2002 Rhif 1730 (Cy.164)
Rheoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Cyfyngu'r Defnydd ar Beledi Plwm) (Cymru) 2002
Wedi'u gwneud
Yn dod i rym
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
- i
ar ôl ymgynghori â'r pwyllgor a sefydlwyd1 o dan adran 140(5) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 19902;
- ii
ar ôl cyhoeddi hysbysiad yn y London Gazette yn unol ag adran 140(6)(b) o'r Ddeddf honno;
- iii
ar ôl ystyried y sylwadau a gyflwynwyd yn unol â'r hysbysiad hwnnw;
o'r farn ei bod yn briodol gwneud y Rheoliadau hyn er mwyn atal y sylweddau neu'r eitemau a bennir ynddynt rhag llygru'r amgylchedd a niwedio iechyd anifeiliaid, ac felly, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 140 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 19903, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:—
Enwi, cychwyn a chymhwyso1
1
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Cyfyngu'r Defnydd ar Beledi Plwm) (Cymru) 2002 ac maent yn dod i rym ar 1 Medi 2002.
2
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
Dehongli2
Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “aderyn gwyllt” (“wild bird”) yw unrhyw aderyn o fath sy'n preswylio'n gyffredin yng Nghymru yn gyffedinol, neu syn ymweld â Chymru, mewn cyflwr gwyllt;
ystyr “Rheoliadau 2001” (“the 2001 Regulations”) yw Rheoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Cyfyngu'r Defnydd ar Beledi Plwm) (Cymru) 20014;
ystyr “gwn cetris” (“shot gun”) yw gwn â baril llyfn ond nid yw'n cynnwys unrhyw wn cetris â siambr ar gyfer cetris ymyl-danio naw milimetr neu lai;
ystyr “peledi plwm” (“lead shot”) yw unrhyw beledi sydd wedi'u gwneud—
- a
o blwm, neu
- b
o unrhyw aloi neu gyfansoddyn plwm a phlwm yn ffurfio mwy nag 1% o'r aloi neu'r cyfansoddyn hwnnw;
- a
ystyr “person awdurdodedig” (“authorised person”) yw person a awdurdodwyd o dan reoliad 4(1) isod;
mae “safle” (“premises”) yn cynnwys unrhyw dir, cerbyd neu gwch, ond nid yw'n cynnwys safle sy'n cael ei ddefnyddio at ddibenion preswyl;
ystyr “safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig” (“site of special scientific interest”) yw ardal sydd wedi ei hysbysu o dan adran 28(1) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 19815.
Gwahardd defnyddio cetris sy'n cynnwys peledi plwm3
Ni chaiff neb ddefnyddio peledi plwm er mwyn saethu gyda gwn cetris—
a
ar unrhyw fan islaw'r marc penllanw neu drosti;
b
ar y safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig a gynhwysir yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau neu drostynt; neu
c
unrhyw aderyn gwyllt a gynhwysir yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau.
Pwerau mynediad er mwyn penderfynu a dorrwyd unrhyw ddarpariaethau'r Rheoliadau4
1
Gall person sy'n ymddangos yn addas i'r Cynulliad Cenedlaethol gael ei awdurdodi yn ysgrifenedig gan y Cynulliad Cenedlaethol i arfer, yn unol â thelerau'r awdurdod, unrhyw un o'r pwerau a bennir ym mharagraff (2) isod at ddiben penderfynu a dorrwyd unrhyw ddarpariaethau'r Rheoliadau hyn.
