- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Wedi'i wneud
21 Awst 2002
Yn dod i rym
1 Hydref 2002
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Ysgrifennydd Gwladol Cymru gan adran 126(3) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977(1), adran 5(1) a (6) o Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990(2) a phob pwer arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(3) wedi cwblhau'r ymgynghori a ragnodwyd o dan adran 5(2) o Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990(4)), drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
1.—(1) sEnw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Diwygio Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre (Sefydlu) (Rhif 2) 2002 a daw i rym ar 1 Hydref 2002.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y prif Orchymyn” (“the principal Order”) yw Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre (Sefydlu) 1993 fel y'i diwygiwyd (5).
2. Rhaid diwygio'r prif Orchymyn drwy fewnosod y canlynol ar ôl erthygl 3(2):—
“(d)to manage and provide to or in relation to the health service in Wales a range of public health, health protection and health advisory services, child protection services, microbiological laboratory services and services relating to the surveillance, prevention and control of communicable diseases.”.
3. Yn erthygl 4 o'r prif Orchymyn (Cyfarwyddwyr yr ymddiriedolaeth), am “4 executive directors” amnewidier “5 executive directors.”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(6)
Jane Davidson
Y Gweinidog dros Addysg a Dysgu Gydol Oes
21 Awst 2002
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre (Sefydlu) 1993 (y prif Orchymyn) ymhellach er mwyn diwygio ei swyddogaethau a chynyddu nifer ei gyfarwyddwyr anweithredol.
Mae'r Gorchymyn yn estyn swyddogaethau'r ymddiriedolaeth i gynnwys y swyddogaeth o reoli a darparu ystod o wasanaethau iechyd y cyhoedd, gwasanaethau amddiffyn iechyd a gwasanaethau ymgynghorol, gwasanaethau amddiffyn plant, gwasanaethau labordy microbiolegol a gwasanaethau sy'n ymwneud â chadw golwg ar afiechydon trosglyddadwy, eu hatal a'u rheoli.
Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio'r prif Orchymyn ymhellach drwy gynyddu nifer y cyfarwyddwyr anweithredol o 4 i 5.
1977 p.49; diwygiwyd adran 126(3) gan adran 65(2) o Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p. 19).
Trosglwyddwyd swyddogaethau Ysgrifennydd Gwladol Cymru o dan a.126(3) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 ac a.5(1) o Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).
Amnewidiwyd adran 5(2) gan baragraff 69 o Atodlen 1 i Ddeddf Awdurdodau Iechyd 1996 (p. 17).
O.S. 1993/2838 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1999/826 ac O.S. 2002/442 (Cy. 57).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: