Print Options
PrintThe Whole
Instrument
PrintThis
Section
only
Statws
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
Dehongli
2. Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “y cyfnod blaenorol” (“the antecedent period”) yw’r cyfnod sy’n dechrau ar 16 Mawrth 2020 ac sy’n dod i ben ar y diwrnod cyn y diwrnod y daw’r Rheoliadau hyn i rym;
ystyr “y cyfnod perthnasol” (“the relevant period”) yw’r cyfnod sy’n dechrau ar 16 Mawrth 2020 ac sy’n dod i ben ar 31 Ionawr 2021;
ystyr “Deddf 1972” (“the 1972 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 1972();
ystyr “Deddf 1983” (“the 1983 Act”) yw Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983();
ystyr “etholiad perthnasol” (“relevant election”) yw etholiad i lenwi swydd cynghorydd sy’n digwydd dod yn wag mewn cyngor sir, cyngor bwrdeistref sirol neu gyngor cymuned yng Nghymru;
ystyr “Rheolau 2006” (“the 2006 Rules”) yw Rheolau Etholiadau Lleol (Plwyfi a Chymunedau) (Cymru a Lloegr) 2006().
Yn ôl i’r brig