Print Options
PrintThe Whole
Instrument
PrintThis
Testun rhagarweiniol
only
Statws
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
Offerynnau Statudol Cymru
2017 Rhif 724 (Cy. 174)
Amaethyddiaeth, Cymru
Rheoliadau Llaeth Ysgol (Cymru) 2017
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
7 Gorffennaf 2017
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi() at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972() mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin yr Undeb Ewropeaidd.
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn yr adran honno ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus dehongli unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at offerynnau’r UE fel cyfeiriad at yr offerynnau hynny fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd.
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 a pharagraff 1A o Atodlen 2 iddi.
Cynhaliwyd ymgynghoriad fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd().
Yn ôl i’r brig