Offerynnau Statudol Cymru
HADAU, CYMRU
Wedi'u gwneud.
6 Mawrth 2000
Yn dod i rym.
7 Mawrth 2000
Drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1) ac (1A)(e) o Ddeddf Hadau ac Isrywogaethau Planhigion 1964(1) ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”)(2), ac wedi ymgyngori, yn unol ag adran 16(1) y cyfeiriwyd ati uchod, â chynrychiolwyr y buddiannau hynny a ymddengys i'r Cynulliad Cenedlaethol yn berthnasol, mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn gwneud y Gorchymyn canlynol :
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Hadau (Ffioedd) (Diwygio) (Cymru) 2000, maent yn gymwys i Gymru yn unig a deuant i rym ar 7 Mawrth 2000.
2. Ar ddiwedd Atodlen 6 i Reoliadau Hadau (Ffioedd)1985(3) mewnosoder y geiriau canlynol —
“C. Examination fees(4) | |||
(i)Examination for crop inspector in respect of
| |||
(a)examination | Before the examination | 142.80 | (–) |
(b)re-sit examination (other than cereals) | Before the examination | 142.80 | (–) |
(c)re-sit of either part of cereals examination | Before the examination | 71.40 | (–) |
(d)re-test | Before the examination | 71.40 | (–) |
(ii)Examination for crop inspector in respect of
| |||
(a)examination | Before the examination | 89.25 | (–) |
(b)re-sit of examination | Before the examination | 89.25 | (–) |
(c)re-test | Before the examination | 71.40 | (–) |
(iii)Examination for seed sampler | Before the examination | 89.25 | (–)” |
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(5)
Dafydd Elis Thomas
Y Llywydd
6 Mawrth 2000
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru'n unig, yn diwygio Rheoliadau Hadau (Ffioedd) 1985 (fel y'u diwygiwyd). Mae'r diwygiad yn darparu ar gyfer codi ffioedd am arholiadau a eisteddir gan arolygwyr cnydau a samplwyr hadau (rheoliad 2).
1964 p.14; diwygiwyd adran 16 gan Ddeddf Y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (p.68) adran 4(1), Atodlen 4, paragraffau 5(1), (2) a (3).
Yn rhinwedd Gorchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Cymru) (Rhif 1) 1978 (O.S. 1978/272), trosglwyddwyd swyddogaethau'r Gweinidog dros Amaeth, Pysgodfeydd a Bwyd o dan Ddeddf Hadau a Isrywogaethau Planhigion 1964, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i'r Ysgrifennydd Gwladol. Yna, trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).
O.S. 1985/981; O.S. 1990/610 ac 1999/1553 a 1865 yw'r offerynnau perthnasol sy'n diwygio
Mae'r cysylltnodau rhwng cromfachau yn y bedwaredd golofn yn dynodi nad oedd ffi statudol gynt yn daladwy am y eitem cyn i Reoliadau Hadau (Ffioedd) (Diwygio) (Cymru) 2000 (2000/ 719(Cy.26 )) ddod i rym ar 7 Mawrth 2000.