Offerynnau Statudol Cymru
2017 Rhif 961 (Cy. 244)
Gofal Cymdeithasol, Cymru
Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Hysbysiadau) (Cymru) 2017
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
3 Hydref 2017
Yn dod i rym
2 Ebrill 2018
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 39(1)(g), 39(2) a 187(1)(b) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016(), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Hysbysiadau) (Cymru) 2017 a deuant i rym ar 2 Ebrill 2018.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2. Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016;
mae i “y tribiwnlys” (“the tribunal”) yr un ystyr ag yn adran 189 o’r Ddeddf.
Gwybodaeth sydd i gael ei chynnwys ym mhob hysbysiad o dan adran 39(1) o’r Ddeddf
3. Rhaid i hysbysiad o dan adran 39(1) o’r Ddeddf gynnwys—
(a)enw’r darparwr gwasanaeth;
(b)enw’r gwasanaeth rheoleiddiedig a’r math o wasanaeth rheoleiddiedig y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef;
(c)y man y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef neu’r mannau y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hwy;
(d)y dyddiad yr anfonir yr hysbysiad; ac
(e)y paragraff yn adran 39(1) o’r Ddeddf neu yn rheoliad 10 yr anfonir yr hysbysiad odano.
Gwybodaeth sydd i gael ei chynnwys mewn hysbysiad o dan adran 39(1)(a) o’r Ddeddf
4. Yn ychwanegol at yr wybodaeth a nodir yn rheoliad 3, rhaid i hysbysiad o dan adran 39(1)(a) o’r Ddeddf gynnwys y canlynol—
(a)y dyddiad y cymerodd canslo cofrestriad y darparwr gwasanaeth effaith; a
(b)naill ai—
(i)pan fo hysbysiad yn ymwneud â phenderfyniad i ganslo a wneir gan Weinidogion Cymru yn dilyn hysbysiad gwella a roddir o dan adran 16 o’r Ddeddf, y sail dros ganslo; neu
(ii)pan fo hysbysiad yn ymwneud â chanslo yn dilyn cais a wneir o dan adran 14 o’r Ddeddf, y rheswm a roddir gan y darparwr gwasanaeth dros ganslo’r cofrestriad.
Gwybodaeth sydd i gael ei chynnwys mewn hysbysiad o dan adran 39(1)(b) o’r Ddeddf
5. Yn ychwanegol at yr wybodaeth a nodir yn rheoliad 3, rhaid i hysbysiad o dan adran 39(1)(b) o’r Ddeddf gynnwys y canlynol—
(a)y dyddiad y cymerodd amrywiad cofrestriad y darparwr gwasanaeth effaith; a
(b)naill ai—
(i)pan fo hysbysiad yn ymwneud â phenderfyniad i amrywio cofrestriad darparwr gwasanaeth a wneir gan Weinidogion Cymru yn dilyn hysbysiad gwella a roddir o dan adran 16 o’r Ddeddf, y sail dros amrywio; neu
(ii)pan fo hysbysiad yn ymwneud ag amrywio cofrestriad darparwr gwasanaeth yn dilyn cais a wneir o dan adran 11 o’r Ddeddf, y rheswm a roddir gan y darparwr gwasanaeth dros yr amrywiad.
Gwybodaeth sydd i gael ei chynnwys mewn hysbysiad o dan adran 39(1)(c) o’r Ddeddf
6. Yn ychwanegol at yr wybodaeth a nodir yn rheoliad 3, rhaid i hysbysiad o dan adran 39(1)(c) o’r Ddeddf gynnwys y canlynol—
(a)y dyddiad y gwnaed y gorchymyn; a
(b)y dyddiad y cymerodd y gorchymyn effaith neu y bydd y gorchymyn yn cymryd effaith, os yw’n wahanol.
Gwybodaeth sydd i gael ei chynnwys mewn hysbysiad o dan adran 39(1)(d) o’r Ddeddf
7. Yn ychwanegol at yr wybodaeth a nodir yn rheoliad 3, rhaid i hysbysiad o dan adran 39(1)(d) o’r Ddeddf gynnwys y canlynol—
(a)enw’r unigolyn cyfrifol y mae ei ddynodiad wedi ei ganslo;
(b)y sail dros ganslo’r dynodiad; ac
(c)y dyddiad y cymerodd y canslo effaith, os yw’n wahanol.
Gwybodaeth sydd i gael ei chynnwys mewn hysbysiad o dan adran 39(1)(e) o’r Ddeddf
8. Yn ychwanegol at yr wybodaeth a nodir yn rheoliad 3, rhaid i hysbysiad o dan adran 39(1)(e) o’r Ddeddf gynnwys y canlynol—
(a)enw’r person y mae achos wedi ei ddwyn yn ei erbyn;
(b)y dyddiad y cychwynnwyd yr achos;
(c)y drosedd o dan Ran 1 o’r Ddeddf (neu a ragnodir mewn rheoliadau a wneir odani) yr honnir ei bod wedi ei chyflawni; a
(d)dyddiad y gwrandawiad llys cyntaf, os yw’n hysbys.
