Offerynnau Statudol Cymru
2020 Rhif 1324 (Cy. 292)
Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru
Diogelu’r Amgylchedd, Cymru
Amaethyddiaeth, Cymru
Cynllunio Gwlad A Thref, Cymru
Rheoliadau Asesiadau Amgylcheddol a Chynllunio Gwlad a Thref (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020
Gofynion sifftio wedi eu bodloni
16 Tachwedd 2020
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
23rd Tachwedd 2020
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018(), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Mae gofynion paragraff 4(a) o Atodlen 2 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (sy’n ymwneud â’r gofyniad i ymgynghori mewn amgylchiadau penodol) a pharagraff 4(2) o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno (sy’n ymwneud â gweithdrefn graffu briodol Senedd Cymru ar gyfer y Rheoliadau hyn) wedi eu bodloni.
Enwi a chychwyn
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Asesiadau Amgylcheddol a Chynllunio Gwlad a Thref (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.
Diwygio Rheoliadau Asesiadau Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni a’r Asesiadau Effaith Amgylcheddol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019
2.—(1) Mae Rheoliadau Asesiadau Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni a’r Asesiadau Effaith Amgylcheddol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019() wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 5(11)(a)(ii), yn lle “y diwrnod ymadael” rhodder “diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu”.
(3) Yn rheoliad 6(16)(a), yn lle “y diwrnod ymadael” rhodder “diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu”.
Diwygio Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019
3.—(1) Mae Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019() wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 5(2)—
(a)yn is-baragraff (a), yn lle “y diwrnod ymadael” rhodder “diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu”;
(b)yn is-baragraff (b), yn lle “y diwrnod ymadael”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu”.
(3) Yn rheoliad 6—
(a)ym mharagraff (1), yn lle “y diwrnod ymadael” rhodder “ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu”;
(b)ym mharagraff (2), yn lle “y diwrnod ymadael”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu”.
Julie James
Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
19 Tachwedd 2020
NODYN ESBONIADOL
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) er mwyn ymdrin ag unrhyw fethiant yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol a diffygion eraill sy’n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Asesiadau Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni a’r Asesiadau Effaith Amgylcheddol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 a Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019. Maent yn diwygio cyfeiriadau at y diwrnod ymadael fel eu bod yn cyfeirio yn lle hynny at ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.
Ni luniwyd asesiad effaith ar gyfer yr offeryn hwn gan na ragwelir y bydd unrhyw effaith, neu unrhyw effaith sylweddol, ar y sector preifat na’r sector gwirfoddol.