Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Bwyd a Bwyd Anifeiliaid a Addaswyd yn Enetig (Awdurdodiadau) (Cymru) 2022

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau AgorExpand opening options

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2022 Rhif 472 (Cy. 116)

Amaethyddiaeth, Cymru

Bwyd, Cymru

Rheoliadau Bwyd a Bwyd Anifeiliaid a Addaswyd yn Enetig (Awdurdodiadau) (Cymru) 2022

Gwnaed

25 Ebrill 2022

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

27 Ebrill 2022

Yn dod i rym

20 Mai 2022

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan Erthyglau 7(3), 9(2), 11, 19(3), 21(2), 23 a 35 o Reoliad (EC) Rhif 1829/2003 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar fwyd a bwyd anifeiliaid a addaswyd yn enetig(1).

Fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd (2), ymgynghorwyd yn agored ac yn dryloyw â’r cyhoedd wrth lunio a gwerthuso’r Rheoliadau hyn.

(1)

EUR 1829/2003; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 2019/705, 2020/1504 a 2022/377. Mae’r termau “appropriate authority” a “prescribe” wedi eu diffinio yn Erthygl 2 o Reoliad 1829/2003.

(2)

EUR 178/2002; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 2019/641 a 2020/1504.

Yn ôl i’r brig

Options/Help