2000 Rhif 1172 (Cy.95)

PRIFFYRDD, CYMRU

Gorchymyn Cefnffordd Sanclêr-Doc Penfro (A477) (Ffordd Osgoi Sageston-Redberth) 2000

Wedi'i Wneud

Yn Dod i Rym

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 10 a 12 o Ddeddf Priffyrdd 19801 a phob pwer galluogi arall2:–

1

Daw'r briffordd newydd y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn bwriadu ei hadeiladu ar hyd y llwybr a ddisgrifir yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn yn gefnffordd o'r dyddiad y daw'r Gorchymyn hwn i rym.

2

Dangosir llinell ganol y gefnffordd newydd â llinell ddu drom ar y plan a adneuwyd.

3

Mewn perthynas ag unrhyw ran o briffordd sy'n croesi llwybr y gefnffordd newydd, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru'n cyfarwyddo:

a

lle mae'r briffordd yn briffordd y gellir ei chynnal ar draul y cyhoedd gan yr awdurdod priffyrdd lleol, y cynhelir y rhan o dan sylw gan yr awdurdod hwnnw; a

b

lle nad yw'r briffordd yn briffordd y gellir ei chynnal felly ac na ellir ei chynnal ychwaith o dan ddeddfiad penodol neu oherwydd deiliadaeth, cau neu ragnodi, na fydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan unrhyw ddyletswydd i gynnal y rhan o dan sylw.

4

Bydd y darnau o'r gefnffordd a ddisgrifir yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn ac a ddangosir â llinellau rhesog bras ar y plan a adneuwyd yn peidio â bod yn gefnffordd a chânt eu dosbarthu fel ffyrdd dobarthiadol o'r dyddiad y bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru'n hysbysu Cyngor Sir Penfro fod y gefnffordd newydd ar agor i draffig drwodd.

5

Yn y Gorchymyn hwn

1

Mae pob mesur o bellter wedi'i fesur ar hyd llwybr y briffordd berthnasol;

2

ystyr “ffordd ddosbarthiadol” (“classified road”) fel dosbarthiad o briffordd yw nad yw'r briffordd yn brif ffordd at ddibenion deddfiadau neu offerynnau sy'n cyfeirio at briffyrdd a ddosbarthwyd yn brif ffyrdd, ond mae'n ffordd ddosbarthiadol at ddibenion pob deddfiad ac offeryn sy'n cyfeirio at briffyrdd sydd wedi'u dosbarthu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru nad ydynt yn cyfeirio'n benodol at eu dosbarthu yn brif ffyrdd;

  • ystyr “y gefnffordd” (“the trunk road”) yw Cefnffordd Sanclêr-Doc Penfro (A477);

  • ystyr “y gefnffordd newydd” (“the new trunk road”) yw'r briffordd a grybwyllir yn Erthygl 1 o'r Gorchymyn hwn;

  • ystyr “y plan a adneuwyd” (“the deposited plan”) yw'r plan a rifwyd HA10/2 NAFW 1 wedi'i farcio Gorchymyn Cefnffordd Sanclêr-Doc Penfro (A477) (Ffordd Osgoi Sageston-Redberth) 2000 a lofnodwyd drwy awdurdod Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'i adneuo yn Ystorfa Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Curran Embankment, Caerdydd.

6

Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 17 Mai 2000 a'i enw yw Gorchymyn Cefnffordd Sanclêr – Doc Penfro (A477) (Ffordd Osgoi Sageston – Redberth) 2000.

Llofnodwyd ar ran Ysgrifennydd y Cynulliad dros yr Amgylchedd

D.M. TimlinPennaeth yr Is-Adran Gweinyddu Ffyrdd Cynulliad Cenedlaethol Cymru

ATODLEN 1Llwybr y Gefnffordd Newydd

The route of the new trunk road is a route at Milton, Sageston and Redberth in the County of Pembrokeshire about 4.80 kilometres in length starting at a point on the existing Trunk Road about 260 metres west of its junction with the A4075 then going in a northeasterly direction to a point on the existing Trunk Road about 110 metres southwest of its junction with the C3129.

ATODLEN 2Darnau o Gefnffordd sy'n peidio â bod yn Gefnffyrdd

1

Y darn hwnnw o'r gefnffordd a leolir rhwng pwynt rhyw 10 metr i'r gorllewin o'i chyffordd â'r A4075 a farciwyd ag A ar y plan a adneuwyd a phwynt rhyw 210 metr i'r dwyrain o'i chyffordd â'r A4075 a farciwyd â B ar y plan a adneuwyd.

2

Y darn hwnnw o'r gefnffordd a leolir rhwng pwynt rhyw 475 metr i'r dwyrain o'i chyffordd â'r A4075 a farciwyd ag C ar y plan a adneuwyd a phwynt rhyw 275 metr i'r gorllewin o'i chyffordd â'r C3129 a farciwyd â D ar y plan a adneuwyd.