Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, De Affrica) (Cymru) 2020

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau AgorExpand opening options

Close

Print Options

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

Offerynnau Statudol Cymru

2020 Rhif 1645 (Cy. 345)

Iechyd Y Cyhoedd, Cymru

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, De Affrica) (Cymru) 2020

Cymeradywyd gan Senedd Cymru

Gwnaed

23 Rhagfyr 2020

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

29 Rhagfyr 2020

Yn dod i rym

am 9.00 a.m. ar 24 Rhagfyr 2020

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 45B, 45C(1) a (3), 45F(2) a 45P o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(1).

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.

Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y cyfyngiadau a’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau hyn yn gymesur â’r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni, sef ymateb iechyd y cyhoedd i’r bygythiad hwnnw.

Yn unol ag adran 45R o’r Ddeddf honno, oherwydd brys, mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn angenrheidiol gwneud yr offeryn hwn heb fod drafft wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.

RHAN 1Cyffredinol

Enwi, dod i rym a dehongli

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, De Affrica) (Cymru) 2020.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 9.00 a.m. ar 24 Rhagfyr 2020.

(3Yn y Rheoliadau hyn—

(a)ystyr “Rheoliadau Teithio Rhyngwladol” yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020(2);

(b)ystyr “Rheoliadau Cyfyngiadau” yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronavirus) (Rhif 5) (Cymru) 2020(3).

RHAN 2Diwygio Rhan 3 o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol

Mewnosod darpariaethau newydd sy’n ymwneud â De Affrica

2.—(1Yn Rhan 3 o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (gofyniad i ynysu etc.), cyn Rhan 4, mewnosoder—

Rheolau arbennig sy’n berthnasol i bobl sy’n teithio o Dde Affrica

12C.(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan osodir gofyniad i ynysu (o fewn yr ystyr a roddir gan reoliad 10(2)) ar berson (“P”) oherwydd fod P—

(a)wedi cyrraedd Cymru o Dde Affrica, neu

(b)wedi bod yn Ne Affrica o fewn y cyfnod o 10 o ddiwrnodau sy’n dod i ben ar y diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru.

(2) Mae Rheoliadau 7(1) a 8(1) i’w darllen mewn perthynas â P fel petai cyfeiriadau i “wlad neu diriogaeth nad yw’n esempt” yn gyfeiriadau i “Dde Affrica”.

(3) Mae’r gofyniad i ynysu a osodir ar P yn rhinwedd rheoliad 7(1) neu 8(1) fel y’i diwygiwyd gan baragraph (2), hefyd yn cael ei osod ar bob aelod o aelwyd P.

(4) Er gwaethaf rheoliad 9(2), mae rheoliadau 7 ac 8 yn gymwys i P.

(5) Nid yw aelod o aelwyd P wedi’i eithrio o’r gofyniad i ynysu yn rhinwedd rheoliad 9(2).

(6) Yn unol â hynny, nid yw P nac unrhyw aelod o aelwyd P i’w drin fel person a ddisgrifir mewn unrhyw baragraff o Atodlen 2.

(7) At ddibenion rheoliad 10, mae aelod o aelwyd P i’w drin fel pe bai’r person hwnnw yw P.

(8) Mae rheoliad 10 yn gymwys i P (ac aelod o aelwyd P yn rhinwedd paragraff (7)) fel pe bai, yn lle paragraff (4) o’r rheoliad hwnnw, y canlynol yn cael ei amnewid—

(4) Caniateir i P adael y fangre a bod y tu allan iddi—

(a)am gyhyd ag y bo’n angenrheidiol—

(i)i geisio cynhorthwy meddygol, pan fo angen y cynhorthwy hwnnw ar frys neu yn unol â chyngor ymarferydd meddygol cofrestredig;

(ii)i osgoi salwch neu anaf neu i ddianc rhag risg o niwed difrifol;

(b)os yw cwnstabl yn dweud fod yn rhaid gwneud hynny.

(9) Yn y rheoliad hwn, mae i “gofyniad i ynysu” yr ystyr a roddir gan reoliad 10(2).

