xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 4LL+CSAFONAU

PENNOD 2LL+CSAFONAU A PHENNU SAFONAU

Pennu safonauLL+C

26Gweinidogion Cymru i bennu safonauLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau—

(a)pennu un neu ragor o safonau cyflenwi gwasanaethau,

(b)pennu un neu ragor o safonau llunio polisi,

(c)pennu un neu ragor o safonau gweithredu,

(d)pennu un neu ragor o safonau hybu, ac

(e)pennu un neu ragor o safonau cadw cofnodion.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth arall ynghylch y safonau hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 26 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I2A. 26 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(i)

27Pennu safonau: darpariaeth atodolLL+C

(1)Dim ond os ymddengys i Weinidogion Cymru y byddai'r safon yn gwneud y canlynol y caiff Gweinidogion Cymru bennu safon cadw cofnodion sy'n ymwneud â chadw cofnodion sy'n dod o fewn adran 32(1)(b)(ii) (cwynion yn ymwneud â'r Gymraeg, ac eithrio cwynion yn ymwneud â chydymffurfedd person â safonau eraill)—

(a)cynorthwyo Gweinidogion Cymru i arfer unrhyw swyddogaeth o dan y Mesur hwn, neu

(b)cynorthwyo'r Comisiynydd i arfer unrhyw swyddogaeth.

(2)Caiff rheoliadau o dan unrhyw un neu ragor o baragraffau (a) i (e) o adran 26(1) bennu gwahanol safonau o'r math y cyfeirir ato yn y paragraff hwnnw mewn perthynas ag ymddygiad gwahanol.

(3)Caiff rheoliadau o dan unrhyw un neu ragor o baragraffau (a) i (e) o adran 26(1) bennu, mewn perthynas ag ymddygiad penodol—

(a)un safon o'r math y cyfeirir ato yn y paragraff hwnnw, neu

(b)nifer o safonau o'r math y cyfeirir ato yn y paragraff hwnnw.

(4)Caiff safonau a bennir o dan adran 26(1), neu reoliadau o dan adran 26(2), ymdrin, ymhlith pethau eraill, ag unrhyw un neu ragor o'r canlynol—

(a)llunio gan bersonau sydd o dan y ddyletswydd yn adran 25 i gydymffurfio â safonau, strategaethau neu gynlluniau'n nodi sut y maent yn bwriadu cydymffurfio â'r safonau;

(b)gweithdrefnau sydd i'w dilyn gan bersonau sydd o dan y ddyletswydd yn adran 25 i gydymffurfio â safonau;

(c)casglu gwybodaeth gan bersonau sydd o dan y ddyletswydd yn adran 25 i gydymffurfio â safonau, gan gynnwys gwybodaeth am ddefnyddio'r Gymraeg a'r Saesneg mewn perthynas ag ymddygiad penodol;

(d)gwybodaeth y mae'n rhaid trefnu iddi fod ar gael i'r Comisiynydd;

(e)trefniadau monitro a gofynion cyhoeddusrwydd;

(f)gofynion adrodd.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 27 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I4A. 27 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(i)

Safonau cyflenwi gwasanaethauLL+C

28Safonau cyflenwi gwasanaethauLL+C

(1)Yn y Mesur hwn ystyr “safon cyflenwi gwasanaethau” yw safon—

(a)sy'n ymwneud â gweithgaredd cyflenwi gwasanaethau, a

(b)y bwriedir iddi hybu neu hwyluso defnyddio'r Gymraeg, neu weithio tuag at sicrhau nad yw'r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg, pan gyflawnir y gweithgaredd hwnnw.

(2)Yn yr adran hon ystyr “gweithgaredd cyflenwi gwasanaethau” yw—

(a)cyflenwi gwasanaethau gan berson i berson arall, neu

(b)delio gan berson ag unrhyw berson arall mewn cysylltiad â chyflenwi gwasanaethau—

(i)i'r person arall hwnnw, neu

(ii)i drydydd person.

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 28 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I6A. 28 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(i)

Safonau llunio polisiLL+C

29Safonau llunio polisiLL+C

(1)Yn y Mesur hwn ystyr “safon llunio polisi” yw safon—

(a)sy'n ymwneud â phenderfyniad polisi, a

(b)y bwriedir iddo sicrhau, neu gyfrannu at sicrhau, un neu ragor o'r canlyniadau a ganlyn.

