Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Mewnforio Bwyd a Bwyd Anifeiliaid Risg Uchel Nad Ydynt yn Dod o Anifeiliaid) (Diwygio Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/1793) (Cymru) 2024

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau AgorExpand opening options

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2024 Rhif 119 (Cy. 27)

Amaethyddiaeth, Cymru

Bwyd, Cymru

Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Mewnforio Bwyd a Bwyd Anifeiliaid Risg Uchel Nad Ydynt yn Dod o Anifeiliaid) (Diwygio Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/1793) (Cymru) 2024

Gwnaed

31 Ionawr 2024

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

2 Chwefror 2024

Yn dod i rym

7 Mawrth 2024

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan—

  • Erthyglau 34(6), 47(2)(b), 54(4)(a) a (b) a 144(6)(a) o Reoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir i sicrhau y cymhwysir y gyfraith o ran bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau ynghylch iechyd a lles anifeiliaid, iechyd planhigion a chynhyrchion diogelu planhigion(1);

  • Erthyglau 53(1)(b) a 57a(6)(a) o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(2).

Cynhaliwyd ymgynghoriad fel sy’n ofynnol gan Erthygl 144(7) o Reoliad (EU) 2017/625 ac fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002.

(1)

EUR 2017/625, a ddiwygiwyd gan O.S. 2020/1481; mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol. Mae’r term “the appropriate authority” wedi ei ddiffinio yn Erthygl 3(2A) o EUR 2017/625.

(2)

EUR 2002/178, a ddiwygiwyd gan O.S. 2019/641 a 2022/377. Diwygiwyd O.S. 2019/641 gan O.S. 2020/1504. Mae’r term “appropriate authority” wedi ei ddiffinio yn Erthygl 3(19) o EUR 2002/178.

Yn ôl i’r brig

Options/Help