CyhoeddiLL+C
13.—(1) Rhaid i Bwyllgor Safonau drefnu bod y canlynol yn cael ei wneud o fewn 14 diwrnod:
(a)ar ôl i'r amser a ganiateir i gyflwyno hysbysiad apêl o dan Reoliad 10(2) uchod ddod i ben,
(b)ar ôl i hysbysiad o gasgliad unrhyw apêl yn unol â Rheoliad 12(a)(i) neu (b) uchod ddod i law, neu
(c)ar ôl dyfarniad pellach gan y Pwyllgor Safonau a wnaed ar ôl cael argymhelliad gan dribiwnlys apelau o dan Reoliad 12(a)(ii) uchod,
p'un bynnag sy'n digwydd olaf, adroddiad ar ganlyniad yr ymchwiliad ac anfon copi at y Comisiynydd Lleol yng Nghymru, swyddog monitro'r awdurdod perthnasol o dan sylw, unrhyw berson sy'n destun yr ymchwiliad a chymryd camau rhesymol i anfon copi at unrhyw berson a wnaeth unrhyw honiad a arweiniodd at yr ymchwiliad.
(2) Ar ôl i adroddiad y Pwyllgor Safonau ddod i law, rhaid i swyddog monitro'r awdurdod perthnasol:
(a)am gyfnod o 21 diwrnod gyhoeddi'r adroddiad ar wefan yr awdurdod perthnasol a threfnu bod copïau ar gael i'w harchwilio gan y cyhoedd yn ddi-dâl ar bob adeg resymol mewn un neu ragor o swyddfeydd yr awdurdod, lle bydd gan unrhyw berson hawl i gymryd copïau o'r adroddiad pan drefnir iddo fod ar gael felly, neu i gymryd detholiadau ohono,
(b)darparu copi o'r adroddiad i unrhyw berson ar gais os bydd yn talu unrhyw dâl y bydd yr awdurdod perthnasol yn gofyn yn rhesymol amdano, ac
(c)erbyn saith diwrnod fan bellaf ar ôl i'r adroddiad dod i law oddi wrth y Pwyllgor Safonau, rhoi hysbysiad cyhoeddus, drwy hysbyseb mewn papurau newydd sy'n cylchredeg yn yr ardal ac mewn unrhyw ffyrdd arall sy'n ymddangos iddo eu bod yn briodol, y bydd copïau o'r adroddiad ar gael fel y darperir ar ei gyfer gan is-baragraffau (a) a (b) uchod, a rhaid iddo bennu'r dyddiad (sef dyddiad nad yw'n fwy na saith diwrnod ar ôl i'r hysbysiad cyhoeddus gael ei roi gyntaf) pan fydd y cyfnod o 21 diwrnod yn dechrau.