyriaeth yr ATLl o’r hawliau a’r buddiannau a bennir yn adran 133(4) o Ddeddf 2004; ac
(c)pan fo’r ATLl, yn unol ag adran 133(3) o Ddeddf 2004, wedi hysbysu’r perchennog perthnasol ei fod yn ystyried gwneud GRhAG interim, copi o’r hysbysiad.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw’r perchennog perthnasol.
39.—(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 138(1) o Ddeddf 2004 (cais, tra bo GRhAG interim mewn grym, am orchymyn bod yr ATLl i dalu digollediad i drydydd parti am ymyrryd â’i hawliau).
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a)copi o’r GRhAG interim;
(b)copi o hysbysiad yr ATLl i’r trydydd parti, o benderfyniad yr ATLl yn unol ag adran 138(4) o Ddeddf 2004; ac
(c)datganiad sy’n rhoi manylion llawn o’r canlynol—
(i)yr hawliau yr honnir yr ymyrrwyd â hwy o ganlyniad i’r GRhAG interim; a
(ii)swm y digollediad a hawlir mewn cysylltiad â’r ymyrraeth honno.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw’r ATLl.
40.—(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 1(7) o Atodlen 7 i Ddeddf 2004 (cais gan ATLl am orchymyn bod GRhAG interim i barhau mewn grym hyd nes penderfynir apêl o dan baragraff 26 o’r Atodlen honno).
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a)copi o’r GRhAG interim; a
(b)copi o’r hysbysiad o apêl o dan baragraff 26 o Atodlen 7 i Ddeddf 2004 yn erbyn gwneud GRhAG interim.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw’r ceisydd sydd wedi gwneud yr apêl berthnasol.
41.—(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 2(3)(d) neu baragraff 10(3)(d) o Atodlen 7 i Ddeddf 2004 (cais gan ATLl am orchymyn o dan baragraff 22 o’r Atodlen honno i derfynu les neu drwydded tra bo GRhAG interim neu derfynol mewn grym).
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a)copi o’r GRhAG interim neu derfynol (gan gynnwys unrhyw gynllun rheoli);
(b)copi o’r les neu’r drwydded berthnasol, neu os nad oes copi ohoni ar gael, tystiolaeth o fodolaeth y les neu’r drwydded; ac
(c)datganiad yn cynnwys y manylion a ganlyn—
(i)enw a chyfeiriad, os ydynt yn hysbys, unrhyw lesydd, lesddeiliad, is-lesydd, is-lesddeiliad, neu drwyddedai;
(ii)tystiolaeth o’r materion y mae’n rhaid bodloni’r tribiwnlys yn eu cylch o dan baragraff 22(1)(b) o Atodlen 7 i Ddeddf 2004; a
(iii)swm y digollediad (os oes rhywfaint) y mae’r ATLl yn fodlon ei dalu mewn cysylltiad â therfynu’r les neu’r drwydded, gan gynnwys manylion o’r modd y cyfrifwyd swm y digollediad hwnnw.
(3) Yr ymatebwyr penodedig yw’r partïon i’r les neu’r drwydded.
42.—(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 5(7) o Atodlen 7 i Ddeddf 2004 (cais gan berchennog perthnasol am orchymyn mewn cysylltiad â threfniadau ariannol tra bo GRhAG interim mewn grym).
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a)copi o’r GRhAG interim; a
(b)copi o’r cyfrifon a gedwir gan yr ATLl yn unol â pharagraff 5(6) o Atodlen 7 i Ddeddf 2004.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw’r ATLl.
43.—(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 9(8) o Atodlen 7 i Ddeddf 2004 (cais gan ATLl am orchymyn bod GRhAG terfynol i barhau mewn grym hyd nes penderfynir apêl o dan baragraff 26 o’r Atodlen honno).
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a)copi o’r GRhAG terfynol; a
(b)copi o’r hysbysiad o apêl o dan baragraff 26 o Atodlen 7 i Ddeddf 2004 yn erbyn gwneud GRhAG terfynol.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw’r ceisydd sydd wedi gwneud yr apêl berthnasol.
44.—(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 14(1) o Atodlen 7 i Ddeddf 2004 (cais gan berson yr effeithir arno am orchymyn bod ATLl i reoli annedd yn unol â chynllun rheoli mewn GRhAG terfynol).
(2) Y ddogfen benodedig yw copi o’r GRhAG terfynol (gan gynnwys y cynllun rheoli).
(3) Yr ymatebydd penodedig yw’r ATLl.
