xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 4LL+CSAFONAU

PENNOD 8LL+CYMCHWILIADAU AC ADRODDIADAU SAFONAU

Ymchwiliadau safonauLL+C

61Ymchwiliadau safonauLL+C

(1)Yn y Mesur hwn ystyr “ymchwiliad safonau” yw ymchwiliad a gynhelir mewn perthynas â pherson (P) er mwyn dyfarnu ar un neu ragor o'r cwestiynau canlynol—

(a)a ddylai P fod yn agored — neu a ddylai P barhau i fod yn agored — i orfod cydymffurfio â safonau;

(b)os yw P yn dod o fewn Atodlen 6, pa safonau (os o gwbl) a ddylai fod — neu a ddylai barhau i fod — yn gymwysadwy i P;

(c)os yw P yn dod o fewn Atodlen 8, pa wasanaethau (os o gwbl) a ddylai gael — neu a ddylai barhau i gael — eu pennu yng ngholofn (2) o gofnod P yn y tabl yn Atodlen 8;

(d)pa safonau (os o gwbl) a ddylai fod — neu a ddylai barhau i fod — yn benodol gymwys i P (p'un a yw'r safonau eisoes wedi eu pennu gan Weinidogion Cymru o dan adran 26(1) ai peidio);

(e)unrhyw gwestiwn arall y mae'r Comisiynydd o'r farn ei fod yn berthnasol o ran y graddau y caniateir i P fod yn ddarostyngedig i'r ddyletswydd yn adran 25(1) i gydymffurfio â safonau.

(2)Caniateir cynnal ymchwiliad safonau penodol mewn perthynas—

(a)â pherson penodol, neu

(b)â grŵp o bersonau.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 61 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I2A. 61 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(i)(ii)

62Y pŵer i gynnal ymchwiliadau safonauLL+C

(1)Caiff y Comisiynydd gynnal ymchwiliadau safonau.

(2)Ond ni chaiff y Comisiynydd gynnal ymchwiliad safonau oni bai iddo roi hysbysiad rhagymchwilio i bob person perthnasol o leiaf 14 o ddiwrnodau cyn dechrau ar yr ymchwiliad.

(3)Hysbysiad ysgrifenedig yw hysbysiad rhagymchwilio—

(a)sy'n datgan bod y Comisiynydd yn bwriadu cynnal ymchwiliad safonau, a

(b)sy'n pennu pwnc yr ymchwiliad safonau.

(4)Yn yr adran hon, ystyr “person perthnasol”—

(a)yn achos ymchwiliad safonau mewn perthynas â pherson penodol, yw'r person hwnnw;

(b)yn achos ymchwiliad safonau mewn perthynas â grŵp o bersonau, yw personau—

(i)yr ymddengys i'r Comisiynydd eu bod yn aelodau o'r grŵp, a

(ii)y mae'n briodol rhoi hysbysiadau rhagymchwilio iddynt yn nhyb y Comisiynydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 62 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I4A. 62 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(i)(ii)

63Y gofynion wrth gynnal ymchwiliadau safonauLL+C

(1)Wrth gynnal ymchwiliad safonau, rhaid i'r Comisiynydd roi sylw i'r angen am sicrhau nad yw gofynion am i bersonau gydymffurfio â safonau yn rhinwedd adran 25(1) yn afresymol neu'n anghymesur.

(2)Os yw'r Comisiynydd yn penderfynu, neu'n cael ei gyfarwyddo, bod ymchwiliad safonau i ystyried a ddylai safonau cyflenwi gwasanaethau fod yn benodol gymwys i P, rhaid i'r ymchwiliad—

(a)ystyried, o ran pob gweithgaredd a bennir yn Atodlen 9 y mae P yn ei wneud, a yw'n rhesymol ac yn gymesur i safonau cyflenwi gwasanaethau fod yn benodol gymwys i P ai peidio, a

(b)o ran pob gweithgaredd o'r fath, os yw'n rhesymol ac yn gymesur i safonau cyflenwi gwasanaethau fod yn benodol gymwys i P, ddod i'r casgliad y dylai safonau cyflenwi gwasanaethau fod yn benodol gymwys i P mewn perthynas â'r gweithgaredd hwnnw.

(3)Wrth gynnal ymchwiliad safonau, rhaid i'r Comisiynydd ymgynghori—

(a)â phob person perthnasol,

(b)â'r Panel Cynghori, ac

(c)â'r cyhoedd, ac eithrio—

(i)os yw'n ystyried, neu

(ii)i'r graddau y mae'n ystyried

ei bod yn amhriodol gwneud hynny.

