Print Options
PrintThe Whole
Instrument
PrintThis
Nodyn Esboniadol
only
Statws
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Nodyn Esboniadol
Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio ymhellach Orchymyn Rheoli Clefydau (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002 (y “prif Orchymyn”) (O.S. 2002/280 (Cy. 32)) (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2002/1038 (Cy. 110) ac O.S. 2002/1356 (Cy. 132)) drwy
(a)rhoi diffiniad newydd yn lle'r diffiniad presennol o “animals” (erthygl 2(2)) yn y prif Orchymyn, sydd yn gymwys bellach i fuail, gwartheg, ceirw, geifr, moch, defaid a baeddod gwyllt (roedd gynt yn gymwys i wartheg, defaid, geifr, pob anifail arall sy'n cnoi cil, anifeiliaid o deulu'r mochyn ac eliffantod); a gwneud dirymiadau canlyniadol mewn perthynas â chamelidau;
(b)diwygio erthygl 3(2)(b) i ddarparu ar gyfer llacio'r cyfyngiadau ar symud—
(i)defaid i sioe neu arddangosfa o safle y maent wedi'u symud iddo (paragraff (ix) newydd); a
(ii)anifeiliaid rhwng tir comin a safleoedd y mae hawl tir comin gofrestredig dros dir yn cael ei harfer fel rheol mewn perthynas ag ef (paragraff (xiv) newydd) a rhwng y safleoedd hyn (paragraff (xivA) newydd);
(c)mewnosod Erthygl 3(4B) newydd sy'n dadgymhwyso'r gofynion a nodir ym mhraragraff (1) o erthygl 3 o'r Prif Orchymyn i symud anifeiliaid i sŵ au a drwyddedwyd o dan Ddeddf Trwyddedu Sŵ au 1981, o'r swau hynny neu rhyngddynt (erthygl 2(5));
(ch)dirymu erthyglau 5 a 6 o'r prif Orchymyn sy'n nodi'r gofynion trwyddedu mewn perthynas â throchi a chneifio defaid a sganio defaid ag offer uwchsain (erthygl 2(6)); a
(d)dirymu erthygl 14 o'r prif Orchymyn (estynnodd erthygl 14 y diffiniad o “animals” a nodwyd yn Neddf Iechyd Anifeiliaid 1981 (p.22) i gynnwys eliffantod at ddibenion y prif Orchymyn) (erthygl 2(4)).
Nid oes arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi ar gyfer y Gorchymyn hwn.
Back to top