2002 Rhif 1475 (Cy.147) (C.41)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2002

Wedi'i wneud

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 70(2) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 1 drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:—

Enwi, dehongli a chymhwyso1

1

Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2002.

2

Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001.

3

Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru'n unig.

Y diwrnod penodedig2

1

Pennir drwy hyn 1 Gorffennaf 2002 fel y dyddiad y daw darpariaethau'r Ddeddf a bennir yn Rhan 1 o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn i rym.

2

Pennir drwy hyn 1 Rhagfyr 2002 fel y dyddiad y daw darpariaethau'r Ddeddf a bennir yn Rhan 2 o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn i rym.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19982

D. Elis-ThomasLlywydd y Cynulliad Cenedlaethol

YR ATODLEN

Erthygl 2

Rhan 1DARPARIAETHAU'R DDEDDF SY'N DOD I RYM AR 1 GORFFENNAF 2002

Darpariaethau'r Ddeddf

Pwnc

Adran 3(1) a (2)

Taliadau atodol i GIG

Adran 5

Cynhyrchu Incwm

Adran 19

Tystysgrifau cofnodion troseddol manylach

Adran 20

Rhestrau meddygol, deintyddol, offthalmig a fferyllol etc.

Adran 21

Cynnwys yn amodol ar restrau meddygol, deintyddol, offthalmig a fferyllol

Adran 22

Cofforaethau Deintyddol

Adran 23

Datgan buddiannau ariannol, rhoddion, etc.

Adran 24

Rhestrau ychwanegol

Adran 25

Atal ac anghymhwyso ymarferwyr

Adran 26

Rhestrau GMP a GDP

Adran 28

Cynlluniau Peilot

Adran 29

Gwneud cynlluniau peilot

Adran 30

Dynodi cymdogaethau neu safleoedd blaenoriaethol

Adran 31

Adolygu cynlluniau peilot

Adran 32

Amrywio a therfynu cynlluniau peilot

Adran 33

Contractau GIG

Adran 34

Ariannu gwaith paratoadol

Adran 35

Ffioedd, adfer taliadau a chosbau

Adran 36

Effaith Deddf Gwasanaethau Iechyd Gwladol 1977

Adran 37

Safleodd y gellir darparu cynlluniau peilot ohonynt

Adran 38

Rheoliadau rheoli mynediad

Adran 39

Asesu cynlluniau peilot

Adran 41

Darpariaethau cyfatebol a chymhwyso deddfiadau

Adran 42

Gweinyddu presgripsiynau GIG a darparu gwasanaethau fferyllol

Adran 43

Darparu gwasanaethau fferyllol etc o bell

Adran 67 i'r graddau y mae'n berthnasol i ddarpariaethau Atodlen 5 ac Atodlen 6 a bennir isod:—

Mân ddiwygiadau canlyniadol a dirymiadau

Yn Atodlen 5—

  • paragraff 1;

  • paragraff 2;

  • paragraff 3;

  • paragraff 4;

  • paragraff 5(2),(7)(a)(b) ac (c), ac (8)

  • paragraff 6(1)(2) a (3);

  • paragraff 7;

  • paragraff 8;

  • paragraff 9;

  • paragraff 10;

  • paragraff 11; a

  • pharagraff 14.

Yn Atodlen 6, dirymu i'r graddau y maent yn berthnasol i Gymru:—

Adran 102(1)(a)(ii) a (2)(a) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977;

Adran 21(1) o Ddeddf y Gwasanaethau Iechyd 1980; Paragraff 18(1) o Atodlen 9 i Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990;

Paragraff 29 i Atodlen 1 i Ddeddf yr Awdurdodau Iechyd 1995;

Adrannau 2(1), 4 i 6 a 14(5) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Diwygio) 1995; a

Pharagraffau 13 a 76 o Atodlen 2 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gofal Sylfaenol) 1997.

Atodlen 2

Gwasanaethau Peilot

Atodlen 3

Gwasanaethau GFfLl

Rhan 2DARPARIAETHAU'R DDEDDF SY'N DOD I RYM AR 1 RHAGFYR 2002

Darpariaethau'r Ddeddf

Pwnc

Adran 11

Rôl y cyhoedd ac ymgynghori

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn dod â darpariaethau penodol o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 i rym yng Nghymru.

