RHAN 5GORFODI SAFONAU
PENNOD 3DIFFYG CYDYMFFURFIO Å SAFONAU: CWYNION GAN BERSONAU YR EFFEITHIR ARNYNT
94Hysbysiad os nad oes ymchwiliad etc
1
Mae'r adran hon yn gymwys mewn unrhyw un neu ragor o'r achosion a ganlyn.
2
Yr achos cyntaf yw—
a
pan fo'r ddyletswydd o dan adran 93 i ystyried ai i gynnal ymchwiliad i'r ymddygiad honedig ai peidio yn gymwys, a
b
pan fo'r Comisiynydd yn penderfynu peidio â chynnal ymchwiliad.
3
Yr ail achos yw—
a
pan fo adran 93(7) yn gymwys o ran cwyn, a
b
pan fo'r Comisiynydd yn penderfynu peidio ag ystyried ai i gynnal ymchwiliad i'r ymddygiad honedig ai peidio.
4
Y trydydd achos yw pan fo'r Comisiynydd yn penderfynu nad yw'r ddyletswydd o dan adran 93 i ystyried ai i gynnal ymchwiliad i'r ymddygiad honedig ai peidio yn gymwys.
5
Y pedwerydd achos yw—
a
pan nad yw'r ddyletswydd o dan adran 93 i ystyried ai i gynnal ymchwiliad i'r ymddygiad honedig ai peidio yn gymwys, a
b
pan fo'r Comisiynydd yn penderfynu peidio ag ystyried ai i gynnal ymchwiliad i'r ymddygiad honedig ai peidio o dan adran 93(8) neu, ar ôl ystyried ai i gynnal ymchwiliad o dan yr adran honno, yn penderfynu peidio â chynnal yr ymchwiliad.
6
Y pumed achos yw—
a
pan fo'r Comisiynydd yn penderfynu cynnal ymchwiliad, ac
b
pan fo'r Comisiynydd wedyn yn penderfynu terfynu'r ymchwiliad.
7
Rhaid i'r Comisiynydd hysbysu P—
a
o'r penderfyniad a nodir yn is-adrannau (2)(b), (3)(b), (4), (5)(b) neu (6)(b), a
b
o'r rhesymau dros y penderfyniad hwnnw, ac
c
o'r hawl i gael adolygiad o dan adran 103.