Rheoliadau 2 , 9, 18 a 26
ATODLEN 2LL+CMonitro
RHAN 1LL+CMonitro ar gyfer paramedrau Grŵp A
SampluLL+C
1.—(1) Rhaid i awdurdod lleol fonitro ar gyfer paramedrau Grŵp A yn unol â’r Rhan hon.
(2) Ystyr “monitro ar gyfer paramedrau Grŵp A” yw samplu ar gyfer pob paramedr a restrir yng ngholofn 1 o Dabl 1 o dan yr amgylchiadau a restrir yn y cofnod cyfatebol ar gyfer y paramedr hwnnw yng ngholofn 2 o’r Tabl hwnnw er mwyn—
(a)canfod pa un a yw’r dŵr yn cydymffurfio â’r crynodiadau neu’r gwerthoedd yn Atodlen 1 ai peidio;
(b)darparu gwybodaeth am ansawdd organoleptig a microbiolegol y dŵr; ac
(c)cadarnhau pa mor effeithiol fu’r driniaeth a roddwyd i’r dŵr, gan gynnwys y diheintio.
Tabl 1
Paramedrau Grŵp A
Paramedrau
| Amgylchiadau
|
---|
Alwminiwm | Os y’i defnyddir fel cemegyn trin dŵr |
Amoniwm | Os defnyddir cloramineiddio |
Clostridium perfringens (gan gynnwys sborau) | Pan fo’r dŵr yn tarddu o ddyfroedd wyneb, neu y dylanwedir arno gan ddyfroedd wyneb |
Bacteria colifform | Ym mhob cyflenwad |
Cyfrifau cytrefi | Ym mhob cyflenwad |
Lliw | Ym mhob cyflenwad |
Dargludedd | Ym mhob cyflenwad |
Escherichia coli (E. coli) | Ym mhob cyflenwad |
Crynodiad ïonau hydrogen | Ym mhob cyflenwad |
Haearn | Os y’i defnyddir fel cemegyn trin dŵr |
Manganîs | Pan fo’r dŵr yn tarddu o ddyfroedd wyneb, neu y dylanwedir arno gan ddyfroedd wyneb |
Nitrad | Os defnyddir cloramineiddio |
Nitraid | Os defnyddir cloramineiddio |
Arogl | Ym mhob cyflenwad |
Pseudomonas aeruginosa | Yn achos dŵr mewn poteli neu gynwysyddion yn unig |
Blas | Ym mhob cyflenwad |
Cymylogrwydd | Ym mhob cyflenwad |
Amlder sampluLL+C
2. Rhaid cyflawni gwaith samplu ar gyfer paramedrau Grŵp A mor aml ag a bennir yn Nhabl 2.
Tabl 2
Amlder samplu ar gyfer paramedrau Grŵp A
Cyfaint m3/diwrnod | Amlder samplu fesul blwyddyn |
---|
≤ 10 | 1 |
˃ 10 ≤ 100 | 2 |
˃ 100 ≤ 1,000 | 4 |
˃ 1,000 ≤ 2,000 | 10 |
˃ 2,000 ≤ 3,000 | 13 |
˃ 3,000 ≤ 4,000 | 16 |
˃ 4,000 ≤ 5,000 | 19 |
˃ 5,000 ≤ 6,000 | 22 |
˃ 6,000 ≤ 7,000 | 25 |
˃ 7,000 ≤ 8,000 | 28 |
˃ 8,000 ≤ 9,000 | 31 |
˃ 9,000 ≤ 10,000 | 34 |
˃ 10,000 | 4 + 3 am bob 1,000 m3/diwrnod o gyfanswm y cyfaint (gan dalgrynnu i fyny i’r lluosrif agosaf o 1,000 m3/diwrnod) |
RHAN 2LL+CMonitro ar gyfer paramedrau Grŵp B
SampluLL+C
3.—(1) Rhaid i awdurdod lleol fonitro ar gyfer paramedrau Grŵp B yn unol â’r Rhan hon.
(2) Ystyr “monitro ar gyfer paramedrau Grŵp B” yw samplu ar gyfer pob paramedr a restrir yn Rhan 1 neu 2 o Atodlen 1 (ac eithrio paramedrau Grŵp A sydd eisoes yn cael eu samplu o dan Ran 1 o’r Atodlen hon)—
(a)er mwyn darparu’r wybodaeth sy’n angenrheidiol i ganfod pa un a yw’r cyflenwad dŵr preifat yn bodloni pob crynodiad, gwerth neu gyflwr a bennir yn y naill neu’r llall o’r Rhannau hynny o’r Atodlen honno ai peidio; a
(b)os defnyddir diheintio, rhaid gwirio bod cyn lleied o sgil-gynhyrchion diheintio â phosibl heb beryglu effeithiolrwydd y diheintio.