Gwybodaeth sydd i gael ei chynnwys mewn hysbysiad o dan adran 39(1)(f) o’r Ddeddf
9. Yn ychwanegol at yr wybodaeth a nodir yn rheoliad 3, rhaid i hysbysiad o dan adran 39(1)(f) o’r Ddeddf gynnwys y canlynol—
(a)enw’r person y mae hysbysiad cosb wedi ei roi iddo;
(b)y dyddiad y dyroddwyd yr hysbysiad cosb; ac
(c)y drosedd y mae Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni ei bod wedi ei chyflawni.
Hysbysu am bethau rhagnodedig o dan adran 39(1)(g) o’r Ddeddf
10. Y pethau a ragnodir at ddiben adran 39(1)(g) o’r Ddeddf yw—
(a)apêl gan y darparwr gwasanaeth i’r tribiwnlys yn erbyn—
(i)canslo cofrestriad y darparwr gwasanaeth;
(ii)amrywio cofrestriad darparwr gwasanaeth drwy ddileu gwasanaeth rheoleiddiedig neu fan y mae’r darparwr gwasanaeth yn darparu gwasanaeth rheoleiddiedig ynddo, ohono neu mewn perthynas ag ef;
(iii)gwneud gorchymyn gan ynad heddwch o dan adran 23 o’r Ddeddf; neu
(iv)canslo dynodiad unigolyn cyfrifol o dan adran 22 o’r Ddeddf;
(b)penderfyniad y tribiwnlys mewn cysylltiad ag unrhyw apêl a wneir iddo gan ddarparwr gwasanaeth mewn cysylltiad â’r amgylchiadau a nodir ym mharagraff (a);
(c)pan fo achos wedi ei ddwyn yn erbyn person mewn cysylltiad â throsedd o dan Ran 1 o’r Ddeddf (neu a ragnodir mewn rheoliadau a wneir odani)—
(i)tynnu achos yn ôl;
(ii)penderfyniad y llys yn yr achos;
(iii)apêl yn erbyn penderfyniad y llys; a
(iv)canlyniad yr apêl.
Rebecca Evans
Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, un o Weinidogion Cymru
27 Medi 2017
NODYN ESBONIADOL
Mae adran 39(1) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (“y Ddeddf”) yn gwneud darpariaeth ynghylch yr amgylchiadau y mae’n ofynnol i Weinidogion Cymru hysbysu pob awdurdod lleol odanynt pan fydd penderfyniadau rheoleiddiol penodol wedi eu gwneud mewn cysylltiad â chofrestriad darparwr gwasanaeth.
Mae adran 39(1)(g) o’r Ddeddf yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i ragnodi amgylchiadau pellach y bydd y ddyletswydd i hysbysu awdurdodau lleol yn gymwys odanynt.
Mae adran 39(2) o’r Ddeddf yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau ynghylch unrhyw wybodaeth bellach y mae’n ofynnol ei chynnwys mewn hysbysiadau o’r fath.
Mae rheoliad 3 yn nodi’r wybodaeth y mae’n ofynnol ei chynnwys ym mhob hysbysiad a wneir o dan adran 39(1). Mae rheoliad 4 yn nodi’r wybodaeth ychwanegol y mae’n ofynnol ei chynnwys mewn hysbysiad ynghylch canslo cofrestriad darparwr gwasanaeth. Mae rheoliad 5 yn nodi’r wybodaeth ychwanegol y mae’n ofynnol ei chynnwys mewn hysbysiad ynghylch amrywio cofrestriad darparwr gwasanaeth drwy ddileu o’r cofrestriad wasanaeth rheoleiddiedig neu fan y mae’r darparwr yn darparu gwasanaeth rheoleiddiedig ynddo, ohono neu mewn perthynas ag ef. Mae rheoliad 6 yn nodi’r wybodaeth ychwanegol y mae’n ofynnol ei chynnwys mewn hysbysiad ynghylch gwneud gorchymyn gan ynad heddwch o dan adran 23 o’r Ddeddf (canslo ar frys neu amrywio ar frys drwy ddileu gwasanaeth neu fan). Mae rheoliad 7 yn nodi’r wybodaeth ychwanegol y mae’n ofynnol ei chynnwys mewn hysbysiad ynghylch canslo dynodiad unigolyn cyfrifol o dan adran 22 o’r Ddeddf. Mae rheoliad 8 yn nodi’r wybodaeth ychwanegol y mae’n ofynnol ei chynnwys mewn hysbysiad ynghylch achosion sy’n cael eu dwyn yn erbyn person mewn cysylltiad â throsedd o dan Ran 1 o’r Ddeddf neu reoliadau a wneir odani. Mae rheoliad 9 yn nodi’r wybodaeth ychwanegol y mae’n ofynnol ei chynnwys mewn hysbysiad ynghylch hysbysiad cosb a roddir o dan adran 52 o’r Ddeddf.
Mae rheoliad 10 yn nodi’r pethau pellach a ragnodir at ddibenion adran 39(1)(g) o’r Ddeddf. Gwneir darpariaeth ynghylch apelau a wneir gan ddarparwr gwasanaeth mewn cysylltiad â’r pethau a nodir yn adran 39(1)(a) i (d) a chanlyniad unrhyw apêl. Gwneir darpariaeth hefyd ynghylch canlyniad achosion am droseddau sy’n cael eu dwyn gan Weinidogion Cymru o dan Ran 1 o’r Ddeddf (neu a ragnodir mewn rheoliadau a wneir odani).
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.