2002 Rhif 2199 (Cy.219)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Gorchymyn Diwygio Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre (Sefydlu) (Rhif 2) 2002

Wedi'i wneud

Yn dod i rym

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Ysgrifennydd Gwladol Cymru gan adran 126(3) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 19771, adran 5(1) a (6) o Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 19902 a phob pwer arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru3 wedi cwblhau'r ymgynghori a ragnodwyd o dan adran 5(2) o Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 19904), drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi a chychwyn1

1

sEnw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Diwygio Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre (Sefydlu) (Rhif 2) 2002 a daw i rym ar 1 Hydref 2002.

2

Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y prif Orchymyn” (“the principal Order”) yw Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre (Sefydlu) 1993 fel y'i diwygiwyd 5.

Diwygio erthygl 3 o'r prif Orchymyn2

Rhaid diwygio'r prif Orchymyn drwy fewnosod y canlynol ar ôl erthygl 3(2):—

d

to manage and provide to or in relation to the health service in Wales a range of public health, health protection and health advisory services, child protection services, microbiological laboratory services and services relating to the surveillance, prevention and control of communicable diseases.

Diwygio erthygl 4 o'r prif Orchymyn3

Yn erthygl 4 o'r prif Orchymyn (Cyfarwyddwyr yr ymddiriedolaeth), am “4 executive directors” amnewidier “5 executive directors.”.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19986

Jane DavidsonY Gweinidog dros Addysg a Dysgu Gydol Oes

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre (Sefydlu) 1993 (y prif Orchymyn) ymhellach er mwyn diwygio ei swyddogaethau a chynyddu nifer ei gyfarwyddwyr anweithredol.

Mae'r Gorchymyn yn estyn swyddogaethau'r ymddiriedolaeth i gynnwys y swyddogaeth o reoli a darparu ystod o wasanaethau iechyd y cyhoedd, gwasanaethau amddiffyn iechyd a gwasanaethau ymgynghorol, gwasanaethau amddiffyn plant, gwasanaethau labordy microbiolegol a gwasanaethau sy'n ymwneud â chadw golwg ar afiechydon trosglyddadwy, eu hatal a'u rheoli.

Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio'r prif Orchymyn ymhellach drwy gynyddu nifer y cyfarwyddwyr anweithredol o 4 i 5.