Search Legislation

Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2001

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Close

Print Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2001 Rhif 3910 (Cy.322)

ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU

Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2001

Wedi'u gwneud

4 Rhagfyr 2001

Yn dod i rym

31 Rhagfyr 2001

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 140(4) a 143(1) a (2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988(1) a pharagraffau 4, 5 a 6 o Atodlen 8 iddi, sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru(2):

Enwi, cychwyn a dehongli

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2001 a deuant i rym ar 31 Rhagfyr 2001.

(2Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Rheoliadau 1992” yw Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 1992(3).

Diwygio Rheoliadau 1992

2.  Ynglyn â'r blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2002, diwygir Atodlenni 1, 2 a 4 i Reoliadau 1992 fel a ganlyn: —

(a)ym mharagraff 3(1)(b) o Atodlen 1, yn lle “75 per cent” rhoddir “90 per cent”;

(b)ym mharagraff 2(12) o Atodlen 2, yn lle “1.004” rhoddir “0.995”; ac

(c)yn lle Atodlen 4 i Reoliadau 1992 rhoddir yr Atodlen a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4).

John Marek

Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

4 Rhagfyr 2001

Rheoliad 2

ATODLEN

Regulation 6

SCHEDULE 4ADULT POPULATION FIGURES

Billing authority areaPrescribed figure
Blaenau Gwent54,438
Bridgend101,462
Caerphilly128,738
Carmarthenshire133,164
Cardiff251,733
Ceredigion58,082
Conwy89,317
Denbighshire71,214
Flintshire114,556
Gwynedd91,623
Isle of Anglesey50,068
Merthyr Tydfil41,805
Monmouthshire68,197
Neath Port Talbot106,999
Newport104,507
Pembrokeshire88,716
Powys99,692
Rhondda Cynon Taff184,119
Swansea180,714
Torfaen68,089
Vale of Glamorgan (The)93,719
Wrexham97,374

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

O dan Ran II o Atodlen 8 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 mae'n ofynnol i awdurdodau bilio yng Nghymru dalu symiau (a elwir yn gyfraniadau ardrethu annomestig) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Cynhwysir rheolau i gyfrifo'r symiau hynny yn Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 1992.

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r Rheoliadau hynny drwy roi canran newydd ym mharagraff 3(1)(b) o Atodlen 1 (didyniadau o'r swm gros), lluosydd newydd ym mharagraff 2(12) o Atodlen 2 (rhagdybiaethau ynglyn â'r swm gros) ac Atodlen 4 newydd (ffigurau poblogaeth oedolion).

(2)

Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S. 1999/672.

Back to top

Options/Help