2002 Rhif 1804 (Cy.174)
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Diwygio) (Rhif 3) (Cymru) 2002
Wedi'u gwneud
Yn dod i rym
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 29 a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 19771 drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso1
1
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Diwygio) (Rhif 3) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 1 Awst 2002.
2
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
Diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) 19922
1
Diwygir Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) 19922 yn unol â pharagraff canlynol y Rheoliad hwn.
2
Yn Atodlen 10 (cyffuriau a sylweddau eraill nad ydynt i'w rhagnodi i'w cyflenwi o dan wasanaethau fferyllol):—
a
mewnosodwch y cofnodion canlynol yn y fath fannau priodol a fydd yn sicrhau bod yr holl gofnodion yn ôl trefn yr wyddor—
Boots Glucomsamine Capsules 400 mg
Glucosamine Sulphate Tablets 600mg
Health Aid Glucosamine Sulphate Tablets 500mg
Solgar Glucosamine Sulphate Tablets
Vega Glucosamine Capsules 400 mg
b
hepgorwch y cofnodion canlynol—
Cow and Gate Nutriprem 2
Farley’s Premcare
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19983
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)