Offerynnau Statudol Cymru

2002 Rhif 1804 (Cy.174)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Diwygio) (Rhif 3) (Cymru) 2002

Wedi'u gwneud

11 Gorffennaf 2002

Yn dod i rym

1 Awst 2002

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Diwygio) (Rhif 3) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 1 Awst 2002.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) 1992

2.—(1Diwygir Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) 1992(2) yn unol â pharagraff canlynol y Rheoliad hwn.

(2Yn Atodlen 10 (cyffuriau a sylweddau eraill nad ydynt i'w rhagnodi i'w cyflenwi o dan wasanaethau fferyllol):—

(a)mewnosodwch y cofnodion canlynol yn y fath fannau priodol a fydd yn sicrhau bod yr holl gofnodion yn ôl trefn yr wyddor—

Boots Glucomsamine Capsules 400 mg

Glucosamine Sulphate Tablets 600mg

Health Aid Glucosamine Sulphate Tablets 500mg

Solgar Glucosamine Sulphate Tablets

Vega Glucosamine Capsules 400 mg a

(b)hepgorwch y cofnodion canlynol—

Cow and Gate Nutriprem 2

Farley’s Premcare.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

11 Gorffennaf 2002

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae meddygon sy'n darparu gwasanaethau meddygol cyffredinol o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 yn darparu'r gwasanethau hynny yn ddarostyngedig i amodau sy'n cael eu rheoleiddio gan Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) 1992 (“y prif Reoliadau”). Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r prif Reoliadau ymhellach.

Mae Rheoliad 2 yn diwygio'r rhestr yn Atodlen 10 i'r prif Reoliadau, sy'n rhestru'r cyffuriau a'r sylweddau nas ellir eu rhagnodi i'w cyflenwi tra'n darparu gwasanaethau fferyllol o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977.

Mae Rheoliad 2(a) yn ychwanegu'r cynhyrchion glucosamine sulphate a bennir at y rhestr yn Atodlen 10 ac mae Rheoliad 2(b) yn diddymu'r fformiwlâu babanod ar gyfer babanod cyn pryd o'r rhestr yn Atodlen 10.

(1)

1977 p.49; gweler adran 128(1) fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19) (“Deddf 1990”), adran 26(2)(g) ac (i), a chan Ddeddf Iechyd 1999 (p.8) (“Deddf 1999”), Atodlen 4, paragraff 38(2)(b), am y diffiniadau o “prescribed” a “regulations”.

Estynnwyd adran 29 gan Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 (p.49), adran 17; ac fe'i diwygiwyd gan Ddeddf Gwasanaethau Iechyd 1980 (p.53), adrannau 1 a 7 ac Atodlen 2, paragraff 16(a); gan O.S. 1985/39, erthygl 7(3); gan Ddeddf yr Awdurdodau Iechyd 1995 (p.17), Atodlen 1, paragraff 18 a chan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gofal Sylfaenol) 1997 (p.46), Atodlen 2, paragraff 8.

Diwygiwyd adran 126(4) gan Ddeddf 1990, adran 65(2) a Deddf 1999, Atodlen 4, paragraff 37(6).

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 29 a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S. 1999/672, erthygl 2 ac Atodlen 1. Diwygiwyd y Gorchymyn gan Ddeddf 1999, adran 66(5).