(2)Y cyntaf o'r canlyniadau hynny yw bod y person sy'n gwneud y penderfyniad polisi yn ystyried pa effeithiau, os o gwbl, (a ph'un ai yw'r effeithiau'n bositif neu'n andwyol) y byddai'r penderfyniad polisi yn eu cael—

(a)ar gyfleoedd i bersonau eraill i ddefnyddio'r Gymraeg, neu

(b)ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.

(3)Yr ail o'r canlyniadau hynny yw bod y person sy'n gwneud y penderfyniad polisi yn ystyried sut y gellid gwneud y penderfyniad fel bod y penderfyniad yn cael effeithiau positif, neu effeithiau mwy positif—

(a)ar gyfleoedd i bersonau eraill i ddefnyddio'r Gymraeg, neu

(b)ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.

(4)Y trydydd o'r canlyniadau hynny yw bod y person sy'n gwneud y penderfyniad polisi yn ystyried sut y gellid gwneud y penderfyniad fel nad yw'r penderfyniad yn cael effeithiau andwyol, neu fel bod y penderfyniad yn cael effeithiau llai andwyol—

(a)ar gyfleoedd i bersonau eraill i ddefnyddio'r Gymraeg, neu

(b)ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.

(5)Yn yr adran hon mae cyfeiriad at effeithiau positif neu effeithiau andwyol yn gyfeiriad at yr effeithiau hynny, boed uniongyrchol neu anuniongyrchol.

(6)Ystyr “penderfyniad polisi” yw penderfyniad gan berson—

(a)ynglŷn ag arfer ei swyddogaethau, neu

(b)ynglŷn â chynnal ei fusnes neu ymgymeriad arall.

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 29 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I8A. 29 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(i)

Safonau gweithreduLL+C

30Safonau gweithreduLL+C

(1)Yn y Mesur hwn ystyr “safon gweithredu” yw safon—

(a)sy'n ymwneud â gweithgareddau perthnasol person (A), a

(b)y bwriedir iddi hybu neu hwyluso defnyddio'r Gymraeg—

(i)gan A wrth i A wneud ei weithgareddau perthnasol,

(ii)gan A a pherson arall wrth iddynt ddelio â'i gilydd mewn cysylltiad â gweithgareddau perthnasol A, neu

(iii)gan berson heblaw A wrth iddo wneud gweithgareddau at ddibenion gweithgareddau perthnasol A, neu mewn cysylltiad â hwy.

(2)Yn yr adran hon—

(a)ystyr “gweithgareddau perthnasol” yw—

(i)swyddogaethau, neu

(ii)busnes neu ymgymeriad arall;

(b)mae cyfeiriad at gyflawni gweithgareddau perthnasol yn gyfeiriad at—

(i)arfer swyddogaethau, neu

(ii)cynnal busnes neu ymgymeriad arall.

Gwybodaeth Cychwyn

I9A. 30 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I10A. 30 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(i)

Safonau hybuLL+C

31Safonau hybuLL+C

Yn y Mesur hwn ystyr “safon hybu” yw safon (yn ymwneud ag unrhyw weithgaredd) y bwriedir iddi hybu neu hwyluso defnyddio'r Gymraeg yn ehangach.

Gwybodaeth Cychwyn

I11A. 31 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I12A. 31 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(i)

Safonau cadw cofnodionLL+C

32Safonau cadw cofnodionLL+C

(1)Yn y Mesur hwn ystyr “safon cadw cofnodion” yw safon sy'n ymwneud â chadw—

(a)cofnodion sy'n ymwneud â safonau penodedig eraill, a

(b)cofnodion sy'n ymwneud—

(i)â chwynion am gydymffurfedd person â safonau penodedig eraill, neu

(ii)â chwynion eraill sy'n ymwneud â'r Gymraeg.

(2)Yn yr adran hon ystyr “safon benodedig” yw safon a bennir gan Weinidogion Cymru o dan adran 26(1).

Gwybodaeth Cychwyn

I13A. 32 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I14A. 32 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(i)