(2Ar ôl rheoliad 12C mewnosoder—

RHAN 3BTeithio o Dde Affrica

Gwahardd awyrennau a llestrau rhag teithio’n uniongyrchol o Dde Affrica

12D.(1) Ni chaiff person sy’n rheoli neu’n gyfrifol am reolaeth awyren neu lestr yr oedd ei man ymadael diwethaf yn De Affrica beri na chaniatáu iddi gyrraedd Cymru, oni fo’n rhesymol angenrheidiol iddi wneud hynny er mwyn sicrhau—

(a)diogelwch yr awyren neu’r llestr, neu.

(b)iechyd a diogelwch unrhyw berson sydd arni.

(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i—

(a)awyren neu lestr a weithredir yn fasnachol ac nad yw’n cludo unrhyw deithwyr;

(b)awyren neu lestr a weithredir gan Lywodraeth Ei Mawrhydi neu er mwyn cefnogi Llywodraeth Ei Mawrhydi yn y Deyrnas Unedig.

(3) Yn y rheoliad hwn—

(a)ystyr “cyrraedd” yw—

(i)mewn perthynas ag awyren, glanio;

(ii)mewn perthynas â llestr, angori yn unrhyw fan arall;

(b)ystyr “teithiwr” yw person a gludir mewn awyren neu ar lestr ac eithrio aelod o’i chriw.

(3Yn rheoliad 14(1)—

(a)yn is-baragraff (e), hepgorer “neu”;

(b)yn is-baragraff (f), ar y diwedd mewnosoder “neu”;

(c)ar ôl is-baragraff (f) mewnosoder—

(g)12D(1),.

Darpariaeth drosiannol sy’n ymwneud â rheoliad 2(2)

3.  Nid yw rheoliad 12D o Reoliadau Teithio Rhyngwladol a fewnosodir gan reoliad 2(2) o’r Rheoliadau hyn, yn gymwys mewn cysylltiad ag unrhyw hediad neu daith a gychwynnodd cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym.

RHAN 3Diwygiadau i Ran 3 o’r Rheoliadau Cyfyngiadau

4.—(1Mae’r Rheoliadau Cyfyngiadau wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Ar ôl rheoliad 11 mewnosoder—

Gofyniad i ynysu: darpariaeth benodol ar gyfer pobl sydd wedi bod yn Ne Affrica

11A.(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo person (“P”)—

(a)yng Nghymru am 9.00 a.m. ar 24 Rhagfyr 2020,

(b)wedi cyrraedd Cymru o fewn y cyfnod o 10 o ddiwrnodau sy’n dod i ben yn union cyn 9.00 a.m. ar 24 Rhagfyr 2020, ac

(c)wedi bod yn Ne Affrica o fewn y cyfnod hwnnw.

(2) Oni bai fod rheoliad 11B yn gymwys ni chaiff P, nac unrhyw berson sy’n byw ar yr un aelwyd â P, adael y man lle maent yn byw, neu fod y tu allan iddo, tan ddiwedd y cyfnod o 10 diwrnod sy’n dechrau ar y diwrnod y gadawodd P De Affrica.

(3) Os yw swyddog olrhain cysylltiadau yn gofyn am hynny, rhaid i P hysbysu’r swyddog—

(a)am enw pob person sy’n byw yn y man lle y mae P yn byw, a

(b)am gyfeiriad y man hwnnw.”

Gofyniad i ynysu: eithriad penodol ar gyfer pobl sydd wedi bod yn Ne Affrica

11B.(1) Mae paragraff (2) yn gymwys pan fo’n ofynnol i berson beidio ag ymadael â’r man lle y mae’r person yn byw, neu fod y tu allan iddo, yn rhinwedd rheoliad 11A(2).

(2) Caiff y person ymadael â’r man lle y mae’r person yn byw a bod y tu allan iddo—

(a)i geisio cynhorthwy meddygol, pan fo angen y cynhorthwy hwnnw ar frys neu yn unol â chyngor ymarferydd meddygol cofrestredig;

(b)os yw cwnstabl yn dweud fod yn rhaid gwneud hynny;

(c)er mwyn osgoi salwch difrifol, anaf difrifol neu risg arall o niwed difrifol.

