Rhl. 8 mewn grym ar 28.7.2001, gweler rhl. 1(1)
Rhl. 8(2)(3)(3A)-(3CH) wedi ei amnewid ar gyfer rhl. 8(2)(3) (19.10.2009 gyda chais yn unol â rhl. 1(2)) gan Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Tribiwnlysoedd Achos a Thribiwnlysoedd Achos Interim a Phwyllgorau Safonau) (Diwygio) (Cymru) 2009 (O.S. 2009/2578), rhlau. 1(1), 4(2)
Geiriau yn rhl. 8(4) wedi eu hamnewid (5.8.2022) gan Rheoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) (Diwygio) 2022 (O.S. 2022/802), rhlau. 1, 8(a)
Geiriau yn rhl. 8(5) wedi eu hamnewid (1.4.2016) gan Rheoliadau Llywodraeth Leol (Pwyllgorau Safonau, Ymchwiliadau, Gollyngiadau ac Atgyfeirio) (Cymru) (Diwygio) 2016 (O.S. 2016/85), rhlau. 1(1), 3(8)(a)
Geiriau yn rhl. 8(6)(b) wedi eu hamnewid (5.8.2022) gan Rheoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) (Diwygio) 2022 (O.S. 2022/802), rhlau. 1, 8(b)
Geiriau yn rhl. 8(6)(b) wedi eu hepgor (1.4.2016) yn rhinwedd Rheoliadau Llywodraeth Leol (Pwyllgorau Safonau, Ymchwiliadau, Gollyngiadau ac Atgyfeirio) (Cymru) (Diwygio) 2016 (O.S. 2016/85), rhlau. 1(1), 3(8)(b)
Geiriau yn rhl. 8(6)(c) wedi eu hamnewid (5.8.2022) gan Rheoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) (Diwygio) 2022 (O.S. 2022/802), rhlau. 1, 8(c)
Yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth bendant yn y Rheoliadau hyn neu yn Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Cymru) 2001
Mae paragraffau (3) i (3CH) yn gymwys—
mewn cysylltiad ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru mewn achos o ymchwiliad yr ymgymerir ag ef gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ac a gyfeiriwyd at swyddog monitro'r awdurdod perthnasol o dan adran 71(2) o Ddeddf 2000; a
mewn cysylltiad â swyddog monitro'r awdurdod perthnasol mewn achos o ymchwiliad a gyfeiriwyd at y swyddog monitro o dan adran 70(4) o Ddeddf 2000.
Mae gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a'r swyddog monitro yr hawl i fod yn bresennol gerbron y Pwyllgor Safonau at ddibenion—
cyflwyno'r adroddiad a/neu esbonio unrhyw un neu unrhyw rai o'r materion sydd ynddo; a
fel arall chwarae'r cyfryw ran neu gynorthwyo'r Pwyllgor Safonau ag y mae'r Pwyllgor Safonau yn ystyried ei bod yn briodol.
Caniateir i'r Pwyllgor Safonau wneud cais i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru neu'r swyddog monitro fod yn bresennol ger ei fron at ddibenion—
cyflwyno'r adroddiad a/neu esbonio unrhyw un neu unrhyw rai o'r materion sydd ynddo; a
fel arall chwarae'r cyfryw ran neu gynorthwyo'r Pwyllgor Safonau ag y mae'r Pwyllgor Safonau yn ystyried ei bod yn briodol.
Rhaid peidio â gwrthod yn afresymol gais a wneir o dan baragraff (3A) ac os gwrthodir cais o'r fath rhaid i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru neu'r swyddog monitro roi rhesymau ysgrifenedig i'r Pwyllgor Safonau am beidio â chydymffurfio â'r cais i fod yn bresennol.
Bydd y presenoldeb hwnnw'n digwydd pan fydd Pwyllgor Safonau awdurdod perthnasol yn ystyried unrhyw sylwadau a wnaed gan y person sy'n destun yr ymchwiliad neu, os na wnaed sylwadau o'r fath, ar unrhyw adeg resymol.
Caniateir i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a'r swyddog monitro gael eu cynrychioli gan gwnsler neu gan gyfreithiwr.
Os nad yw unrhyw berson sy'n destun yr ymchwiliad yn cyflwyno sylwadau yn unol â
oni bai ei fod wedi'i fodloni bod rheswm digonol dros y methiant hwnnw, ystyried adroddiad y swyddog monitro a gwneud dyfarniad yn absenoldeb y person hwnnw; neu
rhoi cyfle ychwanegol i'r person hwnnw gyflwyno sylwadau.
Pan fo'n briodol, ac yn unol â darpariaethau'r Rheoliadau hyn, mae gan y Pwyllgor Safonau bŵ er i geryddu unrhyw aelod neu aelod cyfetholedig (neu gyn-aelod neu gyn-aelod cyfetholedig)
Rhaid i unrhyw gyfnod atal neu atal yn rhannol ddechrau ar y diwrnod:
ar ôl i'r amser a ganiateir i gyflwyno hysbysiad apêl o dan Reoliad 10(2) isod ddod i ben,
ar ôl i hysbysiad ynghylch casgliad unrhyw apêl yn unol â
ar ôl dyfarniad pellach gan y Pwyllgor Safonau a wnaed ar ôl cael argymhelliad gan dribiwnlys apelau o dan
p'un bynnag sy'n digwydd olaf.