Cydlynydd anghenion dysgu ychwanegol
Dehongli rheoliadau 26 i 30
26. Yn y rheoliad hwn a rheoliadau 27 i 30—
ystyr “athro neu athrawes addysg bellach” (“further education teacher”) yw person sydd wedi ei gofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg yng nghategori athro neu athrawes addysg bellach fel y’i disgrifir yn nhabl 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2014;
ystyr “athro neu athrawes ysgol” (“school teacher”) yw person sydd wedi ei gofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg yng nghategori athro neu athrawes ysgol fel y’i disgrifir yn nhabl 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2014 ac nid yw’n cynnwys person sydd wedi ei gofrestru ar sail dros dro o dan adran 9(5) o’r Ddeddf honno;
ystyr “cydlynydd anghenion addysgol arbennig” (“special educational needs co-ordinator”) yw person sydd â chyfrifoldeb am gydlynu’r ddarpariaeth ar gyfer disgyblion y nodir bod ganddynt anghenion addysgol arbennig o dan Ran 4 o Ddeddf Addysg 1996();
ystyr “Deddf 2014” (“the 2014 Act”) yw Deddf Addysg (Cymru) 2014();
ystyr “gwasanaethau perthnasol” (“relevant services”) yw—
(a)
cyngor neu gymorth mewn perthynas â darpariaeth ddysgu ychwanegol,
(b)
rheoli darpariaeth ddysgu ychwanegol,
(c)
asesu anghenion dysgu ychwanegol,
(d)
cyngor neu gymorth mewn perthynas ag anghenion dysgu ychwanegol, ac
(e)
rheoli disgyblion neu fyfyrwyr (yn ôl y digwydd) ag anghenion dysgu ychwanegol;
(f)
ystyr “gweithiwr cymorth dysgu mewn addysg bellach” (“further education learning support worker”) yw person sydd wedi ei gofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg yng nghategori gweithiwr cymorth dysgu mewn addysg bellach fel y’i disgrifir yn nhabl 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2014;
ystyr “gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol” (“school learning support worker”) yw person sydd wedi ei gofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg yng nghategori gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol fel y’i disgrifir yn nhabl 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2014.
Cymhwyster neu brofiad rhagnodedig cydlynydd anghenion dysgu ychwanegol mewn ysgol
27. Ni chaiff corff llywodraethu ysgol ddynodi person yn gydlynydd anghenion dysgu ychwanegol o dan adran 60(2) o Ddeddf 2018 ond os yw’r person hwnnw—
(a)yn athro neu athrawes ysgol, neu
(b)yn gydlynydd anghenion addysgol arbennig o fewn yr ysgol yn union cyn 4 Ionawr 2021().
Cymhwyster rhagnodedig cydlynydd anghenion dysgu ychwanegol mewn sefydliad yn y sector addysg bellach
28. Ni chaiff corff llywodraethu sefydliad yn y sector addysg bellach ddynodi person yn gydlynydd anghenion dysgu ychwanegol o dan adran 60(2) o Ddeddf 2018 ond os yw’r person hwnnw yn athro neu athrawes addysg bellach.
Swyddogaethau cydlynydd anghenion dysgu ychwanegol mewn ysgol
29. Y tasgau y mae cydlynydd anghenion dysgu ychwanegol mewn ysgol yn gyfrifol am eu cyflawni, neu am sicrhau eu bod yn cael eu cyflawni, yw—
(a)nodi anghenion dysgu ychwanegol disgybl a chydlynu’r gwaith o wneud darpariaeth ddysgu ychwanegol sy’n diwallu anghenion dysgu ychwanegol disgybl,
(b)sicrhau gwasanaethau perthnasol a fydd yn cefnogi darpariaeth ddysgu ychwanegol disgybl fel y bo’n ofynnol,
(c)cadw cofnodion o benderfyniadau ynghylch anghenion dysgu ychwanegol a chynlluniau datblygu unigol,
(d)hybu cynhwysiant disgybl ag anghenion dysgu ychwanegol yn yr ysgol a’i fynediad at gwricwlwm, cyfleusterau a gweithgareddau allgyrsiol yr ysgol,
(e)monitro effeithiolrwydd unrhyw ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a wneir,
(f)cynghori’r athrawon ysgol yn yr ysgol ynghylch y dulliau addysgu gwahaniaethol sy’n briodol ar gyfer disgyblion unigol ag anghenion dysgu ychwanegol,
(g)goruchwylio a hyfforddi gweithwyr cymorth dysgu mewn ysgol sy’n gweithio gyda disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol, ac
(h)cyfrannu at hyfforddiant mewn swydd ar gyfer athrawon ysgol yn yr ysgol er mwyn cynorthwyo’r cydlynydd anghenion dysgu ychwanegol i gyflawni’r tasgau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (a) i (e).
Swyddogaethau cydlynydd anghenion dysgu ychwanegol mewn sefydliad yn y sector addysg bellach
30. Y tasgau y mae cydlynydd anghenion dysgu ychwanegol mewn sefydliad yn y sector addysg bellach yn gyfrifol am eu cyflawni, neu am sicrhau eu bod yn cael eu cyflawni, yw—
(a)nodi anghenion dysgu ychwanegol myfyriwr a chydlynu’r gwaith o wneud darpariaeth ddysgu ychwanegol sy’n diwallu anghenion dysgu ychwanegol myfyriwr,
(b)sicrhau gwasanaethau perthnasol a fydd yn cefnogi darpariaeth ddysgu ychwanegol myfyriwr fel y bo’n ofynnol,
(c)cadw cofnodion o benderfyniadau ynghylch anghenion dysgu ychwanegol a chynlluniau datblygu unigol,
(d)hybu cynhwysiant myfyriwr ag anghenion dysgu ychwanegol yn y sefydliad yn y sector addysg bellach a’i fynediad at gwricwlwm, cyfleusterau a gweithgareddau allgyrsiol y sefydliad yn y sector addysg bellach,
(e)monitro effeithiolrwydd unrhyw ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a wneir,
(f)cynghori’r athrawon yn y sefydliad yn y sector addysg bellach ynghylch y dulliau addysgu gwahaniaethol sy’n briodol ar gyfer myfyrwyr unigol ag anghenion dysgu ychwanegol,
(g)goruchwylio a hyfforddi gweithwyr cymorth dysgu mewn addysg bellach sy’n gweithio gyda myfyrwyr ag anghenion dysgu ychwanegol, ac
(h)cyfrannu at hyfforddiant ar gyfer athrawon addysg bellach yn y sefydliad yn y sector addysg bellach er mwyn cynorthwyo’r cydlynydd anghenion dysgu ychwanegol i gyflawni’r tasgau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (a) i (e).