Mae'r Gorchymyn hwn yn darparu ar gyfer cychwyn darpariaethau—

a

sy'n galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i wneud taliadau yn uniongyrchol i ymddiriedolaethau GIG oddi allan i'r trefniadau sy'n bodoli eisoes ar gyfer ariannu cyrff o'r fath (adran 3(1) a (2));

b

sy'n galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol a chyrff eraill y GIG sy'n arfer pwerau i greu incwm o dan adran 7 o Ddeddf Iechyd a Meddygyniaethau 1988 i sefydlu cwmnïau, buddsoddi ynddynt a gwneud darpariaethau ariannol fel arall yn eu cylch (adran 5);

c

sy'n rhoi dyletswydd newydd statudol i ymddiriedolaethau GIG yng Nghymru i wneud trefniadau sydd â'r nod o gynnwys cleifion a'r cyhoedd ym mhroses gynllunio a gwneud penderfyniadau'r ymddiriedolaethau unigol i'r graddau mae'r cynlluniau a'r penderfyniadau yn effeithio ar weithredu'r gwasanaethau iechyd y mae'r ymddiriedolaethau unigol yn gyfrifol amdanynt (adran 11);

ch

sy'n diwygio Deddf yr Heddlu 1997 er mwyn galluogi awdurdodau iechyd i gael mynediad i dystysgrifau cofnodion troseddol manylach o dan adran 115 o'r Ddeddf honno os ydynt yn gwirio gwybodaeth a roddwyd iddynt gan ymarferydd sy'n gwneud cais i gael ei gynnwys ar unrhyw un o'r rhestrau a gedwir gan awurdodau iechyd o ymarferwyr sy'n ymgymryd i ddarparu gwasanaethau meddygol personol neu gyffredinol neu wasanaethau deintyddol, neu wasanaethau offthalmig neu wasanaethau fferyllol (adran 19);

d

drwy ddiwygio adrannau 29A a 29B o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 (“Deddf 1977”), sy'n darparu pwerau newydd i awdurdodau iechyd i wrthod mynediad i ymarferwyr i'r rhestr briodol ar y sail eu bod yn anaddas, y byddant yn peryglu effeithlonrwydd neu oherwydd iddynt ymddwyn yn dwyllodrus yn y gorffennol (adran 20);

dd

drwy fewnosod adran 43ZA newydd yn Neddf 1977, sy'n rhoi pwerau i'r Cynulliad Cenedlaethol i wneud rheoliadau sy'n darparu bod cynnwys person ar restr Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol, Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol, Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol neu Wasanaethau Fferyllol yn ddarostyngedig i amodau (sy'n ymwneud ag atal peryglu effeithlonwrydd y gwasanaeth neu weithredoedd twyllodrus) sydd i'w penderfynu gan yr awdurdod iechyd a gall yr awdurdod hwnnw amrywio'r amodau neu gyflwyno amodau newydd. Bydd rheoliadau hefyd yn darparu'r canlyniadau pe bai ymarferydd yn methu â chydymffurfio ag amod, gan gynnwys tynnu'r ymarferydd oddi ar y rhestr. Yn ogystal, bydd y rheoliadau yn rhwystro ymarferydd rhag tynnu'n ôl o'r rhestr tra bod awdurdod iechyd yn ymchwilio i ddarganfod a oes sail i'w dynnu oddi ar y rhestr neu wedi i awdurdod iechyd benderfynu tynnu'r ymarferydd o'r rhestr ond cyn i'r awdurdod roi effaith i'w benderfyniad. Rhaid i'r rheoliadau hefyd ddarparu bod hysbysiad i'w roi o unrhyw gyhuddiadau yn erbyn ymarferydd, bod yr awdurdod iechyd i gynnal gwrandawiad i glywed achos yr ymarferydd cyn i'r awdurdod wneud ei benderfyniad a bod penderfyniad yr awdurdod iechyd i'w gyfathrebu i'r ymarferydd a bod yr hawl gan hwnnw i apelio i Awdurdod Apelau Gwasanaethau Iechyd i Deuluoedd. Gall rheoliadau hefyd ddarparu bod yr awdurdod iechyd yn hysbysu personau a ragnodir o'i benderfyniad (adran 21);

e

drwy ddiwygio adrannau 35 a 36 Deddf 1977, bydd awdurdodau iechyd yn gallu dod i drefniant gyda chorfforaethau deintyddol, yn ogystal ag ymarferwyr deintyddol unigol, er mwyn iddynt ddarparu Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol (adran 22);

