Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Bwyd a Bwyd Anifeiliaid a Addaswyd yn Enetig (Awdurdodiadau) (Cymru) 2022

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau AgorExpand opening options

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Rheoliad 3

ATODLEN 6Adnewyddu’r awdurdodiad i roi ar y farchnad gynhyrchion sy’n cynnwys indrawn a addaswyd yn enetig Bt11, neu sydd wedi eu cyfansoddi neu eu cynhyrchu o’r indrawn hwnnw

Yr organedd a addaswyd yn enetig a’i farc adnabod unigryw

1.  At ddibenion Erthyglau 7(3) a 19(3) o Reoliad 1829/2003, pennir y marc adnabod unigryw SYN-BTØ11-1 ar gyfer indrawn a addaswyd yn enetig Bt11.

Awdurdodi

2.  Mae’r cynhyrchion a ganlyn wedi eu hawdurdodi at ddibenion Erthyglau 4(2) ac 16(2) o Reoliad 1829/2003 yn unol â’r amodau a nodir yn yr Atodlen hon—

(a)bwyd a chynhwysion bwyd sy’n cynnwys indrawn a addaswyd yn enetig SYN-BTØ11-1 neu sydd wedi eu cyfansoddi neu eu cynhyrchu o’r indrawn hwnnw;

(b)bwyd anifeiliaid sy’n cynnwys indrawn a addaswyd yn enetig SYN-BTØ11-1 neu sydd wedi ei gyfansoddi neu ei gynhyrchu o’r indrawn hwnnw;

(c)cynhyrchion sy’n cynnwys indrawn a addaswyd yn enetig SYN-BTØ11-1 neu sydd wedi eu cyfansoddi o’r indrawn hwnnw at ddibenion heblaw’r rheini y darperir ar eu cyfer yn is-baragraffau (a) a (b), ac eithrio amaethu.

Labelu

3.—(1At ddibenion y gofynion labelu a nodir yn Erthyglau 13(1) a 25(2) o Reoliad 1829/2003, ac yn Erthygl 4(6) o Reoliad 1830/2003, “name of the organism” yw “maize”.

(2Rhaid i’r geiriau “not for cultivation” ymddangos ar label cynhyrchion sy’n cynnwys indrawn a addaswyd yn enetig SYN-BTØ11-1, neu sydd wedi eu cyfansoddi o’r indrawn hwnnw, ac eithrio bwyd a chynhwysion bwyd, ac yn y dogfennau sy’n mynd gyda’r cynhyrchion hynny.

Y dull canfod

4.—(1At ddibenion Erthyglau 7(3) a 19(3) o Reoliad 1829/2003, mae’r dull a bennir yn is-baragraff (2) i’w ddefnyddio i ganfod indrawn a addaswyd yn enetig SYN-BTØ11-1.

(2Dull canfod yr indrawn a addaswyd yn enetig sy’n seiliedig ar PCR meintiol amser real digwyddiad benodol fel y nodir yn y ddogfen o’r enw “Event-specific Method for the Quantification of Maize Line Bt11 using Real-time PCR”, cyfeirnod “CRLVL10/07VP”, dyddiedig 20 Mehefin 2008.

(3Mae’r dull o echdynnu DNA sydd i’w ddefnyddio yn y dull canfod a bennir yn is-baragraff (2) wedi ei nodi yn y ddogfen o’r enw “Maize Seeds Sampling and DNA Extraction Report on the Validation of a DNA Extraction Method from Maize Seeds and Grains”, cyfeirnod “CRLVL12/05XP”, dyddiedig 18 Ebrill 2007.

(4At ddibenion Erthyglau 7(3) a 19(3) o Reoliad 1829/2003, gellir cyrchu’r deunydd cyfeirio “ERM®-BF412” drwy Gyd-ganolfan Ymchwil (JRC) y Comisiwn Ewropeaidd(1).

Cynllun monitro’r effeithiau amgylcheddol

5.—(1Rhaid i ddeiliad yr awdurdodiad sicrhau y gweithredir cynllun monitro’r effeithiau amgylcheddol, sy’n mynd gyda’r cais i adnewyddu awdurdodiad indrawn a addaswyd yn enetig SYN-BTØ11-1, cyfeirnod “RP620” a gyflwynwyd i’r Awdurdod Diogelwch Bwyd ar 12 Mawrth 2021.

(2Rhaid i ddeiliad yr awdurdodiad gyflwyno i’r Awdurdod Diogelwch Bwyd adroddiadau blynyddol ar weithrediad y cynllun monitro, a chanlyniadau’r gweithgareddau a nodir yn y cynllun hwnnw, yn unol â’r fformat a nodir yn Atodiad 2 i Benderfyniad 2009/770.

Deiliad yr awdurdodiad

6.—(1Enw a chyfeiriad deiliad yr awdurdodiad yw Syngenta Crop Protection AG, Rosentalstrasse 67, CH-4058 Basel, y Swistir.

(2Cynrychiolir deiliad yr awdurdodiad ym Mhrydain Fawr gan Syngenta Limited, Jealott’s Hill International Research Centre, Bracknell, Berkshire, Lloegr, RG42 6EY.

Yn ôl i’r brig

Options/Help