Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Bwyd a Bwyd Anifeiliaid a Addaswyd yn Enetig (Awdurdodiadau) (Cymru) 2022

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau AgorExpand opening options

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Y dull canfod

4.—(1At ddibenion Erthyglau 7(3) a 19(3) o Reoliad 1829/2003, mae’r dulliau a bennir yn is-baragraffau (2) i (5) i’w defnyddio i ganfod indrawn a addaswyd yn enetig y cyfeirir ato ym mharagraff 1.

(2Dull canfod yr indrawn a addaswyd yn enetig sy’n seiliedig ar PCR meintiol amser real digwyddiad benodol fel y nodir yn y ddogfen o’r enw “Event-specific Method for the Quantification of Maize MON 87427 Using Real-time PCR”, cyfeirnod “EURL-VL-03/12VP”, dyddiedig 9 Mehefin 2015.

(3Dull canfod yr indrawn a addaswyd yn enetig sy’n seiliedig ar PCR meintiol amser real digwyddiad benodol fel y nodir yn y ddogfen o’r enw “Event-specific Method for the Quantification of Maize Line MON 89034 Using Real-time PCR”, cyfeirnod “CRLVL06/06VP”, dyddiedig 21 Hydref 2008.

(4Dull canfod yr indrawn a addaswyd yn enetig sy’n seiliedig ar PCR meintiol amser real digwyddiad benodol fel y nodir yn y ddogfen o’r enw “Event-specific Method for the Quantification of Maize MIR162 Using Real-time PCR”, cyfeirnod “CRLVL08/08VP”, dyddiedig 31 Ionawr 2011.

(5Dull canfod yr indrawn a addaswyd yn enetig sy’n seiliedig ar PCR meintiol amser real digwyddiad benodol fel y nodir yn y ddogfen o’r enw “Event-specific method for the quantitation of maize line NK603 using real-time PCR”, cyfeirnod “CRLVL27/04VP”, a gyhoeddwyd ar 10 Ionawr 2005.

(6Mae’r dull o echdynnu DNA sydd i’w ddefnyddio yn y dull canfod a bennir yn is-baragraffau (2) i (5) wedi ei nodi yn y ddogfen o’r enw “Report on the Validation of a DNA Extraction Method for Maize Seeds and Grains”, cyfeirnod “CRLVL16/05XP corrected version 2”, dyddiedig 26 Gorffennaf 2017.

(7At ddibenion Erthyglau 7(3) a 19(3) o Reoliad 1829/2003, gellir cyrchu’r deunyddiau cyfeirio “AOCS 0512-A2” (ar gyfer MON-87427-7), “AOCS 0906-E2” (ar gyfer MON-89Ø34-3) ac “AOCS 1208-A3” (ar gyfer SYN-IR162-4) drwy Gymdeithas Cemegwyr Olew America (AOCS)(1). Gellir cyrchu “ERM®-BF415” (ar gyfer MON-ØØ6Ø3-6) drwy Gyd-ganolfan Ymchwil (JRC) y Comisiwn Ewropeaidd(2).

Yn ôl i’r brig

Options/Help