f

a fydd yn cyflwyno trefniadau newydd yn mynnu bod ymarferwyr sy'n darparu gwasanaethau iechyd i'r teulu yn datgan eu buddiannau ariannol ac unrhyw roddion neu fuddiannau a dderbyniant. Bydd adran 29 o Ddeddf 1977 yn cael ei diwygio. Wedi ei diwygio, bydd yr adran yn darparu ar gyfer gwneud rheoliadau a fydd yn gallu mynnu bod ymarferwyr sy'n darparu gwasanaethau meddygol cyffredinol yn datgan unrhyw fuddiannau ariannol, unrhyw roddion sy'n uwch eu gwerth na'r gwerth a ragnodir neu unrhyw fuddiannau eraill a dderbyniant mewn cysylltiad â darparu gwasanaethau GIG. Bydd pwerau rheoleiddio tebyg yn gymwys i bersonau neu gorff sy'n darparu gwasanaethau deintyddol cyffredinol, gwasanaethau offthalmig cyffredinol a gwasanaethau fferyllol (adran 23);

ff

sy'n mewnosod adran 43D newydd i Ddeddf 1977 a fydd yn ymestyn system y rhestrau a a gedwir gan awdurdodau iechyd, system sy'n bodoli eisoes, i gynnwys pawb sy'n rhoi cymorth i gyflenwi gwasanaethau iechyd i'r teulu. Bydd gan y Cynulliad Cenedlaethol y pwer i wneud rheoliadau sy'n darparu bod awdurdodau iechyd yn paratoi ac yn cyhoeddi rhestrau, a enwir yn restrau atodol, sy'n gymwys i ymarferwyr (yn staff locwm, yn ddirprwyon neu'n gyflogedigion) sy'n cynorthwyo i ddarparu Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol, Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol, Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol a Gwasanaethau Fferyllol (adran 24);

g

sy'n mewnosod adrannau 49F, 49G, 49H, 49I, 49J, 49K, 49L, 49M, 49N, 49O, 49P, 49Q a 49R newydd i Ddeddf 1977 a fyddant yn darparu bod awdurdodau iechyd yn gallu atal dros dro neu dynnu ymarferwyr o'r brif restr berthnasol o wasanaethau iechyd i'r teulu ar sail aneffeithlonrwydd, twyll neu anaddasrwydd. Mewn achosion o effeithlonrwydd neu dwyll, bydd gan yr awdurdod iechyd y pwer i ddileu ymarferydd yn amodol o'r brif restr. Hefyd, bydd gan yr awdurdod iechyd yr hawl i weithredu yn erbyn corff corfforaethol os yw'r unigolion sy'n rheoli'r corff corfforaethol eu hunain yn bodloni'r meini prawf sy'n berthnasol i dwyll neu aneffeithlonrwydd. Bydd yr adrannau newydd hefyd yn darparu ar gyfer y gweithdrefnau sy'n rhaid eu gweithredu er mwyn dileu neu atal dros dro ymarferwr o'r rhestr ynghyd â hawl i apelio at Awdurdod Apelau Gwasanaethau Iechyd i'r Teulu sy'n gallu penderfynu anghymhwyso ymarferydd rhag ymarfer yn genedlaethol (adran 35);

ng

sy'n ymestyn system restru'r awdurdodau iechyd o dan adran 28DA newydd o Ddeddf 1977 er mwyn cynnwys yr ymarferwyr hynny y gallant fod yn cyflawni gwasanaethau meddygol personol a gwasanaethau deintyddol personol (adran 26);

