Adran 37 - cynllunio Cymunedol
68.Mae adran 37 yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i gychwyn cynllun cymunedol i’w hardal, ei gynnal, ei hwyluso a chymryd rhan ynddo.
69.Mae’r adran yn diffinio cynllunio cymunedol fel proses y mae awdurdod lleol a'i bartneriaid cynllunio cymunedol yn ei defnyddio i nodi amcanion hirdymor ar gyfer gwella llesiant economaidd, cymdeithasol ac economaidd ardal yr awdurdod lleol a hefyd i gyfrannu at ddatblygu cynaliadwy yn y Deyrnas Unedig.
70.Mae’r diffiniad o gynllunio cymunedol hefyd yn cynnwys dod o hyd i’r camau sydd i’w cymryd a’r swyddogaethau sydd i’w harfer er mwyn gwireddu’r amcanion hirdymor.
71.Mae adran 37 hefyd yn gosod dyletswydd ar bartneriaid cynllunio cymunedol:
i gymryd rhan mewn cynlluniau cymunedol;
i helpu’r awdurdod lleol wrth gyflawni dyletswyddau’r awdurdod lleol.