Print Options
PrintThe Whole
Instrument
PrintThe Whole
Schedule
PrintThe Whole
Part
PrintThis
Section
only
Statws
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
Samplu
1.—(1) Rhaid i awdurdod lleol fonitro ar gyfer paramedrau Grŵp A yn unol â’r Rhan hon.
(2) Ystyr “monitro ar gyfer paramedrau Grŵp A” yw samplu ar gyfer pob paramedr a restrir yng ngholofn 1 o Dabl 1 o dan yr amgylchiadau a restrir yn y cofnod cyfatebol ar gyfer y paramedr hwnnw yng ngholofn 2 o’r Tabl hwnnw er mwyn—
(a)canfod pa un a yw’r dŵr yn cydymffurfio â’r crynodiadau neu’r gwerthoedd yn Atodlen 1 ai peidio;
(b)darparu gwybodaeth am ansawdd organoleptig a microbiolegol y dŵr; ac
(c)cadarnhau pa mor effeithiol fu’r driniaeth a roddwyd i’r dŵr, gan gynnwys y diheintio.
Tabl 1
Paramedrau Grŵp A
Paramedrau
| Amgylchiadau
|
---|
Alwminiwm | Os y’i defnyddir fel cemegyn trin dŵr |
Amoniwm | Os defnyddir cloramineiddio |
Clostridium perfringens (gan gynnwys sborau) | Pan fo’r dŵr yn tarddu o ddyfroedd wyneb, neu y dylanwedir arno gan ddyfroedd wyneb |
Bacteria colifform | Ym mhob cyflenwad |
Cyfrifau cytrefi | Ym mhob cyflenwad |
Lliw | Ym mhob cyflenwad |
Dargludedd | Ym mhob cyflenwad |
Escherichia coli (E. coli) | Ym mhob cyflenwad |
Crynodiad ïonau hydrogen | Ym mhob cyflenwad |
Haearn | Os y’i defnyddir fel cemegyn trin dŵr |
Manganîs | Pan fo’r dŵr yn tarddu o ddyfroedd wyneb, neu y dylanwedir arno gan ddyfroedd wyneb |
Nitrad | Os defnyddir cloramineiddio |
Nitraid | Os defnyddir cloramineiddio |
Arogl | Ym mhob cyflenwad |
Pseudomonas aeruginosa | Yn achos dŵr mewn poteli neu gynwysyddion yn unig |
Blas | Ym mhob cyflenwad |
Cymylogrwydd | Ym mhob cyflenwad |
Yn ôl i’r brig