Print Options
PrintThe Whole
Instrument
Statws
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
2021 Rhif 1334 (Cy. 345)
Traffig Ffyrdd, Cymru
Gorchymyn Cefnffordd yr A40 (Ffordd Osgoi Aberhonddu, Powys) (Gwahardd Cerbydau, Beicwyr a Cherddwyr Dros Dro) 2021
Yn dod i rym
6 Rhagfyr 2021
Mae Gweinidogion Cymru, sef yr awdurdod traffig ar gyfer cefnffordd yr A40, wedi eu bodloni y dylid gwahardd traffig ar ddarn penodedig o’r gefnffordd oherwydd gwaith y bwriedir ei wneud ar y ffordd neu gerllaw iddi.
Mae Gweinidogion Cymru, felly, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 14(1) a (4) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984(), yn gwneud y Gorchymyn hwn.
Enwi a chychwyn
1. Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cefnffordd yr A40 (Ffordd Osgoi Aberhonddu, Powys) (Gwahardd Cerbydau, Beicwyr a Cherddwyr Dros Dro) 2021 a daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 6 Rhagfyr 2021.
Dehongli
2. Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “cyfnod y gwaith” (“works period”) yw cyfnodau ysbeidiol sy’n dechrau am 00:00 o’r gloch ar 6 Rhagfyr 2021 ac sy’n dod i ben pan gaiff yr arwyddion traffig dros dro ar gyfer pob cyfnod gwaith eu symud ymaith;
ystyr “y gefnffordd” (“the trunk road”) yw cefnffordd yr A40 Rhaglan i Lanymddyfri rhwng Cylchfan Brynhich a Chylchfan Tarell yn Aberhonddu yn Sir Powys;
Gwaharddiadau
3. Ni chaiff neb, yn ystod cyfnod y gwaith, yrru unrhyw gerbyd ar y darn o’r gefnffordd.
4. Ni chaiff neb, yn ystod cyfnod y gwaith, reidio unrhyw feic pedal ar y darn o’r gefnffordd.
5. Ni chaiff neb, yn ystod cyfnod y gwaith, gerdded ar y darn o’r gefnffordd.
Cymhwyso
6. Ni fydd y gwaharddiadau yn erthyglau 3, 4 a 5 yn gymwys ond ar yr adegau hynny ac i’r graddau hynny y bydd arwyddion traffig yn eu dangos.
Cyfnod Para’r Gorchymyn hwn
7. Bydd y Gorchymyn hwn yn para am 18 mis ar y mwyaf.
Llofnodwyd ar ran y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, yn gweithredu o dan awdurdod y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru
Nicci Hunter
Arweinydd y Tîm Busnes
Llywodraeth Cymru
Dyddiedig 29 Tachwedd 2021
Yn ôl i’r brig