Print Options
PrintThe Whole
Instrument
PrintThe Whole
Part
PrintThis
Section
only
Statws
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Dehongli
2. Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “aelod” (“member”) yw aelod o’r cyd-bwyllgor neu aelod cyswllt y cyd-bwyllgor fel y nodir yn rheoliad 3 o’r Rheoliadau hyn;
ystyr “aelod cyswllt” (“associate member”) yw’r prif gomisiynydd a gyflogir gan y Bwrdd Iechyd Lleol cynhaliol;
ystyr “aelod nad yw’n swyddog” (“non-officer member”) yw aelod o’r cyd-bwyllgor, nad yw’n gadeirydd iddo, sydd wedi ei benodi yn unol â rheoliad 4 o’r Rheoliadau hyn;
ystyr “Bwrdd Iechyd Lleol” (“Local Health Board”) yw Bwrdd Iechyd Lleol yng Nghymru sydd wedi ei sefydlu yn unol ag adran 11(2) o’r Ddeddf();
ystyr “Bwrdd Iechyd Lleol cynhaliol” (“host Local Health Board”) yw Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Cwm Taf Morgannwg();
ystyr “cadeirydd” (“chair”) yw cadeirydd y cyd-bwyllgor;
ystyr “corff gwasanaeth iechyd” (“health service body”) yw GIG Lloegr, y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal, yr Awdurdod Ymchwil Iechyd, unrhyw Awdurdod Iechyd Arbennig, unrhyw Fwrdd Iechyd Lleol, unrhyw Ymddiriedolaeth y GIG neu unrhyw Ymddiriedolaeth Sefydledig y GIG;
ystyr “y cyd-bwyllgor” (“the joint committee”) yw Cyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru a sefydlwyd yn unol â Chyfarwyddydau Cyd-bwyllgor Comisiynu Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2024 a wnaed ar 6 Chwefror 2024;
ystyr “cynrychiolydd enwebedig” (“nominated representative”) yw swyddog-aelod a enwebwyd gan brif swyddogion Bwrdd Iechyd Lleol. Ystyr swyddog-aelod yn y cyd-destun hwn yw unrhyw swydd a nodir yn rheoliad 3(2) o Reoliadau Byrddau Iechyd Lleol (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) 2009();
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;
ystyr “prif swyddog” (“chief officer”) yw prif weithredwr Bwrdd Iechyd Lleol.
Yn ôl i’r brig