45.—(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 26(1) o Atodlen 7 i Ddeddf 2004 (apêl yn erbyn penderfyniad ATLl i wneud GRhAG terfynol, neu yn erbyn telerau’r gorchymyn neu gynllun rheoli cysylltiedig).
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a)copi o’r GRhAG terfynol (gan gynnwys y cynllun rheoli);
(b)pan fo’r cais yn ymwneud â thelerau’r gorchymyn rheoli, datganiad yn pennu pob un o’r telerau a wrthwynebir, ynghyd â’r rhesymau dros y gwrthwynebiad; ac
(c)pan wneir y cais ar y sail a bennir ym mharagraff 26(1)(c) o Atodlen 7 i Ddeddf 2004, datganiad o’r materion ym mharagraff 5(5)(a) a (b) o’r Atodlen honno (sy’n ymwneud â thalu rhenti dros ben etc.) sy’n berthnasol i’r sail honno.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw’r ATLl.
46.—(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 30 o Atodlen 7 i Ddeddf 2004 (apêl yn erbyn penderfyniad ATLl i amrywio neu ddirymu GRhAG interim neu derfynol, neu wrthod amrywio neu ddirymu gorchymyn o’r fath).
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a)pan fo’r cais yn ymwneud â phenderfyniad i amrywio GRhAG interim neu derfynol, copi o hysbysiadau’r ATLl o dan baragraffau 9 ac 11 o Atodlen 6 i Ddeddf 2004 (fel y’u cymhwysir gan baragraff 17 o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno);
(b)pan fo’r cais yn ymwneud â gwrthodiad i amrywio GRhAG interim neu derfynol, copi o hysbysiadau’r ATLl o dan baragraffau 14 ac 16 o’r Atodlen honno;
(c)pan fo’r cais yn ymwneud â phenderfyniad i ddirymu GRhAG interim neu derfynol, copi o hysbysiadau’r ATLl o dan baragraffau 17 a 19 o’r Atodlen honno; a
(d)pan fo’r cais yn ymwneud â gwrthodiad i ddirymu GRhAG interim neu derfynol, copi o hysbysiadau’r ATLl o dan baragraffau 20 a 22 o’r Atodlen honno; ac
(e)ym mhob achos, copi o’r GRhAG interim neu derfynol (yn ôl y digwydd).
(3) Yr ymatebydd penodedig yw’r ATLl.
47.—(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 34(2) o Atodlen 7 i Ddeddf 2004 (apêl yn erbyn penderfyniad ATLl o dan adran 136(4) neu 138(3) o Ddeddf 2004 mewn cysylltiad â’r digollediad sy’n daladwy i drydydd partïon am ymyrraeth â’u hawliau o ganlyniad i GRhAG terfynol).
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a)copi o’r GRhAG terfynol (gan gynnwys y cynllun rheoli);
(b)pan fo’r trydydd parti wedi gofyn am ei ddigolledu o dan adran 138 o Ddeddf 2004, copi o hysbysiad yr ATLl o’i benderfyniad i’r trydydd parti yn unol ag is-adran (4) o’r adran honno; ac
(c)datganiad sy’n rhoi manylion llawn o’r canlynol—
(i)yr hawliau yr honnir yr ymyrrwyd â hwy o ganlyniad i’r GRhAG terfynol; a
(ii)swm y digollediad a hawlir mewn cysylltiad â’r ymyrraeth honno.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw’r ATLl.
Ceisiadau mewn perthynas â hysbysiadau gorlenwi
48.—(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 143(1) o Ddeddf 2004 (apêl gan berson a dramgwyddwyd gan hysbysiad gorlenwi).
(2) Y ddogfen benodedig yw copi o’r hysbysiad gorlenwi, neu ddatganiad gan y ceisydd yn esbonio’r amgylchiadau sydd wedi peri na all y ceisydd ddarparu copi o’r hysbysiad hwnnw.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw’r ATLl.
49.—(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 144(2) o Ddeddf 2004 (apêl gan berson perthnasol yn erbyn gwrthodiad ATLl i ddirymu neu amrywio hysbysiad gorlenwi, neu yn erbyn methiant yr ATLl i ymateb mewn pryd i gais am ddirymu neu amrywio hysbysiad o’r fath).
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a)copi o’r hysbysiad gorlenwi; a
(b)os gwrthododd yr ATLl amrywio hysbysiad gorlenwi, copi o benderfyniad yr ATLl.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw’r ATLl.