xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2020 Rhif 1215 (Cy. 274)

Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru

Diogelu’r Amgylchedd, Cymru

Rheoliadau’r Amgylchedd (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020

Gofynion sifftio wedi eu bodloni

2 Tachwedd 2020

Gwnaed

4 Tachwedd 2020

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

6 Tachwedd 2020

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 a pharagraff 21(b) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018(1).

Mae gofynion paragraff 4(2) o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno (sy’n ymwneud â gweithdrefn graffu briodol Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer y Rheoliadau hyn) wedi eu bodloni(2).

Yn unol â pharagraff 4 o Atodlen 2 i’r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r Ysgrifennydd Gwladol.

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Amgylchedd (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu ac eithrio rheoliad 3 a ddaw i rym yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.

Diwygio Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012

2.—(1Mae Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012(3) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn lle erthygl 11(3), rhodder—

(3) Caiff Gweinidogion Cymru neu’r Ysgrifennydd Gwladol roi cyfarwyddiadau cyffredinol neu benodol i’r Corff er mwyn—

(a)sicrhau y bodlonir unrhyw un neu ragor o rwymedigaethau UE a ddargedwir, neu

(b)gweithredu unrhyw un neu ragor o rwymedigaethau rhyngwladol y Deyrnas Unedig.

(3Yn lle erthygl 11A(2)(b), rhodder—

(b)o dan unrhyw ddeddfiad arall at ddiben—

(i)sicrhau y bodlonir unrhyw un neu ragor o rwymedigaethau UE a ddargedwir, neu

(ii)gweithredu unrhyw un neu ragor o rwymedigaethau rhyngwladol y Deyrnas Unedig,.

(4Yn lle erthygl 11A(4), rhodder—

(4) Mae paragraff (4A) yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru neu’r Ysgrifennydd Gwladol yn amrywio neu’n dirymu unrhyw gyfarwyddyd a roddir i’r Corff (boed o dan erthygl 11 neu o dan unrhyw ddeddfiad arall) at ddiben—

(a)sicrhau y bodlonir unrhyw un neu ragor o rwymedigaethau UE a ddargedwir, neu

(b)gweithredu unrhyw un neu ragor o rwymedigaethau rhyngwladol y Deyrnas Unedig.

(4A) Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, rhaid i’r person sy’n gwneud yr amrywiad neu’r dirymiad—

(a)cyhoeddi’r amrywiad neu’r dirymiad cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol;

(b)sicrhau bod copïau o’r amrywiad neu’r dirymiad ar gael ar gais.

Diwygio Rheoliadau Safonau Ansawdd Aer (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019

3.  Yn rheoliad 2(5)(a) o Reoliadau Safonau Ansawdd Aer (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019(4), yn lle “Chyfarwyddeb 2008/1/EC” rhodder “Chyfarwyddeb 2010/75/EU”.

Lesley Griffiths

Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

4 Tachwedd 2020

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer y pwerau ym mharagraff 1(1) o Atodlen 2 a pharagraff 21(b) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) er mwyn ymdrin ag unrhyw fethiant yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol a diffygion eraill yng nghyfraith yr UE a ddargedwir sy’n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.

Mae rheoliad 2 yn gwneud diwygiadau i Orchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012 (O.S. 2012/1903 (C.230)).

Mae rheoliad 3 yn diwygio Rheoliadau Safonau Ansawdd Aer (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019 (O.S. 2019/390 (C.95)), sydd ei hun yn diwygio Rheoliadau Safonau Ansawdd Aer (Cymru) 2010 (O.S. 2010/1433 (C.126)).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(2)

Mae’r cyfeiriad yn Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 at Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn cael effaith bellach fel cyfeiriad at Senedd Cymru, yn rhinwedd adran 150A(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).