(4)Nid yw methiant person i gymryd rhan yn ymgynghoriad y Comisiynydd yn atal y Comisiynydd rhag cynnal yr ymchwiliad safonau.

(5)Yn yr adran hon, ystyr “person perthnasol”—

(a)yn achos ymchwiliad safonau mewn perthynas â pherson penodol, yw'r person hwnnw;

(b)yn achos ymchwiliad safonau mewn perthynas â grŵp o bersonau, yw personau—

(i)yr ymddengys i'r Comisiynydd eu bod yn aelodau o'r grŵp, a

(ii)y mae'n briodol ymgynghori â hwy yn nhyb y Comisiynydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 63 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I6A. 63 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(i)(ii)

Adroddiadau safonauLL+C

64Adroddiad safonauLL+C

(1)Ar ôl cynnal ymchwiliad safonau, rhaid i'r Comisiynydd lunio adroddiad safonau.

(2)Dogfen sy'n nodi'r canlynol yw adroddiad safonau—

(a)casgliadau'r ymchwiliad safonau, a

(b)rhesymau'r Comisiynydd dros ddod i'r casgliadau hynny.

(3)Os—

(a)casgliadau'r ymchwiliad (boed yn llwyr neu'n rhannol) yw y dylai safonau fod yn benodol gymwys i P, a

(b)nad yw unrhyw un neu ragor neu'r oll o'r safonau hynny wedi ei phennu neu eu pennu gan Weinidogion Cymru o dan adran 26(1),

rhaid i'r adroddiad nodi'r safonau sydd heb eu pennu.

(4)Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl llunio adroddiad safonau—

(a)rhaid i'r Comisiynydd anfon copi o'r adroddiad—

(i)at bob person perthnasol,

(ii)at y Panel Cynghori,

(iii)at bob person a gymerodd ran yn ymgynghoriad y Comisiynydd yn unol ag adran 63, a

(iv)at Weinidogion Cymru, a

(b)caiff y Comisiynydd anfon copi o'r adroddiad at unrhyw berson arall a chanddo ddiddordeb yn yr adroddiad ym marn y Comisiynydd.

(5)Yn yr adran hon, ystyr “person perthnasol”—

(a)yn achos ymchwiliad safonau mewn perthynas â pherson penodol, yw'r person hwnnw;

(b)yn achos ymchwiliad safonau mewn perthynas â grŵp o bersonau, yw personau—

(i)yr ymddengys i'r Comisiynydd eu bod yn aelodau o'r grŵp, a

(ii)y mae'n briodol anfon copi o'r adroddiad atynt yn nhyb y Comisiynydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 64 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I8A. 64 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(i)(ii)

Pŵer cyfarwyddo Gweinidogion CymruLL+C

65Cyfarwyddyd i gynnal ymchwiliad safonauLL+C

(1)Mae'r adran hon yn gymwys os bydd Gweinidogion Cymru yn arfer eu pŵer o dan adran 16 i roi cyfarwyddyd i'r Comisiynydd er mwyn ei gyfarwyddo i gynnal ymchwiliad safonau mewn cysylltiad â pherson neu grŵp o bersonau.

(2)Rhaid i'r cyfarwyddyd bennu'r materion a ganlyn—

(a)y person, neu'r grŵp o bersonau y mae'r ymchwiliad i'w gynnal mewn cysylltiad ag ef;

(b)pwnc yr ymchwiliad;

(c)y rhesymau pam y mae Gweinidogion Cymru o'r farn y dylai'r Comisiynydd gynnal yr ymchwiliad safonau;

(d)y cyfnod (y mae'n rhaid iddo beidio â bod yn llai na chwe mis) y mae'n rhaid i'r Comisiynydd gynnal yr ymchwiliad safonau cyn iddo ddod i ben.

(3)Nid yw is-adran (2) yn atal y cyfarwyddyd rhag pennu materion eraill.

Gwybodaeth Cychwyn

I9A. 65 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I10A. 65 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(i)(ii)

Sylw sydd i'w roi i adroddiad safonauLL+C

66Gweinidogion Cymru i roi sylw dyladwy i adroddiadLL+C

(1)Mae'r adran hon yn gymwys os yw'r Comisiynydd wedi cynnal ymchwiliad safonau ac wedi llunio adroddiad safonau (boed o dan gyfarwyddyd neu ar gais Gweinidogion Cymru).

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw dyladwy i'r adroddiad safonau wrth benderfynu ai i arfer ai peidio y pwerau sydd wedi eu rhoi iddynt gan y Rhan hon, a sut i wneud hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I11A. 66 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I12A. 66 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(i)(ii)