Print Options
PrintThe Whole
Instrument
PrintThe Whole
Part
PrintThis
Section
only
Statws
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Diwygio Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011
17. Yn rheoliad 22—
(a)ym mharagraff (1)—
(i)yn lle “i’r Deyrnas Unedig” rhodder “i Brydain Fawr”;
(ii)yn lle “mae’r rheoliad hwn yn gymwys” hyd at y diwedd rhodder “caiff yr awdurdod gorfodi ofyn am wiriadau ffisegol ychwanegol a chymryd samplau i’w profi neu i’w dadansoddi o lwythi dilynol o’r ffynhonnell dan sylw a chymryd mesurau priodol yn unol ag Adran 3 o Bennod 5 o Deitl 2 o’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol”;
(b)ym mharagraff (3), ar y diwedd mewnosoder “o’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol”;
(c)yn lle paragraff (4) rhodder—
“(4) Pan hysbysir y person sy’n gyfrifol am lwythi y bydd angen gwiriadau ychwanegol yn unol â pharagraff (1), rhaid i’r person hwnnw, cyn i lwythi yn y dyfodol gyrraedd unrhyw safle rheoli ar y ffin, gyflwyno blaendal neu warant i’r awdurdod gorfodi perthnasol sy’n ddigon i dalu’r holl gostau y bydd yr awdurdod gorfodi hwnnw’n mynd iddynt, gan gynnwys costau cymryd samplau a chynnal profion neu ddadansoddiadau.”
Yn ôl i’r brig