h

sy'n cyflwyno trefniadau newydd a enwir yn Wasanaethau Fferyllol Lleol (GFfLl). Gellir darparu gwasanaethau fferyllfa gymunedol a gwasanaethau perthynol ar sail cynllun peilot. Gall cynllun peilot gynnwys un neu fwy o drefniadau rhwng awdurdod iechyd ag unrhyw berson neu bersonau gan gynnwys fferyllwyr unigol, busnesau fferylliaeth adwerthol, contractwyr sy'n gweinyddu offer ac ymddiriedolaethau GIG (adran 28). Mae'r darpariaethau ar gyfer sefydlu cynlluniau peilot yn gofyn am gymeradwyaeth y Cynulliad Cenedlaethol (Atodlen 2). Gall y Cynulliad Cenedlaethol ddynodi cymdogaethau, safleoedd penodol neu ddisgrifiadau o safleodd at ddibenion cynllun peilot GFfLl. Gellir adolygu, amrywio neu derfynu cynlluniau peilot (adrannau 29, 30, 31 a 32). Bydd personau sy'n darparu cynllun peilot yn gallu gwneud cais i fod yn gorff gwasanaeth iechyd; o ganlyniad, bydd contractau rhwng yr awdurdod iechyd a'r corff gwasanaeth iechyd yn gontractau GIG yn unol â'r ystyr a briodolir i “NHS contracts” yn Neddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 yn hytrach nac yn gontractau cyfreithiol (adran 33). Mae cymorth ariannol ar gael er mwyn datblygu cynlluniau peilot (adran 34). Bydd y ffioedd presgripsiwn o dan y GFfLl yr un faint â'r rheini sy'n gymwys i wasanaethau a ddarperir o dan Ran 2 o Ddeddf 1977. Gellir gwneud rheoliadau ynghylch codi ac adfer ffioedd ar gyfer GFfLl (adran 35). Bydd holl ddarpariaethau Deddf 1977 yn gymwys i'r gwasanaethau a ddarperir o dan gynlluniau peilot (adran 36). Ni fydd gan berson yr hawl i ddarparu gwasanaethau o dan gynllun peilot o'r un safle â gwasanaethau fferyllol a ddarperir o dan Ddeddf 1977 (adran 37). Bydd awdurdod iechyd yn dwyn i ystyriaeth unrhyw wasanaethau a ddarperir gan berson o dan gynllun peilot pan fo'n ystyried cais gan y person hwnnw i ymuno â rhestr yr awdurdod iechyd o bersonau sydd wedi ymgymryd i ddarparu gwasanaethau fferyllol o dan Ran 2 o Ddeddf 1977 (adran 38). Bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn asesu cynlluniau peilot. Ni fydd yn bosib sefydlu cynlluniau GFfLl hyd nes bydd y cynlluniau peilot wedi cael eu hasesu a bod y Cynulliad Cenedlaethol yn fodlon bod y cynlluniau peilot wedi dangos y byddai o fudd i'r gwasanaeth iechyd i barhau i ddarparu GFfLl (adran 39);

i

sy'n cyflwyno trefniadau sydd wedi'u hadolygu ar gyfer gwasanaethau fferyllol a ddarperir o dan Ran 2 o Ddeddf 1977. Mae'n ofynnol i awdurdodau iechyd ddarparu ar gyfer cyflenwi cyffuriau, meddyginiaethau ac offer a restrwyd i bersonau o fewn eu hardal y gweinyddiwyd presgripsiwn iddynt gan ymarferwyr meddygol, o dan y gwasanaeth iechyd gwladol, neu gan ymarferwyr deintyddol. Gwneir darpariaeth ar gyfer gweinyddu presgripsiwn o eitemau penodol gan weinyddyddwyr presgripsiwn penodol eraill yn rhan o wasanaethau fferyllol GIG (adran 42);

l

sy'n galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i gyfarwyddo awdurdodau iechyd gan eu hawdurdodi neu ei gwneud yn ofynnol iddynt drefnu darparu gwasanaethau ar gyfer unrhyw berson, p'un a yw'r person hynny o fewn eu hardal neu beidio, ac i drefnu bod y gwasanaethau hynny yn cael eu cyflenwi o bell; rhoddir i'r Cynulliad Cenedlaethol hefyd y pwer i wneud rheoliadau ynglyn â gweinyddu presgripsiynau o bell (adran 43);

ll

sy'n cychwyn mân ddiwygiadau canlyniadol ynghyd â dirymiadau.

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Daethpwyd â darpariaethau'r Ddeddf y cyfeirir atynt yn y tabl isod i rym mewn perthynas â Chymru drwy gyfrwng Gorchmynion Cychwyn a wnaethpwyd cyn gwneud y Gorchymyn hwn.

Darpariaeth

Dyddiad Cychwyn

Rhif O.S.

Adran 49

03/12/2001

2001/3807 (Cy.315) (C.124)

Adran 50

19/12/2001

2001/3807 (Cy.315) (C.124)

Daeth amrywiol ddarpariaethau o'r Ddeddf i rym mewn perthynas â Lloegr o dan yr Offerynnau Statudol canlynol: O.S. 2001/2804 (C.95)O.S. 2001/3167 (C.101); O.S. 2001/3294 (C.107); O.S. 2001/3619 (C.117); O.S. 2001/3738 (C.121); O.S. 2001/3752 (C. 122) ac O.S. 2001/4149 (C.133).