(3Yn rheoliad 12, ynlle “neu 9(2)” rhodder “, 9(2) neu 11A(2)”.

(4Yn rheoliad 14(2), ar ôl is-baragraff (a) mewnosoder—

(aa)pan fo’n ofynnol i berson ynysu yn unol â rheoliad 11A(2), gwybodaeth gyswllt a dyddiad geni’r person, neu, pan fo’r person yn blentyn, manylion cyswllt yr oedolyn a hysbysir ei bod yn ofynnol i’r plentyn ynysu a dyddiad geni’r plenty.

(5Yn rheoliad 22(4)(a), ynlle “neu 9(2)” rhodder “, 9(2) neu 11A(2)”.

(6Yn rheoliad 30, ynlle “neu 9(2)” rhodder “, 9(2) neu 11A(2)” ynlle “neu 9(2)” rhodder “, 9(2) neu 11A(2)”.

(7Yn rheoliad 40—

(a)ym mharagraff (1)—

(i)yn is-baragraff (a), ar ôl “9(2),” mewnosoder “11A(2)”;

(ii)yn is-baragraff (b), ynlle “neu 9(3)” rhodder “, 9(3) neu 11A(3)”;

(b)ym mharagraff (2)(a), ynlle “neu 9(3)” rhodder “, 9(3) neu 11A(3)”.

Vaughan Gething

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Iechyd, un o Weinidogion Cymru

23 Rhagfyr 2020

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Rhan 2A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/574 (Cy. 132)) (y “Rheoliadau Teithio Rhyngwladol”) a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (O.S. 2020/1609 (W. 335) (y “Rheoliadau Cyfyngiadau”).

Mae 3 Rhan i’r Rheoliadau.

Mae Rhan 1 yn darparu bod y Rheoliadau hyn yn dod i rym am 9.00 a.m. ar 24 Rhagfyr 2020.

Mae Rhan 2 o’r Rheoliadau yn diwygio y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol. Mae rheoliad 2(1) yn mewnosod darpariaethau sy’n ymwneud â De Affrica yn y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol fel rheoliad 12C newydd. Mae hyn yn darparu pan fydd person wedi bod yn Ne Affrica yn ystod y 10 diwrnod diwethaf ac yn cyrraedd Cymru ar neu ar ôl 9.00 a.m. ar 24 Rhagfyr 2020, nad yw’r categorïau o bersonau esempt y rhestrir yn Atodlen 2 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn gymwys. Mae’r gofynion ynysu hefyd yn berthnasol i unrhyw aelodau o aelwyd lle mae’r person yn ynysu. Mae rheoliad 2(2) yn mewnosod rheoliad 12D newydd yn y Rheoliadau hynny i wahardd unrhyw awyren neu long sy’n dod yn uniongyrchol o Dde Affrica rhag cyrraedd Cymru ac eithrio am resymau diogelwch. Mae rheoliad 3 yn darparu nad yw’r rheoliad 12D newydd o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn gymwys pan fo taith awyren neu long wedi cychwyn cyn y daeth rheoliad 12D i rym.

Mae Rhan 3 o’r Rheoliadau yn mewnosod darpariaethau newydd sy’n ymwneud â phersonau sydd wedi bod yn Ne Affrica yn ddiweddar yn y Rheoliadau Cyfyngiadau. Mae’r darpariaethau hyn yn darparu, pan fo person yng Nghymru am 9.00 a.m. ar 24 Rhagfyr 2020 ar ôl cyrraedd o fewn y cyfnod o 10 diwrnod sy’n dod i ben yn union cyn yr amser hwnnw ac wedi bod yn Ne Affrica yn ystod y cyfnod hwnnw, fod angen i’r person hwnnw ac unrhyw aelod o aelwyd y person hwnnw ynysu am gyfnod o 10 diwrnod sy’n dechrau ar y diwrnod y gadawodd De Affrica.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn

Yn ôl i’r brig

Options/Help