Search Legislation

Rheoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) 2001

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Adran 11

 Help about opening options

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) 2001, Adran 11. Help about Changes to Legislation

ApelauLL+C

11.—(1Bydd apelau sy'n deillio o ddyfarniad Pwyllgor Safonau yn cael eu cynnal:

(a)gan dribiwnlys apelau sy'n cynnwys o leiaf dri aelod o Banel Dyfarnu Cymru,

(b)drwy gyfrwng gwrandawiad llafar oni bai bod pob person sydd wedi rhoi hysbysiad apêl yn cydsynio i'r apêl gael ei chynnal drwy gyfrwng sylwadau ysgrifenedig yn unol â Rheoliad 10(3)(b) uchod.

(2Mae llywydd Panel Dyfarnu Cymru (neu yn ei absenoldeb [F1aelod enwebedig o’r panel] ) i benodi aelodau unrhyw dribiwnlys apelau, ac fe gaiff y llywydd [F2neu’r aelod enwebedig o’r panel] fod yn aelod o dribiwnlys.

(3Ni chaiff aelod o Banel Dyfarnu Cymru fod yn aelod o dribiwnlys apelau a dynnwyd o blith y Panel sydd i ddyfarnu ar fater sy'n ymwneud ag aelod neu aelod cyfetholedig (neu gyn-aelod neu gyn-aelod cyfetholedig) o awdurdod perthnasol ar unrhyw adeg, os yw'r aelod o'r Panel o fewn y cyfnod o bum mlynedd sy'n dod i ben bryd hynny, wedi bod yn aelod neu'n swyddog o'r awdurdod neu'n aelod o unrhyw bwyllgor, is-bwyllgor, cyd-bwyllgor neu gyd-is-bwyllgor i'r awdurdod.

(4Rhaid i aelod o Banel Dyfarnu Cymru y mae ganddo fuddiant uniongyrchol neu anuniongyrchol mewn unrhyw fater sy'n destun apêl sy'n cael ei chynnal gan dribiwnlys apelau, neu'n debyg o fod yn destun apêl o'r fath:

(a)datgelu natur ei fuddiant i lywydd y Panel, a

(b)peidio â bod yn aelod o'r tribiwnlys apelau sy'n ystyried apêl mewn perthynas â'r mater hwnnw.

(5Yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth bendant yn y Rheoliadau hyn, bydd yr arferion a'r weithdrefn sydd i'w dilyn gan dribiwnlysoedd apelau a dynnir o blith aelodau Panel Dyfarnu Cymru yn rhai y bydd llywydd y Panel, ar ôl [F3ymgynghori â Gweinidogion Cymru] , yn penderfynu arnynt.

Back to top

Options/Help