Offerynnau Statudol Cymru

2000 Rhif 1172 (Cy.95)

PRIFFYRDD, CYMRU

Gorchymyn Cefnffordd Sanclêr-Doc Penfro (A477) (Ffordd Osgoi Sageston-Redberth) 2000

Wedi'i Wneud

28 Ebrill 2000

Yn Dod i Rym

17 Mai 2000

1.  Daw'r briffordd newydd y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn bwriadu ei hadeiladu ar hyd y llwybr a ddisgrifir yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn yn gefnffordd o'r dyddiad y daw'r Gorchymyn hwn i rym.

2.  Dangosir llinell ganol y gefnffordd newydd â llinell ddu drom ar y plan a adneuwyd.

3.  Mewn perthynas ag unrhyw ran o briffordd sy'n croesi llwybr y gefnffordd newydd, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru'n cyfarwyddo:

a.lle mae'r briffordd yn briffordd y gellir ei chynnal ar draul y cyhoedd gan yr awdurdod priffyrdd lleol, y cynhelir y rhan o dan sylw gan yr awdurdod hwnnw; a

b.lle nad yw'r briffordd yn briffordd y gellir ei chynnal felly ac na ellir ei chynnal ychwaith o dan ddeddfiad penodol neu oherwydd deiliadaeth, cau neu ragnodi, na fydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan unrhyw ddyletswydd i gynnal y rhan o dan sylw.

4.  Bydd y darnau o'r gefnffordd a ddisgrifir yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn ac a ddangosir â llinellau rhesog bras ar y plan a adneuwyd yn peidio â bod yn gefnffordd a chânt eu dosbarthu fel ffyrdd dobarthiadol o'r dyddiad y bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru'n hysbysu Cyngor Sir Penfro fod y gefnffordd newydd ar agor i draffig drwodd.

5.  Yn y Gorchymyn hwn

(1Mae pob mesur o bellter wedi'i fesur ar hyd llwybr y briffordd berthnasol;

(2ystyr “ffordd ddosbarthiadol” (“classified road”) fel dosbarthiad o briffordd yw nad yw'r briffordd yn brif ffordd at ddibenion deddfiadau neu offerynnau sy'n cyfeirio at briffyrdd a ddosbarthwyd yn brif ffyrdd, ond mae'n ffordd ddosbarthiadol at ddibenion pob deddfiad ac offeryn sy'n cyfeirio at briffyrdd sydd wedi'u dosbarthu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru nad ydynt yn cyfeirio'n benodol at eu dosbarthu yn brif ffyrdd;

6.  Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 17 Mai 2000 a'i enw yw Gorchymyn Cefnffordd Sanclêr – Doc Penfro (A477) (Ffordd Osgoi Sageston – Redberth) 2000.

Llofnodwyd ar ran Ysgrifennydd y Cynulliad dros yr Amgylchedd

D.M. Timlin

Pennaeth yr Is-Adran Gweinyddu Ffyrdd Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Dyddiedig y 28 Ebrill 2000