Cyffredinol
20Gorchmynion a rheoliadau: gweithdrefnau
1
Mae unrhyw offeryn statudol sy'n cynnwys gorchymyn neu reoliadau a wneir o dan y Mesur hwn yn ddarostyngedig i'w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
2
Nid yw is-adran (1) yn gymwys–
a
i orchymyn o dan adran 21(1);
b
i orchmynion a rheoliadau y mae is-adran (3) yn gymwys iddynt.
3
Ni chaniateir gwneud offeryn statudol sy'n cynnwys gorchymyn o dan adran 3(4) neu reoliadau o dan adran 4, 5(1)(g), 6, 9, neu 14 (p'un ai ar ei ben ei hun neu ar eu pennau eu hunain neu ynghyd â darpariaethau eraill) oni fydd drafft o'r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a'i gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo.
4
Pan fo rheoliadau yn gwneud darpariaeth y caniateir ei gwneud drwy orchymyn, bydd unrhyw weithdrefn a fyddai'n gymwys i'r gorchymyn o dan yr adran hon yn gymwys i'r rheoliadau.
5
Pan fo gorchymyn yn gwneud darpariaeth y caniateir ei gwneud drwy reoliadau, bydd unrhyw weithdrefn a fyddai'n gymwys i'r rheoliadau o dan yr adran hon yn gymwys i'r gorchymyn.