Ymgeiswyr mewn is-etholiadau perthnasolLL+C
7.—(1) Nid yw person (“P”) a oedd yn ymgeisydd mewn is-etholiad perthnasol i’w ystyried yn ymgeisydd mwyach, ac mae’n cael ei drin fel pe na bai wedi bod yn ymgeisydd cyn i’r rheoliad hwn ddod i rym.
(2) Nid yw person (gan gynnwys P) yn atebol mewn cysylltiad ag unrhyw weithred neu anweithred (pa bryd bynnag y bo’n digwydd) mewn perthynas ag ymgeisyddiaeth P mewn is-etholiad perthnasol cyn i’r rheoliad hwn ddod i rym (gan ddiystyru paragraff (1)), o dan—
(a)adran 71A o Ddeddf 1983 (rheoli rhoddion i ymgeiswyr)() ac Atodlen 2A iddi; a
(b)adrannau 73 i 90D o Ddeddf 1983 (darpariaethau ynghylch treuliau etholiad ymgeiswyr)(), ac Atodlen 4 iddi, gan gynnwys cymhwyso’r darpariaethau hynny i ethol cynghorwyr cymuned yng Nghymru gan adran 90 o’r Ddeddf honno.
(3) Mae paragraffau (4) i (6) yn gymwys mewn perthynas â rhodd a fyddai i’w chynnwys mewn datganiad ynghylch treuliau etholiad mewn cysylltiad â P yn unol â Rhan 3 o Atodlen 2A i Ddeddf 1983() pe bai’r is-etholiad perthnasol wedi ei gynnal (gan ddiystyru paragraff (2)).
(4) At ddibenion paragraff 4(3)(a) o Atodlen 7 i Ddeddf 2000 (rhoddion: diystyru rhoddion i ymgeisydd) nid yw rhodd y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddi i’w thrin fel rhodd sydd i’w chynnwys mewn datganiad ynghylch treuliau etholiad mewn cysylltiad â P.
(5) Pan fo’n ofynnol i roddai rheoleiddiedig gymryd camau mewn cysylltiad â rhodd y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddi o dan adran 56(2) o Ddeddf 2000 (derbyn neu ddychwelyd rhoddion)(), fel y’i cymhwysir gan baragraff 8 o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno(), mae’r ddarpariaeth honno i’w darllen fel pe bai’n ei gwneud yn ofynnol i gamau gael eu cymryd erbyn 31 Ionawr 2021 (yn hytrach nag o fewn y cyfnod a bennir yn y ddarpariaeth).
(6) Pan fo’n ofynnol, mewn perthynas â rhodd y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddi, i roddai rheoleiddiedig lunio adroddiad o dan baragraff 10(1) neu 11(1)(a) o Atodlen 7 i Ddeddf 2000 (adroddiadau ar roddion: rhoddwyr a ganiateir a rhoddwyr nas caniateir)(), mae paragraff 10(2) neu 11(1)(b) (yn ôl y digwydd) o’r Atodlen honno() i’w ddarllen fel pe bai’n ei gwneud yn ofynnol i’r adroddiad gael ei ddanfon i’r Comisiwn Etholiadol erbyn 31 Ionawr 2021 (yn hytrach nag o fewn y cyfnod a bennir yn y ddarpariaeth).
(7) Nid yw person yn atebol am unrhyw fethiant i gydymffurfio â gofyniad y cyfeirir ato ym mharagraffau (5) a (6) rhwng yr adeg ar gyfer cydymffurfio a nodir mewn perthynas â’r gofyniad (cyn i’r addasiadau a wneir gan baragraffau (5) a (6) gael effaith) a’r adeg y mae’r rheoliad hwn yn dod i rym.
(8) Nid oes unrhyw beth yn y rheoliad hwn yn effeithio ar ba un a yw P yn ymgeisydd mewn cysylltiad â phleidlais ohiriedig nac ar unrhyw ofynion a fyddai’n gymwys mewn perthynas â P fel ymgeisydd mewn cysylltiad â phleidlais ohiriedig.