2
Dyma'r pwerau y gall person awdurdodedig gael ei awdurdodi i'w harfer o dan baragraff (1) uchod—
a
mynd i mewn ar unrhyw adeg resymol i unrhyw safle y mae gan y person awdurdodedig le i gredu ei bod yn angenrheidiol mynd i mewn iddo;
b
wrth fynd i mewn i unrhyw safle yn rhinwedd is-baragraff (a) uchod bod gydag ef—
i
unrhyw berson awdurdodedig arall;
ii
os bydd sail resymol dros ddisgwyl unrhyw rwystr difrifol a fyddai'n atal y person awdurdodedig rhag cyflawni ei ddyletswydd, gwnstabl; ac
iii
unrhyw gyfarpar (heblaw cyfarpar trwm) neu ddefnyddiau y mae eu hangen at unrhyw ddiben mae'r pŵer mynediad ar ei gyfer;
c
wneud unrhyw archwiliad ac ymchwiliad sy'n angenrhediol o dan yr amgylchiadau;
ch
cymryd unrhyw aderyn gwyllt sy'n farw neu wedi'i anafu neu beri bod samplau yn cael eu cymryd o unrhyw eitemau neu sylweddau sy'n cael eu darganfod mewn neu ar unrhyw safle y mae gan y person awdurdodedig bŵ er i fynd i mewn iddo ac i beri bod unrhyw aderyn neu sampl felly yn cael ei ddadansoddi neu'i brofi;
d
yn achos unrhyw aderyn neu sampl a grybwyllir yn is-baragraff (ch) uchod, cymryd meddiant ohono a'i gadw gyhyd ag y mae ei angen at y cyfan neu unrhyw rai o'r dibenion canlynol, sef—
i
ei archwilio, neu beri iddo gael ei archwilio, ac i wneud unrhyw beth iddo y mae gan y person awdurdodedig bŵ er i'w wneud o dan yr is-baragraff hwnnw neu beri i hynny gael ei wneud;
ii
sicrhau na fydd neb yn ymyrryd ag ef cyn bod yr archwiliad ohono wedi'i gwblhau;
iii
sicrhau ei fod ar gael i'w ddefnyddio fel tystiolaeth mewn unrhyw achos llys ar gyfer tramgwydd.
3
Pan fydd person awdurdodedig yn bwriadu mynd i mewn i unrhyw safle a—
a
bod mynediad wedi cael ei wrthod a bod y person awdurdodedig yn disgwyl ar seiliau rhesymol y gall fod yn angenrheidiol defnyddio grym i lwyddo i fynd mewn; neu
b
bod y person awdurdodedig yn disgwyl, ar seiliau rhesymol, y bydd mynediad yn debyg o gael ei wrthod ac y gall fod yn angenrheidiol i ddefnyddio grym i lwyddo i fynd i mewn,
rhaid mynd i mewn i'r safle hwnnw yn rhinwedd y rheoliadau hyn o dan awdurdod gwarant yn rhinwedd paragraff (4) isod yn unig.
4
Os dangosir i ynad heddwch drwy dystiolaeth ysgrifenedig ar lw—
a
bod yna seiliau rhesymol dros arfer, mewn perthynas ag unrhyw safle, bŵer o dan y rheoliad hwn (gan gynnwys pŵer sy'n arferadwy yn unol â gwarant o dan y paragraff hwn), a
b
bod un neu fwy o'r amodau a bennir ym mharagraff (5) isod wedi ei gyflawni,
gall yr ynad awdurdodi'r Cynulliad Cenedlaethol trwy warant i ddynodi person a awdurdodir i arfer y pŵer mewn perthynas â'r safle, yn unol â'r warant a thrwy rym os bydd angen.
5
Yr amodau a grybwyllir yn is-baragraff 4(b) uchod yw—
a
bod arfer y pŵer mewn perthynas â'r safle wedi'i wrthod;
b
y disgwylir yn rhesymol y bydd yn cael ei wrthod;
c
bod y safle heb ei feddiannu;
ch
bod y meddiannydd yn absennol dros dro o'r safle a bod yr achos yn un brys; neu
d
y byddai cais am fynediad i'r safle yn trechu diben y mynediad arfaethedig.
6
Bydd pob gwarant a roddwyd o dan baragraff (4) uchod yn parhau mewn grym nes bod y dibenion y rhoddwyd y gwarant ar eu cyfer wedi eu cyflawni.
7
Rhaid i berson awdurdodedig, neu berson a ddynodwyd o dan baragraff (4) uchod, ddangos tystiolaeth am yr awdurdod neu'r dynodiad (os gofynnir iddo wneud hynny).
8
Rhaid i berson awdurdodedig, neu berson a ddynodwyd o dan baragraff (4) uchod, sydd, trwy arfer unrhyw bŵ er a roddir gan y rheoliad hwn, yn mynd i mewn i unrhyw safle nad yw wedi'i feddiannu neu y mae ei feddiannydd yn absennol dros dro, adael y safle wedi ei sicrhau yn erbyn tresmaswyr yr un mor effeithiol â chyn i'r person hwnnw fynd i mewn iddo.
