xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru
Trafnidiaeth, Cymru
Gofynion sifftio wedi eu bodloni
4 Chwefror 2019
Gwnaed
12 Chwefror 2019
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
13 Chwefror 2019
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Mae gofynion paragraff 4(2) o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno (sy’n ymwneud â gweithdrefn graffu briodol Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer y Rheoliadau hyn) wedi eu bodloni.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar y diwrnod ymadael.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2. Yn adran 14A(5) o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008(2), yn lle “unrhyw ofyniad yng nghyfraith yr Undeb Ewropeaidd sy’n uniongyrchol gymwysadwy” rhodder “unrhyw ofyniad yn neddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir”.
Ken Skates
Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru
12 Chwefror 2019
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) er mwyn ymdrin ag unrhyw fethiant yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol a diffygion eraill sy’n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.
Mae Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 yn ei gwneud yn ofynnol i wregysau diogelwch gael eu ffitio ar fysiau a ddefnyddir yn gludiant i ddysgwyr. Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio cyfeiriad at gyfraith yr Undeb Ewropeaidd mewn darpariaeth sy’n datgan nad yw’r gofyniad i ffitio gwregysau diogelwch yn effeithio ar unrhyw safon dechnegol a fyddai fel arall yn gymwys yn rhinwedd deddfiadau penodol.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
2008 mccc 2; mewnosodwyd adran 14A gan adran 1 o Fesur Diogelwch ar Gludiant i Ddysgwyr (Cymru) 2011 (mccc 6).