- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Wedi'u gwneud
31 Ionawr 2002
Yn dod i rym
1 Chwefror 2002
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977(1) a pharagraff 2A o Atodlen 12 iddi, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) (Diwygio) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 1 Chwefror 2002.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y prif Reoliadau” (“the principal Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997(2).
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
2. Ym mharagraff (2) o Reoliad 1 o'r prif Reoliadau (dehongli), yn y diffiniad o “NHS sight test fee”, yn lle'r swm “£42.85” rhowch “£44.39” ac yn lle'r swm “£15.52” rhowch y swm “£16.08”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
31 Ionawr 2002
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997 (“y prif Reoliadau”), sy'n darparu cynllun ar gyfer taliadau i'w gwneud gan Awdurdodau Iechyd ac Ymddiriedolaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol, drwy system dalebau, tuag at y costau a dynnwyd gan gategorïau penodol o berson mewn cysylltiad â phrofion golwg a chyflenwi, amnewid a thrwsio teclynnau optegol.
Mae Rheoliad 2 yn diwygio'r diffiniad o “NHS sight test fee” yn rheoliad 1(2) o'r prif Reoliadau i adlewyrchu gwerthoedd y ddwy lefel o ffioedd am brofion golwg y Gwasanaeth Iechyd Gwladol sy'n daladwy i ymarferwyr meddygol offthalmig ac optegwyr pan ddaw'r rheoliadau hyn i rym. Mae'r symiau hyn yn berthnasol wrth pwy sy'n gymwys i gael taleb at dalu costau prawf golwg, a phenderfynu ei gwerth adbrynu.
1977 p.49 (“Deddf 1977”); gweler adran 128(1), fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19) (“Deddf 1990”), adran 26(2)(g) ac (i), i gael y diffiniadau o “prescribed” a “regulations”. Diwygiwyd adran 126(4) gan Ddeddf 1990, adran 65(2) a chan Ddeddf Iechyd 1999 (p.8) (“Deddf 1999”), Atodlen 4, paragraff 37(5). Mewnosodwyd paragraff 2A o Atodlen 4 gan Ddeddf Iechyd a Nawdd Cymdeithasol 1984 (p.48), Atodlen 1, paragraff 3 a'i diwygio gan Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 (p.48). Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 126(4)o Ddeddf 1977 a pharagraff 2A o Atodlen 12 iddi, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), erthygl 2 ac Atodlen 1, fel y'u diwygiwyd gan adran 66(5) o Deddf 1999.
O.S. 1997/818. Yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1997/2488, 1998/499, 1999/609, 2000/978(Cy.48), 2000/3119(Cy.198) a 2001/1423(Cy.98)
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: