Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat (Cymru) 2017

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about advanced features

Nodweddion Uwch

 Help about opening options

Dewisiadau AgorExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Adran 26

 Help about opening options

Alternative versions:

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 20/11/2017.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat (Cymru) 2017. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau. Help about Changes to Legislation

Darpariaethau trosiannolLL+C

26.—(1Pan ddaw’r Rheoliadau hyn i rym—

(a)mae awdurdodiad a roddir o dan reoliad 17(2) o Reoliadau 2010 sydd mewn grym yn union cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym i’w gymryd i fod yn awdurdodiad a roddir o dan reoliad 19(2) o’r Rheoliadau hyn;

(b)mae ail awdurdodiad a roddir o dan reoliad 17(9) o Reoliadau 2010 sydd mewn grym yn union cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym i’w gymryd i fod yn ail awdurdodiad a roddir o dan reoliad 19(9) o’r Rheoliadau hyn;

(c)mae hysbysiad a gyflwynir o dan reoliad 18 o Reoliadau 2010 sydd mewn grym yn union cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym (“hysbysiad presennol”) i’w gymryd i fod yn hysbysiad a gyflwynir o dan reoliad 20 o’r Rheoliadau hyn.

(2Caniateir gwneud apêl o dan reoliad 21(1) o’r Rheoliadau hyn yn erbyn hysbysiad presennol os nad yw’r cyfnod o amser ar gyfer gwneud apêl o dan reoliad 19(1) o Reoliadau 2010 wedi dod i ben ar y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym.

(3O ran awdurdod lleol sydd wedi—

(a)lleihau amlder samplu ar gyfer paramedr o dan baragraff 2(2) yn Rhan 1 o Atodlen 2 (monitro) i Reoliadau 2010, neu

(b)eithrio paramedr o waith monitro archwilio o dan baragraff 3(3) yn Rhan 2 o Atodlen 2 i Reoliadau 2010,

rhaid iddo, pan ddaw’r Rheoliadau hyn i rym, ddod ag unrhyw leihad neu eithriad o’r fath i ben, ac yn lle hynny rhaid iddo ddechrau monitro yn unol â’r ddarpariaeth a wneir yn Atodlen 2 i’r Rheoliadau hyn.

(4Caiff awdurdod lleol ddibynnu ar unrhyw ddata a gesglir yn ystod y cyfnod o 36 mis sy’n dod i ben â’r diwrnod y daw’r Rheoliadau hyn i rym i gyfiawnhau unrhyw amrywiad o ran monitro o dan Ran 4 o Atodlen 2.

(5Mae Tabl 2 (nodweddion perfformiad rhagnodedig ar gyfer dulliau dadansoddi) yn Atodlen 4 yn parhau mewn grym hyd 23:59 ar 31 Rhagfyr 2019, a chaiff ei ddirymu at bob diben ar ôl hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 26 mewn grym ar 20.11.2017, gweler rhl. 1

Yn ôl i’r brig

Options/Help