RHAN 3LL+CMonitro ar gyfer y dos dangosol a nodweddion perfformiad dadansoddol
6. Caiff awdurdod lleol ddefnyddio strategaethau sgrinio dibynadwy i ddangos bod ymbelydredd yn bresennol mewn dŵr a fwriedir i’w yfed gan bobl.LL+C
7. Caiff y strategaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff 6 gynnwys sgrinio ar gyfer—LL+C
(a)radioniwclidau penodol neu radioniwclid unigol; neu
(b)gweithgarwch alffa gros neu weithgarwch beta gros (pan fo’n briodol caniateir disodli gweithgarwch beta gros gan weithgarwch beta gweddilliol ar ôl didynnu’r crynodiad gweithgarwch K-40).
Sgrinio ar gyfer radioniwclidau penodol neu sgrinio ar gyfer radioniwclid unigolLL+C
8. Os yw un o’r crynodiadau gweithgarwch yn uwch nag 20% o’r gwerth deilliedig cyfatebol neu os yw’r crynodiad tritiwm yn uwch na’i werth paramedrig a restrir yn Rhan 3 o Atodlen 1, mae’n ofynnol dadansoddi’r radioniwclidau ychwanegol.
9. Rhaid i awdurdod lleol, wrth benderfynu pa radioniwclidau y mae’n ofynnol eu mesur ar gyfer pob cyflenwad, ystyried yr holl wybodaeth berthnasol am ffynonellau tebygol o ymbelydredd.
Strategaethau sgrinio ar gyfer gweithgarwch alffa gros a gweithgarwch beta grosLL+C
10. Yn ddarostyngedig i baragraff 11 y lefelau sgrinio a argymhellir yw—
(a)0,1Bq/l ar gyfer gweithgarwch alffa gros; a
(b)1,0Bq/l ar gyfer gweithgarwch beta gros.
11. Os yw’r gweithgarwch alffa gros yn uwch na 0,1Bq/l neu os yw’r gweithgarwch beta gros yn uwch na 1,0Bq/l, mae’n ofynnol dadansoddi ar gyfer radioniwclidau penodol.
12. Caiff Gweinidogion Cymru bennu lefelau sgrinio gwahanol ar gyfer gweithgarwch alffa gros a gweithgarwch beta gros pan fo’r awdurdod lleol yn gallu dangos bod y lefelau gwahanol yn cydymffurfio â dos dangosol o 0,1 mSv.
Cyfrifo’r dos dangosolLL+C
13. Rhaid cyfrifo’r dos dangosol o—
(a)y crynodiadau radioniwclid a fesurwyd a’r cyfernodau dos a nodwyd yn Atodiad III, Tabl A o Gyfarwyddeb 96/29/Euratom() ; neu
(b)gwybodaeth ddiweddarach a gydnabyddir gan Weinidogion Cymru, ar sail y cymeriant dŵr blynyddol (730 l ar gyfer oedolion).
14. Pan fo’r fformiwla a ganlyn wedi ei bodloni, gellir tybio bod y dos dangosol yn is na’r gwerth paramedrig o 0,1mSv ac nid yw’n ofynnol cynnal unrhyw ymchwiliadau pellach—
Crynodiadau deilliedig ar gyfer ymbelydredd mewn dŵr a fwriedir i’w yfed gan bobl
Tarddiad
| Niwclid
| Crynodiad deilliedig
|
---|
|
Naturiol | U-2383 | 3,0 Bq/l |
| U-2343 | 2,8 Bq/l |
| Ra-226 | 0,5 Bq/l |
| Ra-228 | 0,2 Bq/l |
| Pb-210 | 0,2 Bq/l |
| Po-210 | 0,1 Bq/l |
Artiffisial | C-14 | 240 Bq/l |
| Sr-90 | 4,9 Bq/l |
| Pu-239/Pu-240 | 0,6 Bq/l |
| Am-241 | 0,7 Bq/l |
| Co-60 | 40 Bq/l |
| Cs-134 | 7,2 Bq/l |
| Cs-137 | 11 Bq/l |
| 1-131 | 6,2 Bq/l |
Nodweddion perfformiad a dulliau dadansoddiLL+C
15. Ar gyfer y paramedrau a’r radioniwclidau a ganlyn, rhaid i’r dull dadansoddi a ddefnyddir, o leiaf, allu mesur crynodiadau gweithgarwch gyda’r terfyn canfod a bennir isod:
Paramedrau a radioniwclidau
| Terfyn canfod (Nodiadau 1,2)
| Nodiadau
|
---|
Tritiwm | 10 Bq/l | Nodyn 3 |
Radon | 10 Bq/l | Nodyn 3 |
alffa gros | 0,04 Bq/l | Nodyn 4 |
beta gros | 0,4 Bq/l | Nodyn 4 |
U-238 | 0,02 Bq/l | |
U-234 | 0,02 Bq/l | |
Ra-226 | 0,04 Bq/l | |
Ra-228 | 0,02 Bq/l | Nodyn 5 |
Pb-210 | 0,02 Bq/l | |
Po-210 | 0,01 Bq/l | |
C-14 | 20 Bq/l | |
Sr-90 | 0,4 Bq/l | |
Pu-239/Pu-240 | 0,04 Bq/1 | |
Am-241 | 0,06 Bq/l | |
Co-60 | 0,5 Bq/1 | |
Cs-134 | 0,5 Bq/l | |
C2-137 | 0,5 Bq/l | |
1-131 | 0,5 Bq/1 | |
Nodyn 1: Rhaid cyfrifo’r terfyn canfod yn unol â safon ISO 11929: Pennu terfynau nodweddion (trothwy penderfyniad, terfyn canfod a therfynau’r cyfwng hyder) ar gyfer mesur ymbelydredd ïoneiddio — Hanfodion a chymhwyso, gyda thebygolrwydd gwallau o’r math cyntaf a’r ail fath o 0,05 yr un.
Nodyn 2: Rhaid cyfrifo ansicrwydd mesuriadau, a chyflwyno adroddiadau arnynt, fel ansicrwydd safonol cyflawn, neu fel ansicrwydd estynedig gyda ffactor ehangu o 1,96 yn unol â Chanllaw yr ISO sef ‘Guide for the Expression of Uncertainty in Measurement’.
Nodyn 3: Y terfyn canfod ar gyfer tritiwm a radon yw 10% o’i werth paramedrig o 100 Bq/1.
Nodyn 4: Y terfyn canfod ar gyfer gweithgarwch alffa gros a gweithgarwch beta gros yw 40% o’r gwerthoedd sgrinio o 0,1 a 1,0 Bq/1 yn y drefn honno.
Nodyn 5: Nid yw’r terfyn canfod ond yn gymwys i’r sgrinio cychwynnol ar gyfer dos dangosol ar gyfer ffynhonnell ddŵr newydd; os yw’r gwirio cychwynnol yn dangos nad yw’n debygol bod lefel yr Ra-228 yn uwch nag 20% o’r crynodiad deilliedig, caniateir cynyddu’r terfyn canfod i 0,08 Bq/1 ar gyfer mesuriadau penodol arferol ar gyfer niwclidau Ra-228, nes y bydd yn ofynnol cynnal ail-wiriad dilynol.