RHAN 2Gweithwyr amaethyddol
Telerau ac amodau cyflogaeth
3. Mae cyflogaeth gweithiwr amaethyddol yn ddarostyngedig i’r telerau a’r amodau a nodir yn y Rhan hon ac yn Rhannau 3, 4 a 5 o’r Gorchymyn hwn.
Graddau a chategorïau gweithiwr amaethyddol
4. Rhaid i weithiwr amaethyddol gael ei gyflogi fel gweithiwr ar un o’r Graddau a bennir yn erthyglau 5 i 9 neu fel prentis yn unol â’r darpariaethau yn erthygl 10.
Gweithiwr Datblygu Amaethyddol Gradd A
5. Rhaid i weithiwr amaethyddol—
(a)sydd â llai na 3 blynedd o brofiad ymarferol sy’n berthnasol i’w rôl mewn amaethyddiaeth, a
(b)na all ddarparu tystiolaeth ddogfennol i gyflogwr fod y prif gymhwyster neu gymwysterau sy’n ofynnol ar gyfer prentisiaeth lefel 2 sy’n berthnasol i’w rôl mewn amaethyddiaeth wedi eu dyfarnu iddo yn unol â’r fframwaith prentisiaethau, neu ei fod wedi bodloni gofynion prentisiaeth lefel 2 neu brentisiaeth gyfatebol, o’r tu allan i Gymru, fel y pennir yn Atodlen 4, sy’n berthnasol i’w rôl mewn amaethyddiaeth,
gael ei gyflogi fel Gweithiwr Datblygu Amaethyddol Gradd A.
Gweithiwr Amaethyddol Gradd B
6. Rhaid i weithiwr amaethyddol—
(a)sy’n darparu tystiolaeth ddogfennol i gyflogwr fod y prif gymhwyster neu gymwysterau sy’n ofynnol ar gyfer prentisiaeth lefel 2, y mae rhaid iddynt fod yn berthnasol i’w rôl mewn amaethyddiaeth, wedi eu dyfarnu iddo yn unol â’r fframwaith prentisiaethau, neu ei fod wedi bodloni gofynion prentisiaeth lefel 2 neu brentisiaeth gyfatebol, o’r tu allan i Gymru, fel y pennir yn Atodlen 4, y mae rhaid iddi fod yn berthnasol i’w rôl mewn amaethyddiaeth, neu
(b)sydd ag o leiaf 3 blynedd o brofiad ymarferol mewn amaethyddiaeth fel Gweithiwr Datblygu Amaethyddol Gradd A,
gael ei gyflogi fel Gweithiwr Amaethyddol Gradd B.
Gweithiwr Amaethyddol Uwch Gradd C
7.—(1) Rhaid i weithiwr amaethyddol—
(a)sy’n darparu tystiolaeth ddogfennol i gyflogwr fod y prif gymhwyster neu gymwysterau sy’n ofynnol ar gyfer prentisiaeth lefel 3, y mae rhaid iddynt fod yn berthnasol i’w rôl mewn amaethyddiaeth, wedi eu dyfarnu iddo yn unol â’r fframwaith prentisiaethau, neu ei fod wedi bodloni gofynion prentisiaeth lefel 3 neu brentisiaeth gyfatebol, o’r tu allan i Gymru, fel y pennir yn Atodlen 4, y mae rhaid iddi fod yn berthnasol i’w rôl mewn amaethyddiaeth,
(b)sydd ag o leiaf 2 flynedd o brofiad ymarferol mewn amaethyddiaeth fel Gweithiwr Amaethyddol Gradd B, neu
(c)sydd wedi ei gyflogi fel arweinydd tîm,
gael ei gyflogi fel Gweithiwr Amaethyddol Uwch Gradd C.
(2) At ddibenion yr erthygl hon, mae “arweinydd tîm” yn gyfrifol am arwain tîm o weithwyr amaethyddol ac am fonitro sut mae’r tîm yn cydymffurfio â chyfarwyddiadau a roddir gan neu ar ran eu cyflogwr ond nid yw’n gyfrifol am faterion disgyblu.
Uwch-weithiwr Amaethyddol Gradd D
8. Rhaid i weithiwr amaethyddol—
(a)sy’n darparu tystiolaeth ddogfennol i gyflogwr fod y prif gymhwyster neu gymwysterau sy’n ofynnol ar gyfer prentisiaeth lefel 4, y mae rhaid iddynt fod yn berthnasol i’w rôl mewn amaethyddiaeth, wedi eu dyfarnu iddo yn unol â’r fframwaith prentisiaethau, neu ei fod wedi bodloni gofynion prentisiaeth lefel 4 neu brentisiaeth gyfatebol, o’r tu allan i Gymru, fel y pennir yn Atodlen 4, y mae rhaid iddi fod yn berthnasol i’w rôl mewn amaethyddiaeth, neu
(b)sydd â chyfrifoldebau sy’n cynnwys gweithredu penderfyniadau rheoli yn annibynnol neu oruchwylio staff,
gael ei gyflogi fel Uwch-weithiwr Amaethyddol Gradd D.
Rheolwr Amaethyddol Gradd E
9. Rhaid i weithiwr amaethyddol y mae’n ofynnol iddo ysgwyddo cyfrifoldeb o ddydd i ddydd, gan gynnwys hurio a rheoli staff pan fo’n berthnasol—
(a)dros ddaliad cyfan y cyflogwr, neu
(b)dros ran o ddaliad y cyflogwr a redir fel gweithrediad neu fusnes ar wahân,
gael ei gyflogi fel Rheolwr Amaethyddol Gradd E.
Prentisiaid
10.—(1) Mae gweithiwr amaethyddol yn brentis sydd wedi ei gyflogi o dan brentisiaeth os yw’n cael ei gyflogi o dan naill ai contract prentisiaeth neu gytundeb prentisiaeth o fewn ystyr “apprenticeship agreement” yn adran 32 o Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009(), neu’n cael ei drin fel pe bai wedi ei gyflogi o dan gontract prentisiaeth.
(2) Rhaid i weithiwr amaethyddol gael ei drin fel pe bai wedi ei gyflogi o dan gontract prentisiaeth os yw wedi ei gymryd ymlaen yng Nghymru o dan drefniadau Llywodraeth o’r enw Prentisiaethau Sylfaen, Prentisiaethau neu Brentisiaethau Uwch.
(3) Yn yr erthygl hon ystyr “trefniadau Llywodraeth” yw trefniadau a wnaed o dan adran 2 o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973() neu o dan adran 17B o Ddeddf Ceiswyr Gwaith 1995().