Enwi, cychwyn a dehongli1

1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2001 a deuant i rym ar 31 Rhagfyr 2001.

2

Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Rheoliadau 1992” yw Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 19923.

Diwygio Rheoliadau 19922

Ynglyn â'r blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2002, diwygir Atodlenni 1, 2 a 4 i Reoliadau 1992 fel a ganlyn: —

a

ym mharagraff 3(1)(b) o Atodlen 1, yn lle “75 per cent” rhoddir “90 per cent”;

b

ym mharagraff 2(12) o Atodlen 2, yn lle “1.004” rhoddir “0.995”; ac

c

yn lle Atodlen 4 i Reoliadau 1992 rhoddir yr Atodlen a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19984.

John MarekDirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol