RHAN 4SAFONAU

PENNOD 8YMCHWILIADAU AC ADRODDIADAU SAFONAU

Pŵer cyfarwyddo Gweinidogion Cymru

I2I165Cyfarwyddyd i gynnal ymchwiliad safonau

1

Mae'r adran hon yn gymwys os bydd Gweinidogion Cymru yn arfer eu pŵer o dan adran 16 i roi cyfarwyddyd i'r Comisiynydd er mwyn ei gyfarwyddo i gynnal ymchwiliad safonau mewn cysylltiad â pherson neu grŵp o bersonau.

2

Rhaid i'r cyfarwyddyd bennu'r materion a ganlyn—

a

y person, neu'r grŵp o bersonau y mae'r ymchwiliad i'w gynnal mewn cysylltiad ag ef;

b

pwnc yr ymchwiliad;

c

y rhesymau pam y mae Gweinidogion Cymru o'r farn y dylai'r Comisiynydd gynnal yr ymchwiliad safonau;

d

y cyfnod (y mae'n rhaid iddo beidio â bod yn llai na chwe mis) y mae'n rhaid i'r Comisiynydd gynnal yr ymchwiliad safonau cyn iddo ddod i ben.

3

Nid yw is-adran (2) yn atal y cyfarwyddyd rhag pennu materion eraill.