Amlder sampluLL+C
4. Rhaid cyflawni gwaith samplu ar gyfer paramedrau Grŵp B mor aml ag a bennir yn Nhabl 3.
Tabl 3
Amlder samplu ar gyfer paramedrau Grŵp B
Cyfaint m3/diwrnod | Amlder samplu fesul blwyddyn |
---|
≤ 10 | 1 |
˃ 10 ≤ 3,300 | 2 |
˃ 3,300 ≤ 6,600 | 3 |
˃ 6,600 ≤ 100,000 | 4 |
˃ 10,000 ≤ 100,000 | 3 + 1 am bob 10,000 m3/diwrnod o gyfanswm y cyfaint (gan dalgrynnu i fyny i’r lluosrif agosaf o 10,000 m3/diwrnod) |
˃ 100,000 | 10 + 1 am bob 25,000 m3/diwrnod o gyfanswm y cyfaint (gan dalgrynnu i fyny i’r
lluosrif agosaf o 25,000 m3/diwrnod)
|
RHAN 3LL+CAmlderau lleiaf monitro ar gyfer paramedrau Grŵp A a monitro ar gyfer paramedrau Grŵp B ar gyfer dŵr a roddir mewn poteli neu gynwysyddion
Cyfainta y dŵr a gynhyrchir mewn poteli neu gynwysyddion bob dydd (m3) | Monitro ar gyfer paramedrau Grŵp A: nifer y samplau fesul blwyddyn | Monitro ar gyfer paramedrau Grŵp B: nifer y samplau fesul blwyddyn |
---|
≤ 10 | 1 | 1 |
˃ 10 ≤ 60 | 12 | 1 |
˃ 60 | 1 am bob 5 m3/diwrnod o gyfanswm y cyfaint (gan dalgrynnu i fyny i’r lluosydd agosaf o 5 m3/diwrnod) | 1 am bob 100 m3/diwrnod o gyfanswm y cyfaint (gan dalgrynnu i fyny i’r lluosydd agosaf o 100 m3/diwrnod) |
a Cyfrifir y cyfeintiau fel cyfartaleddau dros flwyddyn galendr. |
RHAN 4LL+CAmrywio gofynion monitro ar gyfer paramedrau Grŵp A a Grŵp B
Amrywio amlder sampluLL+C
5.—(1) Caiff awdurdod lleol leihau’r amlderau samplu sy’n ofynnol ar gyfer paramedr (ac eithrio ar gyfer Escheria coli (E. coli)) o dan Ran 1 neu 2 o’r Atodlen hon ar yr amod—
(a)bod y canlyniadau o samplau a gymerwyd mewn cysylltiad â’r paramedr hwnnw a gasglwyd ar adegau rheolaidd dros y 3 blynedd flaenorol oll yn is na 60% o’r gwerth paramedrig;
(b)bod canlyniadau asesiad risg yn cael eu hystyried, a bod yr asesiad risg hwnnw yn dangos na ellir yn rhesymol ragweld bod unrhyw ffactor yn debygol o achosi dirywiad yn ansawdd y dŵr sydd i’w yfed gan bobl;
(c)bod data a gesglir wrth gyflawni ei rwymedigaethau monitro o dan y Rhan hon yn cael eu hystyried; a
(d)bod o leiaf un sampl yn cael ei chymryd fesul blwyddyn.
(2) Caiff awdurdod lleol bennu amlder samplu uwch ar gyfer unrhyw baramedr os yw’n ystyried bod hynny’n briodol gan ystyried canfyddiadau unrhyw asesiad risg.
Amrywio paramedrauLL+C
6.—(1) Caiff awdurdod lleol beidio â monitro paramedr (ac eithrio Escheria coli (E. coli)) y mae fel arall yn ofynnol ei fonitro o dan Ran 1 neu 2 o’r Atodlen hon ar yr amod—
(a)bod y canlyniadau o samplau a gymerwyd mewn cysylltiad â’r paramedr hwnnw a gasglwyd ar adegau rheolaidd dros y 3 blynedd flaenorol oll yn is na 30% o’r gwerth paramedrig;
(b)bod canlyniadau asesiad risg yn cael eu hystyried, a bod yr asesiad risg hwnnw yn dangos na ellir yn rhesymol ragweld bod unrhyw ffactor yn debygol o achosi dirywiad yn ansawdd y dŵr sydd i’w yfed gan bobl; ac
(c)bod data a gesglir wrth gyflawni ei rwymedigaethau monitro o dan y Rhan hon yn cael eu hystyried.
(2) Caiff awdurdod lleol fonitro ar gyfer priodoleddau, elfennau, organebau neu sylweddau eraill nad ydynt wedi eu cynnwys fel paramedr os yw’n ystyried bod hynny’n briodol gan ystyried canfyddiadau unrhyw asesiad risg.