9
Ni fydd person awdurdodedig, neu berson a ddynodwyd o dan baragraff (4) uchod, yn atebol mewn unrhyw achos sifil na throseddol am unrhyw beth a wnaed trwy honni arfer unrhyw bŵ er a roddir gan y rheoliad hwn os bydd y llys wedi'i fodloni bod y weithred wedi ei chyflawni'n ddidwyll a bod seiliau rhesymol dros ei chyflawni.
Tramgwyddau5
1
Bydd unrhyw berson sy'n torri rheoliad 3 uchod neu sy'n peri neu'n caniatáu i unrhyw berson arall dorri'r rheoliad hwnnw yn euog o dramgwydd a bydd yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 3 ar y raddfa safonol.
2
Bydd unrhyw berson sy'n fwriadol yn rhwystro person sy'n gweithredu trwy arfer unrhyw bŵ er o dan reoliad 4 uchod yn euog o dramgwydd ac yn agored o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 3 ar y raddfa safonol.
Diddymu Rheoliadau 20016
Diddymir Rheoliadau 2001.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19986
ATODLEN 1SAFLEOEDD O DDIDDORDEB GWYDDONOL ARBENNIG
Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig | Dyddiad Dynodi o dan adran 28(1) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 | Lleoliad (Cyfeirnod Grid OS) (gweler y nodyn isod) |
---|---|---|
Angle Bay | 04/03/1993 | SM883025 |
Beddmanarch-Cymyran | 25/09/1998 | SH275790 |
Broadwater | 13/01/1993 | SH582027 |
Burry Inlet and Loughor Estuary | 25/09/1989 | SS135985 |
Carew and Cresswell Rivers | 04/03/1993 | SN025055 |
Cosheston Pill | 04/03/1993 | SM990036 |
Daugleddau | 04/03/1993 | SN003116 |
Dee Estuary | 23/09/1998 | SJ220800 |
Dyfi | 14/03/1995 | SN635950 |
Flatholm | 10/03/1993 | ST220649 |
Gronant Dunes / Talacre Warren | 29/01/1998 | SJ100847 |
Inner Marsh Farm | 11/02/1995 | SJ307735 |
Laugharne and Pendine Burrows | 18/02/1990 | SN290070 |
Llyn Alaw | 29/03/1985 | SH390865 |
Llyn Syfaddan / Llangorse Lake | 09/02/1983 | SO133265 |
Llyn Traffwll | 18/02/1986 | SH325770 |
Llynnoedd y Fali / Valley Lakes | 22/05/1986 | SH310770 |
Morfa Harlech | 25/05/2001 | SH570660 |
Ynys Llanddwyn / Newborough Warren | 09/03/1995 | SH400640 |
Pembrey Coast | 10/11/1983 | SN316054 |
Pembroke River and Pwll Crochan Flats | 04/03/1993 | SM940025 |
Severn Estuary | 02/02/1989 | ST226758 |
Shotton Lagoon and Reedbeds | 19/10/1999 | SJ298709 |
Sully Island | 16/12/1986 | ST167670 |
Teifi Estuary | 08/12/1997 | SN158502 SN785675 |
Traeth Lafan | 24/09/1984 | SH630750 |
Whiteford Burrows and Landimore Marsh | 04/04/1984 | SS450955 |
Nodyn: Mae cyfeirnod Grid Cenedlaethol yr Arolwg Ordnans yn rhoi pwynt o fewn y safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig. |
ATODLEN 2ADAR GWYLLT MEWN PERTHYNAS Å HWY Y MAE'R GWAHARDDIAD AR SAETHU Å PHELENNI PLWM YN GYMWYS IDDYNT
Enw Cyffredin | Enw Gwyddonol |
---|---|
Cwtiar | Fulica Atra |
Hwyaid a Gwyddau (holl rywogaethau pob un ohonynt) | Anatidae |
Iâr Ddŵ r | Gallinula chloropus |
Nodyn: Mae'r enw neu'r enwau cyffredin yn cael eu cynnwys fel canllaw yn unig; os bydd unrhyw anghydfod neu achos, rhaid peidio â chymryd yr enw neu'r enwau cyffredin i ystyriaeth. |
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)