Pleidleisiau drwy’r post: cadw, dangos a dinistrio dogfennau gan y swyddog cofrestru perthnasolLL+C
6.—(1) Rhaid i’r swyddog cofrestru perthnasol—
(a)cadw’r dogfennau a anfonir ymlaen at y swyddog yn unol â rheoliad 5(3)(b) am gyfnod o flwyddyn; a
(b)ar ôl y cyfnod hwnnw, beri i’r dogfennau hynny gael eu dinistrio, oni bai bod gorchymyn gan lys sirol, Llys y Goron neu lys ynadon yn cyfarwyddo fel arall.
(2) Ni chaniateir i berson edrych ar unrhyw un neu ragor o’r dogfennau a ddisgrifir yn rheoliad 5(3)(a)(i) i (iii), (v) i (vii) a (b)(ii) sydd ym meddiant y swyddog cofrestru perthnasol, ac eithrio yn unol â gorchymyn a wneir gan lys ar gyfer edrych ar unrhyw ddogfen neu ddangos unrhyw ddogfen at ddiben cychwyn neu gynnal erlyniad am drosedd mewn perthynas â phapurau pleidleisio.
(3) Mewn perthynas â gorchymyn a ddisgrifir ym mharagraff (2)—
(a)pan fo’n ymwneud ag etholiad ar gyfer cynghorydd i lenwi swydd cynghorydd sy’n digwydd dod yn wag ar gyfer unrhyw brif ardal yng Nghymru, mae paragraffau (3) i (7) o reol 53 o Atodlen 2 neu (yn ôl y digwydd) o Atodlen 3 i Reolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Cymru a Lloegr) 2006() yn gymwys yn unol â pharagraff (4); a
(b)pan fo’n ymwneud ag etholiad ar gyfer cynghorydd i lenwi swydd cynghorydd cymuned sy’n digwydd dod yn wag, mae paragraffau (3) i (7) o reol 53 o Atodlen 2 neu (yn ôl y digwydd) o Atodlen 3 i Reolau Etholiadau Lleol (Plwyfi a Chymunedau) (Cymru a Lloegr) 2006() yn gymwys yn unol â pharagraff (4).
(4) Mae’r darpariaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (3) yn gymwys i orchymyn a ddisgrifir ym mharagraff (2) yn yr un modd ag y maent yn gymwys i orchymyn a wneir o dan y darpariaethau hynny, ac eithrio y dylid darllen cyfeiriadau yn y darpariaethau hynny at “counted ballot papers” fel cyfeiriadau at y dogfennau a ddisgrifir yn rheoliad 5(3)(a)(i) i (iii), (v) i (vii) a (b)(ii).
(5) Mae adran 176 o Ddeddf 1983 (terfyn amser ar gyfer erlyniadau)() yn gymwys mewn cysylltiad â dogfennau a gedwir gan y swyddog cofrestru perthnasol o dan baragraff (1) a dylid darllen cyfeiriadau at “rule 57 of the parliamentary elections rules” yn is-adrannau (2C) a (2D) fel cyfeiriad at reoliad 6(1) o’r Rheoliadau hyn.
(6) Mae adran 54 o Ddeddf 1983 (talu treuliau cofrestru)() yn gymwys i arfer swyddogaethau’r swyddog cofrestru perthnasol o dan y rheoliad hwn fel y mae’n gymwys i arfer swyddogaethau’r swyddog cofrestru o dan Ddeddf 1983.