Search Legislation

Gorchymyn Deddf Dysgu a Medrau 2000 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2000

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2000 Rhif 3230 (Cy. 213 ) (C. 103 )

ADDYSG CYMRU, CYFLOGAETH A HYFFORDDIANT, CYMRU

Gorchymyn Deddf Dysgu a Medrau 2000 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2000

Wedi'i wneud

7 Rhagfyr 2000

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 154(2) a (4) o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000(1):

Enwi, dehongli a chymhwyso

1.  

(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Dysgu a Medrau 2000 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2000.

(2Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Dysgu a Medrau 2000.

(3Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru a daw'r darpariaethau a bennir yn yr Atodlen i rym mewn perthynas â Chymru at bob diben oni nodir yn wahanol.

Darpariaethau sy'n dod i rym

2.  Daw darpariaethau'r Ddeddf a bennir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ionawr 2001.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(2)

D. Elis Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

7 Rhagfyr 2000

Erthygl 2

ATODLENDarpariaethau sy'n dod i rym ar 1 Ionawr 2001 mewn perthynas â Chymru

  • Adran 42.

  • Adran 43.

  • Adran 44.

  • Adran 46.

  • Adran 48.

  • Adran 73.

  • Adran 87.

  • Adran 93.

  • Adran 95.

  • Adran 139.

  • Adran 141.

  • Adran 145.

  • Adran 149 i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 9 a bennir isod.

  • Adran 153 i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 11 a bennir isod.

  • Atodlen 5.

  • Yn Atodlen 9 –

    • paragraff 21(b)

    • paragraff 34,

    • paragraff 36,

    • paragraff 44(3) a (4),

    • paragraff 45,

    • paragraff 64,

    • paragraff 70,

    • paragraff 81,

    • paragraff 86,

    • paragraff 92.

  • Yn Atodlen 11 diddymiadau'r canlynol i'r graddau y maent yn ymwneud â Chymru –

    • adrannau 18(4) i (6), 60A o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 ac Atodlen 5A iddi,

    • paragraff 113 o Atodlen 37 i Ddeddf Addysg 1996,

    • yn adran 19, yn is-adran (1) y gair “or” yn union cyn paragraff (b), yn is-adran (2)(f) y geiriau “employed as a teacher at a school” ac yn is-adran (10) y gair “and” yn union cyn paragraff (c); a'r geiriau “attendance on” yn adran 22(2)(h) a (7) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998,

    • adrannau 125 a 126 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 ac Atodlen 27 iddi,

    • y geiriau o “; and in determining” hyd at ddiwedd adran 104(4) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn dod â darpariaethau penodol o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 i rym ar 1 Ionawr 2001. Rhestrir y darpariaethau hynny, ac esbonnir eu heffeithiau, isod.

Mae adrannau 42, 43 a 44 yn gosod dyletswyddau ar Gyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant. Mae adran 42 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cyngor roi sylw priodol i hyrwyddo cyfleoedd cyfartal wrth arfer ei swyddogaethau. Mae adrannau 43 a 44 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cyngor wneud cynllun ar gyfer pob un o'i flynyddoedd ariannol a llunio strategaeth mewn perthynas â'i swyddogaethau.

Mae adrannau 46 a 48 yn rhoi pwerau atodol i'r Cyngor sy'n angenrheidiol i ganiatáu iddo gyflawni ei swyddogaethau a sefydlu pwyllgorau.

Mae adran 73 yn ailenwi Prif Arolygydd Ysgolion Ei Mawrhydi yng Nghymru ac Arolygwyr Ysgolion Ei Mawrhydi yng Nghymru. Mae adran 87 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Prif Arolygydd baratoi cynllun blynyddol a'i gyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer ei gymeradwyo.

Mae adrannau 93 a 95 yn rhoi pŵ er i'r Cynulliad Cenedlaethol wneud cynlluniau ar gyfer trosglwyddo i'r Cyngor eiddo, hawliau a rhwymedigaethau (gan gynnwys hawliau cyflogaeth) sy'n gysylltiedig â'r ffaith bod y Cyngor yn ymgymryd â'i swyddogaethau.

Mae adran 139 yn caniatáu i gyfnodau ymsefydlu athrawon ac athrawesau gael eu bwrw mewn sefydliadau addysg bellach o dan rai amgylchiadau.

Mae adran 141 yn rhoi pŵer i'r Cynulliad Cenedlaethol, o dan amgylchiadau penodol, gyfarwyddo cwmnïau y mae wedi contractio gyda hwy mewn perthynas â darparu hyfforddiant i beidio â chymryd camau penodol. Mae'n rhoi pŵ er hefyd i'r Cynulliad Cenedlaethol wneud rheoliadau sy'n rhagnodi'r mathau o gamau y gellir eu cynnwys mewn cyfarwyddiadau o'r fath.

Mae adran 145 yn ymdrin â rhwymedigaeth sifil llywodraethwyr sefydliadau addysg bellach penodol .

Mae Atodlenni 9 ac 11 yn eu tro yn cynnwys diwygiadau a diddymiadau canlyniadol.

Nodyn Orchymyn Cychwyn Blaenorol

(Nid yw'r Nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Daethpwyd neu deuir â darpariaethau canlynol Deddf Dysgu a Medrau 2000 i rym mewn perthynas â Chymru drwy orchmynion cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.

Y ddarpariaethY dyddiad cychwynO.S. Rhif
Adrannau 104 i 1093 Awst 20002000/2114 (C.56).
Adran 94, ac adran 149 i'r graddau y mae'n ymwneud â pharagraff 87 o Atodlen 9. Yn Atodlen 9, paragraff 87.1 Medi 20002000/2114 (C.56).
Adrannau 30, 47, 49, 51, ac adran 149 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r paragraffau yn Atodlen 9 a (Cy.163) (Cy.70) restrir isod. Atodlen 4, ac yn Atodlen 9, paragraffau 3, 4 a 93.19 Medi 20002000/2540
Adrannau 134 i 136, 146 a 149 i'r graddau y mae'n ymwneud â pharagraff 14 o Atodlen 9.Yn Atodlen 9, paragraff 14.1 Hydref 20002000/2559 (C.73)
ProvisionDate of CommencementS.I. No.
Sections 104 to 1093 August 20002000/2114 (C.56)
Sections 94, and 149 insofar as it relates to paragraph 87 of Schedule 9. In Schedule 9, paragraph 87.1 September 20002000/2114 (C.56)
Sections 30, 47, 49, 51 and 149 insofar as it relates to the paragraphs of Schedule 9 listed below. (W.163)(C70) Schedule 4, and in Schedule 9 paragraphs 3, 4 and 93.19 September 20002000/2540
Sections 134 to 136, 146 and 149 in so far as it relates to paragraph 14 of Schedule 9. In Schedule 9, paragraph 14.1 October 20002000/2559 (C.73)

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources